Stori Ahnaf
Mae Ahnaf yn ddyn teulu sy’n hoff o bêl-droed ac sy’n gweithio ym maes llywodraethu cyfreithiol yng Nghanol Llundain. Dyma ei stori:
Fe wnes i wybod am yr NCMH trwy Bipolar UK, sefydliad rwy’n aros mewn cysylltiad ag ef ar ôl derbyn diagnosis o Anhwylder Deubegynnol yn 2018 ar ôl mynd yn sâl ag angen triniaeth ysbyty arnaf.
Rwy’n credu bod cymryd rhan mewn ymchwil yn hanfodol i ddeall mwy am iechyd meddwl, ac yn arbennig gwrando ar bobl sydd â phrofiadau o salwch meddwl. I
Mae’n bwysig nad yw pobl yn teimlo’n unig yn eu profiadau o salwch meddwl, ac mae rhan o hyn yn dod o alluogi’r rhai o’n cwmpas i ddeall ein hanghenion.
Rydym yn cael diwrnodau caled, ond rwy’n eu hystyried yn wersi, ac mae’r diwrnodau da’n fendithio.
Yn fy amser hamdden rwy’n mwynhau heicio, mynd i’m Mosg lleol a threulio amser o safon gyda fy ngwraig a’m ffrindiau. Rwyf hefyd yn trefnu gemau pêl-droed ar gyfer pobl ifanc leol yn fy ardal.
Dywedwch wrthym am ffaith ddiddorol amdanoch chi’ch hun nad oes llawer o bobl yn ei gwybod:
Gallaf blygu fy amrannau… ych a fi, rwy’n gwybod!