Skip to main content

Stori Mark

Cafodd Mark ddiagnosis o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) ac yntau’n 40 oed, yn sgîl moment allweddol yn ei fywyd. Mae bellach yn siaradwr ysgogol i ysgolion a busnesau ac yn ymgyrchu dros les meddyliol rhieni newydd. 

Roeddwn i’n cael trafferth yn yr ysgol. Roeddwn i’n arfer anghofio pethau ac yn methu canolbwyntio.

Y trobwynt i fi oedd pan gefais i chwalfa, yn anffodus, fel oedolyn. Roeddwn eisoes wedi cael diagnosis o bryder ac iselder, ond yna roeddwn i’n gwybod nad oedd rhywbeth yn 100%.

Roeddwn i’n ei gysylltu â’r cyfnod pan ddioddefodd fy ngwraig drawma geni difrifol ac iselder ôl-enedigol. Cafodd hynny effaith ar fy iechyd meddwl innau.

Siaradais â seiciatrydd am ddwy awr a hanner a dweud popeth wrthi yn fy mywyd, a wnaeth ‘y prawf’, a dyna pryd y cefais ddiagnosis o ADHD.

Rydych chi’n mynd drwy’r gwadu hwn ac yn dechrau meddwl, Pam na chafodd hyn ei godi yn yr ysgol? Fyddai fy mywyd wedi bod ychydig yn wahanol?

Mae fel eich bod yn mynd drwy’r cyfnod pontio hwn.

Ond yna rydych chi’n dod allan yr ochr arall ac yn meddwl, “Oni bai am yr ADHD, fyddwn i ddim yn gwneud yr hyn rwy’n ei wneud nawr, fyddwn i ddim wedi gwneud yr holl bethau rydw i wedi’u gwneud.”

Felly, rydych chi’n ailfeddwl ac yn ail-fframio yn eich meddwl: mae pethau cadarnhaol i ADHD.

Yn bersonol, roedd yn rhyddhad mawr pan allwn ei ddeall, i addysgu fy hun amdano a dweud, “Wel, wrth gwrs, dyna pam yr oeddwn yn ymddwyn yn y ffyrdd hynny.”

A gallwch fyw bywyd llwyddiannus gydag ADHD.

Wnes i ddim gwneud yn dda yn yr ysgol, ond ers hynny dwi wedi bod yn ffodus iawn i ysgrifennu llyfrau academaidd gyda’r doctor dwi wedi gweithio gyda nhw.

Yn bendant, gallwch gael gyrfa lwyddiannus pan gaiff ei rheoli.

Dysgwch fwy am brofiad byw Mark o ADHD drwy wylio ein sesiwn holi ac ymatebgydag ef.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd