Astudiaeth ar-lein
Rydym yn ceisio deall pam mae rhai pobl yn cael problemau gyda’u hiechyd meddwl. Drwy gymharu gwybodaeth gan bobl sydd wedi cael problemau iechyd meddwl â gwybodaeth gan bobl nad ydynt wedi cael problemau o’r fath, rydym yn gobeithio dysgu mwy am y ffactorau a all wneud rhai pobl yn fwy tebygol o ddatblygu salwch na phobl eraill. Rydym yn gobeithio y bydd ein hastudiaeth yn gwella dealltwriaeth o salwch meddwl ac yn helpu i ddod o hyd i driniaethau gwell yn y dyfodol. Os byddwch yn penderfynu cymryd rhan, byddwn yn gofyn i chi roi rhywfaint o wybodaeth sylfaenol i ni amdanoch chi a’ch iechyd meddwl er mwyn ein helpu i ateb y cwestiynau ymchwil pwysig hyn.
Rydym hefyd am ddod o hyd i bobl a fyddai’n fodlon i ni gysylltu â nhw ynglĹ·n â chymryd rhan mewn rhagor o brosiectau ymchwil iechyd meddwl.
Mae angen i gynifer o bobl â phosibl gymryd rhan – beth bynnag fo’ch oedran, ble bynnag rydych yn byw a ph’un a ydych wedi cael salwch meddwl ai peidio.
Beth fydd yn rhaid i mi ei wneud?
Mae cymryd rhan yn wirfoddol: chi sy’n penderfynu p’un a ydych am gofrestru ai peidio.
Os byddwch yn ymuno â ni, byddwn yn gofyn i chi p’un a fyddech yn fodlon gwneud y canlynol:
- Rhoi eich manylion cyswllt i ni (e.e. cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) a rhywfaint o wybodaeth bersonol (e.e. dyddiad geni, grŵp ethnig a statws cyflogaeth).
- Ateb rhai cwestiynau am eich iechyd meddwl, eich iechyd corfforol a’ch ffordd o fyw. Bydd hyn yn cymryd tua 10-15 munud.
- Caniatáu i ni weld a defnyddio’r wybodaeth yn y cofnodion y mae’r GIG yn eu casglu amdanoch fel mater o drefn. Nod hyn yw cael rhagor o fanylion am y mathau o symptomau a thriniaethau y byddwch wedi’u cael o bosibl. Hoffem hefyd edrych ar eich cofnodion yn y dyfodol er mwyn gweld a oes unrhyw newid wedi bod yn eich iechyd.
- Caniatáu i ni gysylltu â chi yn y dyfodol ynglŷn ag astudiaethau eraill y byddwch am gymryd rhan ynddynt o bosibl. Ni fydd unrhyw rwymedigaeth arnoch i gymryd rhan yn y cyfleoedd hyn yn y dyfodol.
- Caniatáu i ni gysylltu â chi bob 6–12 mis er mwyn eich gwahodd i roi rhagor o wybodaeth i ni am eich iechyd meddwl, eich iechyd corfforol a’ch ffordd o fyw.
- Caniatáu i ni rannu gwybodaeth ddienw ag ymchwilwyr eraill os oes ganddynt gymeradwyaeth wyddonol a moesegol ar gyfer y cwestiynau yr hoffent eu hateb.
Byddwn yn defnyddio eich atebion, ynghyd â’r wybodaeth o’ch cofnodion GIG, i wella ein dealltwriaeth o salwch meddwl a helpu i ddod o hyd i driniaethau gwell yn y dyfodol. Ar Ă´l i chi ymuno, gallwch ddewis p’un a ydych am gymryd rhan yn unrhyw rai o’r holiaduron, astudiaethau neu ddigwyddiadau y byddwn yn rhoi gwybod i chi amdanynt pan fyddwn yn cysylltu â chi.