Posted July 24th 2024
Fy enw i yw Gerraint Jones-Griffiths, ac mae’n anrhydedd mawr i mi fod yn Gydymaith Er Anrhydedd Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda’r NCMH fel rhan o’r prosiect Influencing and Informing Engage to Change.
Mae Influencing and Informing Engage to Change yn brosiect saith mlynedd sydd â’r nod o gynorthwyo pobl ifanc 16-25 oed ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth i ddatblygu sgiliau cyflogaeth a dod o hyd i waith cyflogedig.
Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Anabledd Dysgu Cymru ac mae wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
Mae ymchwilwyr yn yr NCMH wedi bod yn gyfrifol am ymchwil a gwerthusiad y prosiect i ddarganfod y ffyrdd gorau o helpu pobl ifanc i gael cyflogaeth.
Dod yn Llysgennad Arweiniol
Dechreuodd fy nhaith yn 2016, lle roeddwn yn gyfranogwr prosiect Engage to Change yn wreiddiol. Trwy hyn, cefais gyflogaeth barhaus gydag Anabledd Dysgu Cymru fel Swyddog Gweinyddu Prosiect.
Yn 2018, cefais fy nyrchafu’n Llysgennad Arweiniol ar gyfer Engage to Change, a fy nghyfrifoldeb oedd arddangos mewn digwyddiadau ledled Cymru gyfan yn hyrwyddo’r prosiect. Roedd hyn yn cynnwys cadeirio cynadleddau, ac ymgysylltu â chyflogwyr a chyfranogwyr y prosiect.
Yn ogystal â hyn, roeddwn yn rheoli pum llysgennad prosiect ychwanegol i sicrhau bod pobl â phrofiadau bywyd yn cael eu cynrychioli’n well wrth godi cyhoeddusrwydd Engage to Change.
Fel rhan o’m rôl hefyd, roeddwn yn gweithio gyda grŵp fforwm gwerthuso ar gyfer y prosiect, a oedd yn cynnwys pobl ag anabledd dysgu, awtistiaeth, neu’r ddau, a oedd â diddordeb mewn darparu adborth cyflogaeth i’r tîm ymchwil yn yr NCMH.
“Roedd darn hollbwysig o adborth gan y grŵp gwerthuso yn amlygu pwysigrwydd hygyrchedd, fel bod pawb yn gallu deall canlyniadau terfynol y prosiect.”
Gwneud ymchwil yn hygyrch
Ymunais â’r tîm gwerthuso ac ymchwil yn yr NCMH yn 2021, a’n tasg gyntaf oedd creu arolwg ar-lein hawdd ei ddarllen, ac archwilio’r canlyniadau. Fy nghyfrifoldeb i oedd gwneud yn siŵr bod y canlyniadau’n hygyrch yn y ffordd orau bosibl, a gwnes hynny drwy wneud yn siŵr nad oedd unrhyw jargon yn cael ei ddefnyddio ym mhob adroddiad.
Fe wnaethom hefyd benderfynu creu fideos hygyrch ar gyfer pob adroddiad a gyhoeddwyd gennym, a gwneud yn siŵr bod y papurau cyfnodolion academaidd a gyhoeddwyd gennym hefyd ar gael mewn fformat hawdd ei ddarllen fel y gallai unrhyw un, â phrofiadau bywyd ai peidio, gael mynediad iddynt. Yn ogystal fe wnaethom hefyd ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i wneud y cyhoedd yn ymwybodol o’n gwaith.
Roedd sicrhau bod ein hadroddiadau yn hygyrch yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’n heffaith uniongyrchol. Er enghraifft, cafodd ein fideo hyfforddwr swydd ei wylio gan dros ddau gant o bobl, tra oedd ein papur academaidd gyda’r un cynnwys yn dal i aros i gael ei adolygu.
Sicrhau bod fy llais yn cael ei glywed
Nod fy ngwaith diweddaraf gyda’r tîm ymchwil yw bwrw ymlaen â’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu am y ffyrdd gorau o gynorthwyo pobl ifanc ag anabledd dysgu neu awtistiaeth i mewn i gyflogaeth, a gwneud yn siŵr bod hyn yn cael ei roi ar waith ym mholisi’r llywodraeth.
