Stori Rachel
Mae Rachel yn Gymraes 47 oed sy’n hoff o gerddoriaeth. Dyma ei stori hi:
Fy mhrofiad cyntaf o salwch meddwl oedd pan oeddwn tua deng mlwydd oed ac yn anffodus rwyf wedi bod yn yr ysbyty ychydig o weithiau oherwydd hyn, er fy mod bellach yn cael fy nghefnogi gan fy nhîm argyfwng iechyd meddwl lleol.
Dros y blynyddoedd rwyf wedi cael diagnosis iechyd meddwl amrywiol, gan gynnwys iselder, anhwylder personoliaeth ffiniol ac, yn fwyaf diweddar, iselder clinigol. Rwyf hefyd wedi rhoi cynnig ar wahanol feddyginiaethau i drin y diagnosis hyn, er nad yw pob un wedi bod yn effeithiol.
Des i ar draws yr NCMH trwy Iechyd Cyhoeddus Cymru ac roeddwn am gymryd rhan mewn ymchwil gan fy mod i’n meddwl ei bod mor bwysig helpu eraill trwy rannu ein profiadau o afiechyd meddwl.
Rwyf hefyd yn credu bod cymryd rhan mewn ymchwil yn cynnig cyfle i fod yn wirioneddol onest am sut rydych chi’n teimlo.
Rwy’n gobeithio y bydd fy stori yn annog eraill i gysylltu os oes angen help arnynt, gan fy mod yn credu na ddylem byth ofni siarad â rhywun am sut rydyn ni’n teimlo.
Mae’n iawn gofyn am help ac mae’n bwysig ein bod yn rhannu ein profiadau o salwch meddwl.
Yn fy amser hamdden rwy’n mwynhau pob peth technoleg ac rwy’n gefnogwr brwd o gynnyrch Apple! Rwyf hefyd wrth fy modd â cherddoriaeth, teithio a threulio amser o safon gyda fy nheulu.
Dywedwch wrthym rywbeth amdanoch nad yw llawer o bobl yn ei wybod
Rwy’n mwynhau cymryd rhan mewn ymchwil neu wirfoddoli i helpu eraill