Gweithwyr proffesiynol
Rydym yn gweithio i ddeall mwy am achosion biolegol ac amgylcheddol salwch meddwl ac i wella’r broses o wneud diagnosis o gyflyrau iechyd meddwl a’u trin. Credwn y bydd yr astudiaeth ymchwil hon yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yn y dyfodol.
Mae cymorth y bobl sy’n gweithio ar lawr gwlad yn hollbwysig i’n hymchwil – dyna pam rydym yn cydweithio’n agos â chlinigwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol ar bob lefel ledled Cymru a Lloegr.
Fel gweithiwr iechyd proffesiynol, gallwch ein helpu i recriwtio’r cleifion-wirfoddolwyr sydd eu hangen arnom i ddeall cymhlethdodau salwch meddwl yn well.
Sut y gallwch ein helpu ni
Gall gweithwyr meddygol proffesiynol ein helpu gyda’n gwaith ymchwil mewn llawer o ffyrdd:
- Caniatáu i’n hymchwilwyr hyfforddedig recriwtio o’ch clinig
- Dweud wrth gleifion amdanom
- Arddangos ein taflenni
- Ysgrifennu at eich cleifion yn cynnig y cyfle iddynt gymryd rhan.
Os hoffech weithio gyda ni, cysylltwch ag aelod o dîm NCMH ar 02920 688401.
Yr hyn y gallwn ei wneud i chi
Mae amrywiaeth o adnoddau ar gael i weithwyr iechyd proffesiynol eu defnyddio, gan gynnwys ystod o daflenni ar gyflyrau iechyd meddwl ac adnoddau ar-lein ar gyfer adnabod arwyddion anhwylder iechyd meddwl.
Gallwn hefyd roi Siart Feddyginiaeth Hwylus i chi y gall clinigwyr ei defnyddio fel rhestr gyfeirio gyflym wrth drafod meddyginiaeth iechyd meddwl â chleifion.
Mae’r siart yn cynnwys gwybodaeth am gannoedd o feddyginiaethau iechyd meddwl cyffredin, gan gynnwys eu defnydd, eu heffeithiau a’u sgîl-effeithiau. Mae’r wybodaeth yn ddiduedd ac wedi cael ei hysgrifennu a’i gwirio gan fferyllwyr arbenigol.
Gallwch archebu taflenni ar-lein, ac i wneud cais am siart feddyginiaeth hwylus, anfonwch e-bost i info@ncmh.info.