Skip to main content

Mae’r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig

Mae Liz yn gynorthwyydd gweithredol wedi’i lleoli yn Essex. Mae hi hefyd yn Hyrwyddwr Ymchwil i NCMH, gan helpu i ledaenu’r gair am ein hymchwil. Dyma ei stori:

Fy enw i yw Liz ac rwy’n byw mewn pentref hardd o’r enw Coggeshall, Essex gyda fy mhartner a dau gi sbaniel, Charlie a Boris.

Ar hyn o bryd rwy’n gweithio amser llawn fel Cynorthwy-ydd Gweithredol ar gyfer brocer yswiriant, ac rydw i wrth fy modd. Mae fy nghydweithwyr a rheolwr yn fy nghefnogi 100% gyda fy iechyd meddwl, ac yn ddiweddar rydw i wedi cymhwyso fel Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl.

Rydw i hefyd yn gwneud cyflwyniadau mewn ysgolion uwchradd, yn helpu prifysgolion, yr heddlu, a chyflogwyr, ac yn wirfoddolwr cyfryngau MIND a Sane.

Mae gen i wefan o’r enw Heads2Minds lle rydw i a fy chwaer yn cydweithio i addysgu pobl o ran iechyd meddwl a lleihau’r stigma a’r gwahaniaethu sydd o’n cwmpas.

Rwy’n ymarferydd iachau crisialau ac Angelic Reiki cymwysedig. Rydw i hefyd yn arwain dosbarthiadau ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrio.

Cefais ddiagnosis o anhwylder deubegynedd 1 yn 2003. Rydw i wedi profi iselder clinigol ac episodau seicotig eithafol. Rwy’n hynod angerddol am rannu fy mhrofiad er mwyn ceisio helpu eraill ar ôl cael fy anfon am driniaeth sawl gwaith, llwyddodd hynny i arbed fy mywyd.

Fe glywais am NCMH drwy MQ: Thrawsnewid Iechyd Meddwl a fe wnes i gais i gymryd rhan yn yr ymchwil i helpu pobl i ddeall a dysgu o’n profiad byw.

Mae hyn mor hynod o bwysig, sut ydyn ni yn mynd i wella iechyd meddwl os nad yw pobl yn ymchwilio i pam mae’n digwydd yn y lle cyntaf?

Cefais gyfweliad i ddechrau ac es i trwy rai cwestiynau i ofyn amdanaf yn bersonol a hefyd fy niagnosis.

Cwblhawyd y cyfan yn broffesiynol iawn ac yna cefais becyn trwy’r post yn gofyn imi am brawf gwaed sy’n helpu gyda’r ymchwil.

Roeddwn i braidd yn bryderus ynglŷn â hyn gan nad wyf yn rhy hoff o brofion gwaed, ond cofiais mai fy rheswm dros wneud hyn oedd helpu pobl, ac yn fuan fe ddiflannodd fy ofnau.

Byddwn yn annog pobl i gymryd rhan yn yr ymchwil gan eich bod yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i’r byd hwn a helpu pobl eraill. Mae’n gyflawniad gwych ac yn gwneud y byd yn lle gwell i’r genhedlaeth iau.

Rwy’n gobeithio y bydd yr ymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, ac i ddod i ddeall pam mae gan bobl gyflyrau iechyd meddwl, a sut i’w hosgoi yn y dyfodol.

future.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd