Skip to main content

Stori Emma

Mae Emma yn 27 oed ac yn actores, yn gyfansoddwraig ac yn nyrs-fyfyriwr seiciatrig o Lundain. Dyma ei stori hi:

Ar y dechrau cefais ddiagnosis o anhwylder panig ac iselder cyn derbyn diagnosis o anhwylder deubegynnol math dau yn y pen draw, a arweiniodd i mi ddarganfod yr NCMH trwy Bipolar UK.

Mae fy niagnosis yn golygu fy mod i wedi profi rhai isafbwyntiau ofnadwy ac uchafbwyntiau anhygoel. Mae rheoli fy iechyd meddwl yn ymdrech ddyddiol, a gall fod mor anodd cadw i fynd pan mae’n teimlo bod eich meddwl yn gweithio yn eich erbyn, ond yn y pen draw mae bob amser yn werth chweil.

Rwy’n gobeithio bod ymchwil iechyd meddwl yn gwella ansawdd bywyd pobl, ac yn y tymor hir yn lleihau dioddefaint.

Byddwn yn argymell yn fawr gymryd rhan mewn ymchwil iechyd meddwl; mae’n paratoi’r ffordd i genedlaethau’r dyfodol elwa o well triniaeth a diagnosis. Hefyd, nid oes angen llawer o ymdrech arni.

Yn fy amser hamdden rwy’n mwynhau cerdded fy dachsund bach, ac rwyf hefyd wrth fy modd yn dawnsio!

Dywedwch wrthym rywbeth amdanoch nad yw llawer o bobl yn ei wybod

Fe wnes i ddysgu Corëeg i fy hun yn ystod y cyfnod clo, 아녕하새요!

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd