Partneriaid
Mae’r NCMH yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth i wella dealltwriaeth o salwch meddwl. Isod, ceir rhestr o’n sefydliadau partner allweddol.
Mae’r NCMH yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth i wella dealltwriaeth o salwch meddwl. Isod, ceir rhestr o’n sefydliadau partner allweddol.
Mae Canolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig (CNGG) yn dwyn ynghyd ymchwilwyr mwyaf blaenllaw y byd o Brifysgol Caerdydd i ymchwilio i brif achosion problemau iechyd meddwl.
Mae Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl (NMHRI) yn dwyn ynghyd arweinwyr mwyaf blaenllaw y byd i gymryd rhan mewn ymchwil ym maes y niwrowyddorau ac iechyd meddwl sy’n torri tir newydd er mwyn chwilio am atebion i’r prif anhwylderau meddwl.
Mae’r Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Chymdeithas (CFMHAS) yn cynnal ymchwil y gellir ei gyfleu a’i gymhwyso yn uniongyrchol i les pobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl, eu teuluoedd a’u gofalwyr, ac i iechyd meddwl y boblogaeth gyffredinol.
System gyswllt data dienw o’r radd flaenaf yw SAIL, sy’n dwyn ynghyd yr amrywiaeth ehangaf posibl o ddata a gesglir yn rheolaidd at ddibenion ymchwil, datblygu a gwerthuso.