Skip to main content
Ynglŷn â’n hastudiaeth

Rydym yn ceisio deall pam mae rhai pobl yn dioddef o broblemau gyda’u hiechyd meddwl. Trwy ddeall mwy am yr hyn sy’n achosi problemau iechyd meddwl, gallwn wella triniaethau, diagnosis a chymorth yn y dyfodol.

Mae angen cynifer o bobl â phosibl arnom i gymryd rhan – lle bynnag yr ydych yn byw a p’un a ydych wedi profi salwch meddwl neu beidio.

Beth fyddwn ni’n ei ofyn?

Byddwn yn gofyn cwestiynau am eich iechyd a ffordd o fyw, ac amdanoch eich hun, fel oedran a grŵp ethnig. Byddwn hefyd yn gofyn am eich manylion cyswllt.

Faint o amser y bydd yn ei gymryd?

Tua 5 munud i ddarllen y ffurflen ganiatâd, a thua 10-15 munud i ateb y cwestiynau.

Pwy fydd yn gallu gweld fy ngwybodaeth?

Dim ond tîm yr astudiaeth fydd yn gallu gweld eich data, a dim ond aelodau’r tîm hwnnw fydd yn cysylltu â chi yn uniongyrchol.

Caiff yr holl wybodaeth a gaiff ei chasglu yn ystod yr astudiaeth ymchwil ei chadw’n gwbl gyfrinachol. Ceir deddfau llym sy’n diogelu eich preifatrwydd ar bob cam.

Yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data, caiff eich gwybodaeth bersonol ei chadw’n gyfrinachol drwy roi cod astudiaeth unigryw i’ch data. Ni fydd eich enw, nac unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i wybod pwy ydych chi, yn cael eu rhannu ag unrhyw un.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd