Skip to main content

Stori Becci

Mae Becci yn fam 35 oed, yn flogiwr, ac yn gynrychiolydd cleifion ar gyfer Triniaeth Deg i Fenywod Cymru a’r Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Anhwylderau Cyn Mislif. Dyma ei stori am fyw gydag Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD):

Dechreuais brofi symptomau salwch meddwl tua adeg fy mislif cyntaf, a elwir yn ‘menarche’.

Am bythefnos o bob mis, roedd hi fel bod rhywbeth yn newid, a doedd gen i ddim reolaeth ar fy nghorff fy hun.

Roeddwn i’n teimlo’n isel ac yn bryderus, ac fe brofais byliau o banig, meddyliau hunanladdol, a dysmorffia’r corff.

Ar y dechrau, roedd meddygon yn tybio mai dim ond ‘tristwch yr arddegau’ oedd yn achosi fy mhroblemau.

Ar ôl hyn, cefais ddiagnosis a meddyginiaeth ar gyfer Iselder, Anhwylder Gorbryder Cyffredinol (GAD), ac yn y pen draw Anhwylder Pryder Ôl-drawmatig (PTSD).

Fodd bynnag, roeddwn yn dal i deimlo nad oedd yr un diagnosis yn gweddu i’m profiadau. Dechreuais sylwi ar batrwm yn fy symptomau, ac roedden nhw’n dechrau tua phythefnos cyn fy mislif ac yn dod i ben o fewn y ddau ddiwrnod cyntaf o waedu.

Roedd yn union yr un peth bob mis. Pan eglurais y patrwm hwn a fy nheimladau, ro’n i’n teimlo bod neb yn gwrando ac yn hynod unig.

Doedd hi ddim nes 18 mlynedd yn ddiweddarach y teimlais y rhyddhad o gael diagnosis cywir o Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD).

Ar y dechrau, roeddwn i’n teimlo’n ofnus, ond nawr rwy’n rhannu fy mhrofiadau o fyw gyda PMDD ar y cyfryngau cymdeithasol, a chydweithio â blogwyr eraill er mwyn addysgu a gadael i’r rhai sydd â phrofiad byw o PMDD wybod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain.

Rwyf hefyd yn rhannu profiadau fy mhartner o fyw gyda rhywun sydd wedi cael diagnosis o PMDD, fel bod anwyliaid yn teimlo eu bod yn cael eu cydnabod hefyd.

Darganfyddais yr NCMH gyntaf pan bostiodd y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Anhwylder Cyn Mislif fanylion yr astudiaeth.

Rwy’n credu bod cymryd rhan yn yr astudiaethau hyn yn hanfodol i ddysgu mwy am salwch meddwl, mae’n caniatáu i ymchwilwyr ddysgu mwy am yr anhwylderau hyn ac mae hyn yn helpu i addysgu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a’r gymdeithas ehangach.

Rwy’n gobeithio y bydd yr ymchwil hwn yn chwalu’r stigma ynghylch iechyd mislif ac yn helpu i ledaenu’r gair am PMDD, fel bod llai o bobl yn cael camddiagnosis, yn teimlo’n llai unig yn eu symptomau, ac yn cael eu haddysgu.

Dywedwch wrthym rywbeth efallai nad yw pobl yn gwybod amdanoch chi

Cafodd fy nyddiaduron sain am fywyd gyda PMDD sylw yn rhaglen ddogfen y BBC ’28ish Days Later’.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd