Posted October 17th 2022
Mae’r blog hwn yn cyfeirio at hunanladdiad.
Mae’r Athro Arianna di Florio o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd yn arwain PreDDICT (anhwylder dysfforig cyn mislif – dangosyddion, achosion a sbardunau) astudiaeth ymchwil newydd sy’n ymdrechu i ddarganfod mwy am PMDD i wella diagnosis, ymyrraeth a thriniaeth.
Ddydd Llun 10 Hydref, cynhaliodd yr Athro di Florio weminar mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Anhwylderau Cyn Mislif (IAPMD) – sefydliad byd-eang sy’n ceisio darparu cymorth i gyfoedion, addysg, ymchwil, ac eiriolaeth ar gyfer anhwylderau cyn mislif.
Gwylio’r gweminar yn Saesneg
Ymunodd pobl ledled y byd â ni ar gyfer y gweminar a oedd yn trafod gwahanol gamsyniadau ynghylch PMDD. Cynigodd yr Athro di Florio ddata/safbwynt dan arweiniad ymchwil, a chroesawyd Laura Murphy, Cyfarwyddwr Addysg ac Ymwybyddiaeth o’r IAPMD a rannodd ei phrofiad byw ei hun o’r cyflwr a’i gwaith gyda’r sefydliad.
Rhoddodd cynorthwy-ydd seicoleg NCMH, Chloe Apsey, sydd hefyd yn gweithio ar PreDDICT, drosolwg cyffredinol o PMDD a chylchred y mislif:
Y cam yng nghylchred y mislif lle mae’r rhan fwyaf o bobl yn dechrau profi symptomau PMDD yw’r cyfnod lwteal – y dyddiau rhwng ofyliad a gwaedu mislifol – sy’n para deuddeg i bedwar diwrnod ar ddeg ac yn cael ei nodweddu gan lefelau uchel o brogesteron.
Gall symptomau PMDD gynnwys:
- Iselder neu hwyliau hynod isel
- Gorbryder
- Llai o ddiddordeb mewn gweithgareddau arferol (megis gwaith, ysgol, ffrindiau a hobïau)
- Syrthni, blino’n hawdd neu ddiffyg egni
- Cysgu’n ormodol neu ddiffyg cwsg
Nododd Chloe Apsey, er y gall PMDD effeithio ar unrhyw un sy’n profi cylchred y mislif, mae’r rhan fwyaf o’r llenyddiaeth a fydd yn cael ei thrafod yn gyfranogwyr a recriwtiwyd sy’n ystyried eu hunain yn fenywod.
I gael gwybodaeth ynglŷn â phrofiadau pobl drawsryweddol gyda PMDD, cliciwch yma.
Yna cyflwynodd yr Athro di Florio Laura Murphy o IAPMD a’i gwahodd i rannu ei phrofiadau ei hun o’r cyflwr.
“Roeddwn i’n ddwy ar bymtheg oed pan ddechreuais i’r bilsen atal cenhedlu am y tro cyntaf, ac ar ddiwrnod un ar hugain pan wnes i roi’r gorau i’w gymryd am yr egwyl ofynnol, rwy’n credu bod fy lefelau hormonau wedi gostwng yn sylweddol ac fe darodd fy iechyd meddwl y llawr,” nododd Laura am ei phrofiadau cyntaf o salwch meddwl hormonaidd.
Roedd hi’n jôc barhaus yn fy nhŷ prifysgol fy mod i’n gallu gwylltio, blino, ac yn flin tua adeg fy mislif. Ond wnes i erioed y cysylltiad yna rhwng fy nghylch a fy hwyliau”.
Gofynnodd yr Athro di Florio i Laura beth arweiniodd hi i feddwl ei bod yn profi PMDD.
“Cafodd PMDD ei godi gyntaf gan fy nghwnselydd, a arweiniodd at nifer o ymweliadau â meddygon teulu a diystyru symptomau”.
“Roeddwn i wedi treulio llawer o amser yn derbyn fy symptomau fel y ffordd ydw i, nad oeddwn i’n gallu ymdopi â bywyd fel pawb arall, fy mod i wedi torri”.
Ar ôl ymchwilio i PMDD, darganfu Laura adnoddau a chefnogaeth gymunedol.
Roedd yn gysur gwybod bod eraill fel fi. Dydy fy stori i ddim yn unigryw, mae yna rai eraill sydd wedi mynd trwy’r un peth â fi”.
Yna gofynnodd yr Athro di Florio i Laura pa driniaethau gafodd hi eu cynnig ar ôl cael diagnosis.
Disgrifiodd Laura effeithiolrwydd y driniaeth sydd ar gael ar gyfer PMDD, gan gynnwys ei phrofiad o lawdriniaeth.
