Stori Steph
Mae Steph yn ddawnsiwr 32 oed ac yn llywodraethwr cyhoeddus gwirfoddol ar gyfer y Southern Health Foundation Trust. Dyma ei stori hi:
Rwyf wedi cael trafferth gyda fy iechyd meddwl fy hun ers i mi fod tua 15 oed, ac rwyf wedi bod yn gweithio ar fy adferiad ers hynny o anorecsia, anhwylder personoliaeth emosiynol ansefydlog (EUPD), iselder a gorbryder.
Ces i wybod am yr NCMH trwy wefan GIG Lloegr ac roeddwn am gymryd rhan gan fy mod yn credu ei bod mor foddhaol ac yn creu teimlad o ostyngeiddrwydd i helpu eraill trwy ddefnyddio fy mhrofiad i wneud gwahaniaeth. Rwy’n arbennig o obeithiol y bydd hyn yn arwain at welliannau o ran ymyrraeth a thriniaeth gynnar.
Ar hyn o bryd rwy’n credu bod llawer o stigma o hyd ynglŷn â salwch meddwl, a dyna pam rydw i eisiau herio hyn trwy rannu fy stori.
Rwy’n dyheu am fod y llais nad oeddwn yn gwybod bod ei angen arnaf erioed pan oeddwn yn iau. Rwyf am gynnig gobaith i’r rhai nad ydynt efallai yn gwybod bod ei angen arnynt, hefyd.
Yn fy amser hamdden rwy’n ddawnsiwr bale brwd ac wrth fy modd yn tynnu lluniau o bobl sy’n dal elfennau o fywyd ar unrhyw foment benodol (y gall rhai ddweud y gall fod yn niwsans ar adegau) ond mae’r atgofion i’w rhannu’n ddiweddarach bob amser yn werth chweil!
Rwyf hefyd yn frwd iawn am helpu eraill, a defnyddio profiadau o fy mywyd fy hun i helpu pobl a allai hefyd fod yn cael trafferth gyda sefyllfaoedd tebyg eu hunain.
Dywedwch wrthym rywbeth amdanoch nad yw llawer o bobl yn ei wybod
Rwyf wrth fy modd yn tapddawnsio — rwyf wedi sylwi bod gwneud synau uchel yn eithaf therapiwtig, ac yn llawer mwy derbyniol yn gymdeithasol pan fydd gennych esgidiau tap ar eich traed!