Skip to main content

Dyw anhwylder deubegwn ddim yn ddedfryd oes

Bu Hyrwyddwr Ymchwil NCMH Steve yn sgwrsio â ni am ei brofiad o fyw gydag anhwylder deubegwn math II, gan drafod pynciau fel ei ddiagnosis, byw'n gadarnhaol gyda'r anhwylder a chipolwg ar ei fywyd teuluol.

Cefais ddiagnosis yn 2015 pan oeddwn tua 42 oed. Roedd fy ngwraig wedi bod yn dweud ers tro bod rhywbeth ddim yn hollol iawn gyda fi.

Roedd hi’n amau seiclothymia gan ddweud fy mod yn aml yn negyddol iawn neu fel arall yn or-gyffrous am brosiectau a phethau roeddwn i’n eu gwneud.

Siaradais gyda rhywun ar-lein ond mae’n debyg nad nhw oedd y person iawn i siarad â nhw, felly chefais i ddim diagnosis ar y adeg honno.

Cael diagnosis yn yr Unol Daleithiau

Aeth pethau ymlaen am ychydig tan i fi deithio i Austin yn UDA i aros gyda ffrindiau.

Tra’r oeddwn i yno gwnes i’r penderfyniad i fynd i weld rhywun.

Gwelais seicolegydd, a gadarnhaodd mai anhwylder deubegwn math II oedd arnaf i.

Roedd yn dipyn o syndod gan i mi feddwl falle fod y ‘fersiwn llai’ arnaf i, ond ar yr un pryd roedd yn gryn ryddhad i gael gwybod a meddyliais i, “Dyna fwy neu lai beth sydd wedi bod yn digwydd gyda fi.”

Roedd cael diagnosis yn beth cadarnhaol iawn i fi.

https://www.ncmh.info/2022/02/07/developmental-language-disorder-in-the-classroom-10-things-ive-learned-about-dld/

Dyw deubegwn ddim yn ddedfryd oes

Mae deubegwn wedi chwarae rhan enfawr yn fy mywyd a hyd yn oed cyn i mi wybod fy mod wedi profi iselder neu hypomania, roeddwn i’n gwybod fy mod i’n wahanol.

Roeddwn i’n ei chael yn anodd mwynhau hobi, ac yn anodd rhyngweithio gyda phobl.

Ond rwy’n credu ei fod wedi fy helpu i ddod yn fwy empathig at bobl eraill, yn enwedig pobl eraill a allai fod yn profi rhywbeth ar yr adeg benodol honno yn eu bywydau.

Felly drwy gydol fy mywyd fel oedolyn rwyf i wedi ceisio cadw pethau’n syml, a gallech chi ddweud bod hynny wir wedi helpu i fy ffurfio i.

Rwy’n ceisio gwneud bywyd mor syml â phosibl, ac rwy’n credu bod hynny wedi rhoi persbectif gwahanol ar fywyd i fi.

Ac mae wedi gwneud i fi sylweddoli hefyd nad yw deubegwn yn ddedfryd oes. Mae’n rhywbeth y gallwn ni barhau i’w wella a gallwn fyw bywydau boddhaus a hapus iawn.

Parents lifting their child by the hands on a walk in nature

Sut mae anhwylder deubegwn yn effeithio ar fy mywyd teuluol

Rwyf i hefyd yn gweld bod anhwylder deubegwn yn effeithio ar fy mywyd teuluol gan fod fy hwyliau’n amrywio, felly weithiau dyw’r plant ddim wir yn gwybod pa dad sydd o’u blaenau.

Gall fod yn dad dig neu’n dad blin.

Neu gallai fod yn dad hwyliog a chyffrous, sy’n gwneud  llawer o bethau, felly weithiau mae’n anodd.

Os yw fy mhlant am wneud pethau ond dydw i ddim mewn hwyliau i wneud dim, rwy’n teimlo’n wael ac yn teimlo nad ydw i wedi bod y rhiant gorau y gallwn i fod.

Yn gyffredinol, mae’n bendant yn effeithio ar fywyd teuluol a chymdeithasol ar nifer o lefelau.

Serch hynny, dydw i ddim eisiau cydymdeimlad os ydw i mewn hwyliau isel. Dim ond i bobl ddeall nad ydw’n mynd i allu gwneud yr holl bethau y byddwn i’n gallu eu gwneud fel arfer.

Felly mae’n help os yw rhywun yn dweud, “Hei, bydd yn ymwybodol o ble’r wyt ti ar y funud a phaid â gadael i dy hun fynd yn llwyr.”

Pwysigrwydd ymchwil iechyd meddwl

Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod ni’n parhau i ddysgu am yr ymennydd dynol.

Dim ond megis dechrau deall sut mae ein hymennydd yn gweithio ydyn ni, ac mae ffordd bell i fynd eto.

Felly, rwy’n meddwl po fwyaf o ymchwil a wnawn ni, y mwyaf y byddwn yn ei ddatgelu, y mwyaf y gallwn ddysgu amdanom ein hunain.

A dim ond drwy ymchwil y profwyd fod pethau fel ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrio, yn wyddonol, yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr a newid strwythur a llwybrau yn eich ymennydd.

Yr holl ymchwil yma sy’n ein helpu i ddeall y pethau hyn, ac yn araf bach gallwn ddechrau gosod darnau’r pos at ei gilydd i weithio ar gynlluniau llawer mwy cyflawn i bobl allu gwella eu hiechyd meddwl.

📺 Gwyliwch ein sesiwn holi ac ateb lawn gyda Steve:

Adnoddau

Darllen rhagor

Steve

Cafodd Steve ddiagnosis o Anhwylder Deubegynol II yn 2015, ac mae wedi defnyddio technegau hunanreoli i wella ei iechyd meddwl. Mae ganddo wefan sy'n rhannu syniadau ar gyfer llunio cynllun i wella iechyd meddwl er mwyn helpu eraill.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd