Skip to main content

PMDD: deall cyflwr sy’n cael ei anwybyddu

Fel un sydd wedi cwblhau Gradd Meistr yn ddiweddar ac sydd wedi astudio Seicoleg ers lefel TGAU, roeddwn i’n synnu pan gychwynnais yn swydd Cynorthwy-ydd Seicoleg yn NCMH, gan fy mod yn ymchwilio i Anhwylder Hwyliau nad oeddwn wedi clywed amdano erioed.

Gwaetha’r modd, nid yw pob diagnosis yn cael ei drin yn gyfartal o ran ymwybyddiaeth neu ymchwil.

Dyna pam rwyf mor falch o fod yn gweithio tuag at newid hyn, a chan ei fod yn fis ymwybyddiaeth o PMDD, mae hwn yn gyfle delfrydol i ddechrau’r sgwrs am iechyd meddwl atgenhedlol.

Beth yw PMDD?

Mae Anhwylder Dysfforig Cynfislifol (PMDD) yn anhwylder hwyliau yr amcangyfrifir ei fod yn effeithio ar tua 5.5% o’r bobl sy’n cael mislif.

Yn ystod yr wythnos cyn dechrau gwaedu (a adwaenir fel cyfnod lwteaidd cylch y mislif), mae’r unigolion hyn yn profi newid hwyliau ac emosiynol difrifol, gan gynnwys gorbryder a hwyliau isel, llai o ddiddordeb mewn gweithgareddau arferol, anawsterau’n canolbwyntio a symptomau eraill.  Mae’r symptomau hyn yn dechrau gwella o fewn ychydig ddyddiau wedi i’r gwaedu misol (mislif) gychwyn.

Mae PMDD wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â chylch y mislif, ond nid yw’n digwydd o ganlyniad i anghydbwysedd hormonau; yn hytrach credir ei fod yn adwaith negyddol difrifol i amrywiadau naturiol oestrogen a phrogesteron sy’n digwydd yn ystod y cylch.

Diagnosio PMDD

Dim ond yn 2013 yr ychwanegwyd yr anhwylder at y rhestr o anhwylderau iselder yn y Llawlyfr Diagnostig ac Ystadegol o Anhwylderau Meddyliol (DSM-5).

O ganlyniad, nid yw’r anhwylder yn hysbys iawn ac oherwydd nad yw’r symptomau’n digwydd ond am ryw wythnos, gall fod yn anodd ei adnabod neu ei ddiagnosio.

Er mwyn gwneud diagnosis o PMDD mae angen tracio’r symptomau am ddau gylch mislif o leiaf, ac mae angen i o leiaf bump o’r prif symptomau fod yn bresennol.

Ar hyn o bryd nid oes prawf gwaed na phoer i roi diagnosis o PMDD, fodd bynnag gall y rhain fod yn ddefnyddiol er mwyn diystyru anhwylderau gwaelodol eraill (er enghraifft, anghydbwysedd hormonau).

Nawr mae’n bwysig nodi ei bod yn gyffredin i bobl brofi symptomau a/neu Syndrom Cynfislifol (PMS) yn ystod yr wythnos cyn y gwaedu misol, ac mae ymchwil ddiweddar yn dangos bod 80% o bobl sy’n cael mislif yn dweud eu bod yn profi rhai symptomau cynfislifol.

Mae symptomau cynfislifol pob unigolyn yn wahanol, ac mae pob profiad yn ddilys.

Fodd bynnag, er mwyn cael diagnosis o PMDD, mae angen i’r symptomau hyn fod yn gysylltiedig â thrallod eithafol ac ymyrryd â gweithrediad ‘beunyddiol’.

Pa driniaethau sydd ar gael ar hyn o bryd?

Mae gwahanol opsiynau triniaeth ar gyfer PMDD, yn amrywio o newidiadau dietegol a maethol i feddyginiaethau i helpu i sefydlogi hwyliau.

Gall effeithiolrwydd y triniaethau hyn amrywio, ac mae’n bwysig dod o hyd i’r dulliau gorau neu’r cyfuniad gorau o ddulliau, er mwyn helpu i reoli eich symptomau.

Yn nodweddiadol, y camau gweithredu a argymhellir gan feddygon teulu yw: diet iach, digon o ymarfer corff, lleihau straen a digon o gwsg, ond mae hynny’n llawer haws ei ddweud na’i wneud.

Gall unigolion sydd wedi cael diagnosis o anhwylder hwyliau arall, megis anhwylder iselder mawr, anhwylder panig neu anhwylder iselder parhaus (dysthymia) gael bod y symptomau sy’n gysylltiedig â’r anhwylder hwnnw’n gwaethygu yn ystod yr wythnos cyn gwaedu’r mislif.

Yr enw ar hyn yw Gwaethygu Cynfislifol (PME), a gwahaniaethir rhwng hynny a PMDD oherwydd bod y symptomau’n parhau drwy gydol y mis.

Er nad yw PME yn cael ei gydnabod fel diagnosis swyddogol ar hyn o bryd, mae’n dal yn bwysig cydnabod a thrafod er mwyn cael eich cyfeirio at y driniaeth a’r gefnogaeth gywir.

Beth mae’r NCMH yn ei wneud i newid hyn?

Fel rhan o raglen ymchwil ‘Pensaernïaeth Genetig Anhwylderau Rhyw Seiciatrig cysylltiedig â Steroidau’ (GASSP) Dr Arianna Di Florio, rydym yn rhedeg y prosiect ‘ PreDDICT: Anhwylder Dysfforig Cynfislifol – Dangosyddion, Achosion a Sbardunau’.

Nod y prosiect yw gwella dealltwriaeth o sut gall ffactorau genetig ac amgylcheddol helpu i adnabod unigolion sydd mewn perygl, gyda’r nod hirdymor o helpu i wella’r dull gweithredu presennol o ran diagnosis, ataliaeth, triniaeth a chefnogaeth i unigolion sy’n profi PMDD.

Rydym yn bwriadu dechrau recriwtio cyfranogwyr tua diwedd yr haf, a bydd yr astudiaeth yn cael ei rhyddhau ar-lein yn y misoedd dilynol.

Byddwn yn recriwtio cyfranogwyr sy’n profi PMDD neu symptomau PMS eithafol ar hyn o bryd, neu a fu’n eu profi’n flaenorol.

Gofynnir i gyfranogwyr lenwi holiadur 20-30 munud a fydd yn gofyn cwestiynau am iechyd meddwl, iechyd corfforol, a’ch profiad o PMDD.

Er nad ydym yn recriwtio ar hyn o bryd, mae croeso i chi fynegi diddordeb, a byddwn yn estyn allan atoch pan fydd yr astudiaeth yn dechrau. Cymerwch ran yn ein hymchwil PMDD yma.

Adnoddau

Os ydych chi’n meddwl y gallech chi neu rywun sy’n agos atoch fod yn profi PMDD neu PME, siaradwch â meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall. Mae amrywiaeth o rwydweithiau ac adnoddau cymorth ar gael hefyd.

Gweler isod os hoffech chi ddysgu mwy am PMDD:

Chymorth

Os oes angen i chi siarad â rhywun ar unwaith i gael cymorth emosiynol:

Chloe Apsey

Mae Chloe yn Gynorthwy-ydd Seicoleg i NCMH ac mae'n gweithio ar brosiect PreDDICT.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd