Skip to main content

Cyfarwyddwr NCMH yn westai ar bodlediad newydd Bipolar UK

Bu'r Athro Ian Jones yn westai ar bodlediad newydd sbon Bipolar UK Let's Talk Bipolar, dan ofal Emma Belle, sydd 芒 phrofiad byw o anhwylder deubegynol.

Mae Emma, a gafodd ddiagnosis 10 mlynedd yn 么l, yn rhannu sgyrsiau a phrofiadau bywyd y rhai sy’n byw gyda deubegynedd ar y podlediad, yn ogystal 芒 sgwrsio 芒 gweithwyr proffesiynol yn y meysydd meddygol ac ymchwil, a theuluoedd a gofalwyr sy’n cefnogi’r rhai sy’n byw gyda deubegynedd.

Gwahoddwyd yr Athro Jones, Cyfarwyddwr NCMH ac athro Seiciatreg Amenedigol yn Isadran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol Prifysgol Caerdydd, i’r podlediad i siarad am dymhorau bywyd amenedigol ac 么l-enedigol gydag anhwylder deubegynol.

Dywedodd yr Athro Jones am ei ymchwil, “Rydyn ni’n gwybod bod anhwylder deubegynol yn salwch pwysig iawn a all effeithio’n ddifrifol ar unigolion. Mae profiad pawb ohono yn wahanol.

Mae helpu pobl i fyw’r bywyd gorau y gallant yn rhan bwysig iawn o fy ngwaith.

“Y nod yw atal pobl rhag mynd yn s芒l, ac yna feddwl am driniaethau gwell nag sydd gennym ni nawr. Yr hyn sydd ei angen yw ffyrdd gwell i drin pobl.

“Rydyn ni’n anelu at siarad 芒 chymaint o bobl sydd 芒’r salwch 芒 phosib i sylwi ar batrymau, ac mae cael babi yn un o’r patrymau hynny.”

“Dysgu dawnsio gyda Deubegynedd”

Soniodd Emma am dderbyn yr anhwylder a’i bod bellach yn barod i gyd-fodoli 芒鈥檙 peth ar 么l bod yn ei frwydro cyhyd.

“Dyna yw pwrpas hyn,” meddai’r Athro Jones, “Er ei fod yn salwch difrifol gall pobl fod yn dawel eu meddwl ei bod yn bosib iddyn nhw gael bywyd da gydag e.”

“Mae derbyn y peth yn enfawr,” atebodd Emma, “Ac mae’r daith at dderbyn yn un haenog. Rwyf i wedi dysgu dawnsio gyda deubegynedd.”

Athro Ian Jones

Edrych i’r dyfodol gydag ymchwil Deubegynol

Pan ofynnwyd iddo am ymchwil deubegynol yn y dyfodol, dywedodd yr Athro Jones:

Gall ymchwil ein helpu i ddeall deubegynedd yn well ac arwain at ddatblygiadau, ac yna at y cam triniaeth nesaf fydd yn bwysig iawn mewn blynyddoedd i ddod. Rydyn ni’n gobeithio ein bod ni’n mynd i’r cyfeiriad cywir.

Beth yw anhwylder Deubegynol?

Mae Anhwylder Deubegynol yn salwch cymhleth a all amrywio’n fawr o ran natur a difrifoldeb rhwng pobl, fel yr esboniodd yr Athro Jones ar y podlediad:

Mae’n anhwylder hwyliau sy’n effeithio ar emosiynau pobl. Mae pawb ar y blaned yn profi hwyliau uchel a hwyliau isel, ond i bobl ag anhwylder deubegynol mae’r hwyliau hynny’n llawer mwy eithafol, gan gyrraedd pwynt y byddem ni fel clinigwyr yn ei alw’n ‘episod clinigol’.

Os oes gennych anhwylder deubegynol byddwch yn profi cyfnodau uchel a elwir yn mania neu hypomania, ac fel arfer, cyfnodau o iselder.

“Yn bwysicaf oll efallai, bydd y symptomau hynny’n achosi nam sylweddol yn eich gweithrediad o ddydd i ddydd,” meddai’r Athro Jones.

Cael help

Os ydych chi’n credu y gallai fod gennych chi anhwylder deubegynol, dylech weld eich meddyg teulu yn gyntaf, a fydd yn cynnal asesiad cychwynnol.

Yn dibynnu ar ganlyniad hynny, bydd eich meddyg teulu yn penderfynu a oes angen atgyfeiriad arnoch at weithiwr iechyd meddwl gofal sylfaenol, eich T卯m Iechyd Meddwl Cymunedol lleol neu wasanaeth arall, yn 么l eich anghenion.

Os cewch eich cyfeirio at eich TIMC lleol byddwch yn derbyn asesiad manylach, a byddan nhw’n gweithio gyda chi i gynllunio’r triniaethau cywir ar eich cyfer.

Mae gwaith yr Athro Jones mewn anhwylder deubegynol yn parhau, gan weithio’n agos gyda Bipolar UK. Yn ddiweddar fe ymddangosodd yng nghynhadledd 2021 yr elusen ym mis Ebrill.

Cewch glywed y diweddaraf yn y gyfres podlediad Let’s Talk Bipolar.

Adnoddau

Darllen mwy

Mike Owen

Mike yw Swyddog Cyfathrebu NCMH a'r Is-adran Meddygaeth Seicolegol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ff么n:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae