Skip to main content

Stori Barbara

Mae Barbara yn gweithio fel Mentor Cymheiriaid Amenedigol yng Nghaerdydd. Mae hi’n mwynhau nofio a phobi ac mae’n berchen ar sbaengi adara aur o’r enw Bailey. Dyma ei stori hi:

Ar ôl rhoi geni i ddau o blant, datblygais seicosis ôl-enedigol a threuliais amser mewn uned mamau a babanod. Wyth mlynedd yn ddiweddarach des i’n sâl eto ac ar ôl dau gyfnod arall cefais ddiagnosis o anhwylder deubegynnol.

Ers hynny rwyf wedi bod yn ymgyrchydd brwd ac roeddwn yn rhan o’r ymgyrch i ddatblygu a sefydlu uned mamau a babanod newydd yn Ysbyty Tonnau yn 2017.

Ces i gyfle i wirfoddoli gyda’r elusen Action on Postpartum Psychosis (APP) am sawl blwyddyn a wnaeth fy ysgogi i archwilio gyrfa mewn mentora cymheiriaid.

Rwy’n dwlu ar fy ngwaith ac rwy’n gresynu nad oedd ar gael i mi’r holl flynyddoedd hynny’n ôl.

Rwy’n gweithio gyda thîm gwych, hyd yn oed wrth ochr fy ymgynghorydd amenedigol gwreiddiol.

Rwyf wedi troi’r hyn a oedd yn sefyllfa ddrwg i mi yn un hynod o gadarnhaol sydd o fudd i eraill bob dydd.

Rwy’n teimlo’n gryf am ddefnyddio fy mhrofiad personol i godi ymwybyddiaeth, ac wedi gwneud hyn trwy siarad mewn amrywiaeth o gynadleddau a digwyddiadau a chyfweld a Wales Online a Radio 4.

Rwy’n credu ei bod mor bwysig rhannu profiadau byw, gan obeithio y bydd yr ymchwil hon yn helpu i godi ymwybyddiaeth o seicosis ôl-enedigol a fydd, gobeithio, yn arwain at ddiagnosis cyflymach, a denu mwy o gyllid i’r sector iechyd meddwl.

Dywedwch wrthym rywbeth nad ydym yn ei wybod amdanoch chi?

Prynais hen WV Beetle pan oeddwn yn 17 oed gan lwyddo i’w adfer gyda help fy nhad!

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd