Amnadom ni
Mae’r Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol (NCMH) yn dod ag ymchwilwyr o’r radd flaenaf o Brifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor ynghyd er mwyn dysgu mwy am sbardunau ac achosion problemau iechyd meddwl.
Ein nod yw helpu i wella diagnosis, triniaeth a chymorth i’r miliynau o bobl y mae salwch meddwl yn effeithio arnynt bob blwyddyn, yn ogystal â mynd i’r afael â’r stigma y mae llawer o bobl yn ei wynebu. Er mwyn cyflawni’r nodau hyn, mae’n hollbwysig ein bod yn ymgysylltu â gwasanaethau a’u defnyddwyr, y trydydd sector a’r cyhoedd yn ehangach er mwyn gwella dealltwriaeth o salwch meddwl, ac yn cefnogi ac yn cynnal gwaith ymchwil iechyd meddwl.
Ein hymchwil
Achosir problemau iechyd meddwl gan gydadwaith cymhleth rhwng ffactorau cymdeithasol, seicolegol a biolegol. Mae hyn yn golygu na all unrhyw ddull ymchwil unigol roi’r holl atebion i ni felly rydym yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau i ymchwilio i’r ffordd y mae’r meysydd hyn yn gorgyffwrdd ac yn rhyngweithio â’i gilydd.
Ymchwil seicogymdeithasol
Rydym yn defnyddio asesiadau ar sail cyfweliadau a holiaduron i gasglu gwybodaeth am ffactorau cymdeithasol a seicolegol a all ddylanwadu ar risg unigolyn o ddatblygu salwch.
Drwy allu nodi nodweddion personoliaeth penodol a phenderfynyddion cymdeithasol neu ddigwyddiadau bywyd penodol sy’n gysylltiedig â risg uwch o salwch, gallwn helpu gweithwyr iechyd proffesiynol i nodi cleifion sy’n wynebu risg yn gynharach a’u galluogi i gael y cymorth a’r driniaeth gywir.
Ymchwil fiolegol
Mae ein hymchwil fiolegol yn gam pwysig ar y llwybr tuag at ddatblygu dulliau diagnosis a thriniaethau gwell. Mae astudiaethau labordy yn ein helpu i ddeall mwy am y ffordd y gallai
salwch meddwl newid y ffordd y mae moleciwlau, nerfgelloedd a systemau’r ymennydd yn gweithio.
Ymchwil niwroddelweddu
Mae niwroddelweddu yn rhoi dealltwriaeth fanwl o strwythur a swyddogaeth yr ymennydd dynol. Gall technegau fel MRI ein helpu i gau’r bwlch o ran deall y cysylltiad rhwng symptomau salwch meddwl a ffactorau risg genetig.
Gallwn hefyd ymchwilio i effeithiolrwydd niwroddelweddu fel ffordd o drin problemau iechyd meddwl yn ogystal â chaethiwed i gyffuriau ac alcohol.