“Roeddwn i eisoes wedi colli llawer o flynyddoedd i PMDD, ac roeddwn i eisiau cymryd peth amser yn ôl i mi fy hun. Yn llythrennol, dyma’r unig beth oedd ar ôl i mi roi cynnig arni”.
Rhestrir isod grynodeb o gamsyniadau a drafodir yn y gweminar.
A yw PMDD yn bodoli?
Cyfeiriodd yr Athro di Florio at Sefydliad Iechyd y Byd, a systemau diagnostig sy’n nodi a dosbarthu clefydau ac anhwylderau iechyd meddwl, megis y DSM-5, llawlyfr a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer asesu a rhoi diagnosis o anhwylderau meddyliol, ochr yn ochr â chyfrifon profiad byw (fel un Laura) wrth drafod bodolaeth PMDD.
Mae’r rhai sy’n credu nad yw PMDD yn bodoli yn credu bod hyn oherwydd bod PMDD yn ffenomen sy’n gaeth i’r diwylliant gyda sail gymdeithasol gref”.
Fodd bynnag, cyflwynodd yr Athro di Florio fap byd sy’n arddangos lleoliadau cofnodi symptomau, gan nodi “er bod diwylliannau nad ydynt yn orllewinol fel arfer yn cyfeirio at symptomau fel PMS, mae’r cyfraddau eu hunain yn debyg iawn – os nad yn uwch – na rhai astudiaethau tebyg a gynhaliwyd yn y Gorllewin.”
Ydy’r ymateb i newidiadau hormonaidd wastad yr un fath?
“Mae’n bwysig nodi bod pob person yn wahanol, a gall yr un newidiadau hormonaidd sbarduno ymatebion gwahanol yn ôl sensitifrwydd y person sy’n gallu newid dros amser,” meddai’r Athro di Florio.
“Nid yw pawb yr un peth,” meddai.
Defnyddiodd yr Athro di Florio astudiaethau o’r Coleg Brenhinol Obstetreg a Gynecoleg i ddangos y newid hwn.
Efallai y dylid cyfeirio at PMDD fel term lluosog i gydnabod gwahanol symptomau”.
Mewn ymateb i hyn, tynnodd Laura sylw at weminar gan yr IAPMD sy’n trafod yr is-fathau o PMDD sydd i’w gweld yma, gan ychwanegu y gall “symptomau ymddangos ar unrhyw adeg drwy gydol y bywyd atgenhedlu”.
“Mae olrhain symptomau yn allweddol i ddadwneud yr hyn sy’n digwydd,” parhaodd, gan gyfeirio gwylwyr at becyn cymorth hunansgrinio ar wefan IAPMD sydd i’w weld yma.
A yw PMDD yn gysylltiedig â hunanladdiad?
“Er nad yw hunanladdiad wedi’i restru ymhlith symptomau PMDD, mae’r llenyddiaeth yn awgrymu bod y rhai sydd â PMDD mewn perygl o hunanladdiad,” nododd yr Athro di Florio, gan gyfeirio at wahanol astudiaethau sy’n dod i’r casgliad bod cyfraddau hunanladdiad uwch ymhlith menywod â PMDD.
Fodd bynnag, mae’r Athro di Florio yn nodi bod cymharu hyn â chyfraddau hunanladdiad cyffredinol yn anoddach gan y byddai angen arolwg PMDD a hunanladdiad penodol.
Beth yw dyfodol ymchwil ym maes PMDD?
Mae’r Athro di Florio yn nodi bod ei harolwg PreDDICT yn defnyddio DNA a geneteg sy’n sefydlog ar enedigaeth, sy’n golygu nad oes o reidrwydd angen i gyfranogwyr fod yn profi symptomau ar hyn o bryd, ond y gallai fod ganddynt yn y gorffennol. Yn ogystal, gellir casglu DNA mor hawdd â darparu sampl poer.
“Gall defnyddio DNA gynnig cliwiau i fioleg PMDD. Mae llawer o amrywiadau gydag effeithiau bach yn dylanwadu ar y risg o ddatblygu anhwylderau cyffredin,” mae’n parhau.
Mae’r Athro di Florio yn diolch i staff, cyfranogwyr ymchwil, Laura ac IAPMD, cyllidwyr, a thîm Prifysgol Caerdydd cyn cyflwyno’r sesiwn Holi ac Ateb y gellir ei gwylio yma:
Cymryd rhan:
Adnoddau
- Webinar | PMDD: Myths and Misconceptions
- IAPMD | What is PMDD?
- IAPMD | Self-screen
Darllen mwy
- Blog NCMH | Deall achosion anhwylder dysfforig premenstrual
- Blog NCMH | PMDD: deall cyflwr sy’n cael ei anwybyddu