Mae’r gwaith hwn yn cynnwys arwain cyflwyniadau cenedlaethol a rhyngwladol, a chynnal trafodaeth â Llywodraeth Cymru, lle rwyf wedi ymweld â’r Senedd i siarad am ganlyniadau ein prosiect a thrafod yr hyn y gall Cymru ei ddysgu o’r gwaith hwn.
Roedd ymweld â’r Senedd yn foment bwysig i mi, oherwydd mai fi yw’r unig berson ar y tîm ymchwil sydd â phrofiad bywyd o awtistiaeth. Felly, rwy’n gwybod yn bersonol beth sydd angen ei wneud ar lefel y llywodraeth, ac roedd yn bwysig i aelodau Llywodraeth Cymru gydnabod hyn.
Dod yn Gydymaith Er Anrhydedd
Yn fwyaf diweddar, cefais fy enwebu gan Dr Elisa Vigna ac Andrea Meek ar gyfer statws Cydymaith Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd am gydnabyddiaeth o’r gwaith rwyf wedi’i wneud gyda nhw.
Roeddwn yn teimlo’n freintiedig ac yn ostyngedig pan glywais fy mod yn mynd i gael fy ngwneud yn Gydymaith Er Anrhydedd. I mi, nid yw fy ngwaith yn ymwneud â statws, ond yn hytrach mae;n rhywbeth rwy’n ei fwynhau ac mae’n bwysig i mi.
Hoffwn weld gwybodaeth fwy hygyrch am ymchwil yn y dyfodol, a hoffwn barhau i chwarae mwy o ran fel cyd-ymchwilydd, gan fod fy mhrofiad a’m gwybodaeth yn rhoi mewnwelediad dilys.
Ar sail ehangach, rwyf wir yn meddwl na ddylai unrhyw ymchwil sy’n ymwneud â phobl ag anableddau dysgu neu awtistiaeth gael ei chynnal heb gynnwys pobl â phrofiadau bywyd, yn yr un ffordd ymarferol ag yr wyf wedi gweithio gyda Dr Elisa Vigna ac Andrea Meek.
Hefyd hoffwn weld cydgynhyrchu mewn ymchwil yn digwydd yn amlach, ac mae gwir angen i bobl ag anableddau dysgu gael eu cynnwys yn hyn o fewn prifysgolion a sefydliadau eraill.
Yn ogystal, byddai’n ddefnyddiol pe bai prifysgolion yn cynnig hyfforddi ymchwilwyr am sut i gyfathrebu eu gwaith yn fwy hygyrch, megis osgoi jargon a pheidio â chyfeirio at unigolion fel ‘defnyddwyr gwasanaeth’ neu ‘ffeiliau achos’.
Mae fy niddordebau mewn ymchwil yn parhau i ddatblygu, ac rwy’n awyddus iawn i ledaenu’r gair ar draws prifysgolion a sefydliadau eraill am bwysigrwydd bod yn hygyrch ac yn gynhwysol.
Wrth i fy swydd ddod i ben eleni, rwy’n awyddus i adeiladu ar y rhwydwaith o gysylltiadau yr wyf wedi’u creu hyd yn hyn yn y gobaith y gallaf barhau i ymwneud ag ymchwil.
Os hoffech gysylltu â mi, byddwn wrth fy modd o glywed gennych jones-griffithsg@caerdydd.ac.uk
Darllen rhagor
Engage to Change | Cyd-gynhyrchu mewn ymchwil
Gwylio | Engage to Change cyfweliad gyda rhieni
Gwylio | Cymorth hyfforddwyr gwaith a Engage to Change
Gwrando | Piece of Mind podlediad pennod 13: Anabledd dysgu, awtistiaeth, a chefnogaeth i waith
Gwylio | Cyfweliad gyda Llysgennad Arweiniol Engage to Change
Gwylio | Engage to Change uchafbwyntiau’r prosiect