Skip to main content

Stori Elin

Mae Elin yn iogi, yn sgriblwr ac yn ddarllenydd brwd gyda’r nos. Yn ystod y dydd mae hi’n gweithio mewn gwasanaethau ariannol yn Llundain.

Mae hefyd yn un o Hyrwyddwyr Ymchwil y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol (NCMH), sy’n helpu i ledaenu newyddion am ein hymchwil. Dyma ei stori hi:

Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd, roeddwn i’n teimlo’n isel, yn bryderus ac yn swil. Byddwn i’n osgoi ardaloedd cymunedol nes fy mod yn siŵr nad oedd neb yno. Fe wnaeth ffrind fy annog i geisio cymorth.

Cysylltais ag Iechyd a Lles Myfyrwyr ac euthum i ymgynghoriad cychwynnol. Pan oeddwn yn 21 oed cefais ddiagnosis o anhwylder gorbryder cymdeithasol a dechreuais CBT.

Amlinellodd y cwnselydd y ddolen adborth negyddol a oedd yn parhau fy ngorbryder, ac a oedd yn cynnwys rhyngweithio cylchol fy meddyliau, fy nheimladau, fy synhwyrau corfforol, a’m hymddygiadau.

Er enghraifft, byddwn yn meddwl, “Ni fydd fy ffrindiau fflat newydd yn fy hoffi.” Byddai hyn yn gwneud i mi deimlo’n hunanymwybodol. Wrth gymdeithasu byddai fy meddwl yn mynd yn wag a byddwn yn mynd yn dynn drwof. Byddwn yn dianc yn rheolaidd neu’n ceisio osgoi sefyllfaoedd cymdeithasol.

O ganlyniad i mi osgoi sefyllfaoedd cymdeithasol, nid oeddwn yn bondio gyda’m ffrindiau fflat, ac felly roedd fy rhagfarnau fy hun yn cael eu hatgyfnerthu. Roedd y fframwaith CBT yn fy ngalluogi i sylweddoli mai rhagdybiaethau oedd fy meddyliau, nid yn seiliedig ar ffeithiau.

Gall gorbryder cymdeithasol ynysu, drysu a blino unigolion,felly roedd deall yr anhwylder yn rhyddhad mawr.

Rwyf bob amser wedi bod yn gyfforddus ac yn siaradus yng nghwmni ffrindiau agos, ond ers amser maith, roedd fy ngorbryder yn cyfyngu ar fy ngallu i ryngweithio â phobl newydd.

Ar ôl ystyried, rwy’n sylweddoli ei bod yn debygol y dechreuodd fy mhroblemau iechyd meddwl yn fy arddegau. Rwy’n gresynu nad oedd gen i’r wybodaeth bryd hynny i adnabod fy nheimladau a’m prosesau meddwl.

Roeddwn yn profi unigrwydd dirdynnol pan symudais i Lundain ar ôl graddio, felly daeth fy ngorbryder cymdeithasol yn broblem eto.

Dechreuais CBT eto, ac yn y pen draw cefais feddyginiaeth gwrth-iselder.

Yn raddol, roedd fy symptomau’n gwella, ac roeddwn i’n teimlo’n fwy abl i ddechrau gwneud newidiadau cadarnhaol yn fy mywyd.

Ers peth amser, rwyf wedi teimlo’n sefydlog ac yn llawer mwy optimistaidd.

Er mwyn rheoleiddio fy meddyliau a’m hemosiynau rwyf bellach yn blaenoriaethu ioga, ymwybyddiaeth ofalgar a hobïau creadigol.

Rwy’n mwynhau cwrdd â phobl newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd pryd bynnag y gallaf. Bob dydd rwy’n ceisio gwneud rhywbeth rwy’n ei fwynhau.

Mae iechyd meddwl yn effeithio ar bob un ohonom, yn union fel y mae iechyd corfforol yn ei wneud.

Mae’r gwaith y mae NCMH yn ei wneud yn hanfodol i leihau’r stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl.

Os oes gennych chi’r cyflwr hwn, ystyriwch gymryd rhan yn arolwg ar-lein yr NCMH heddiw a’u helpu i wneud gwahaniaeth.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd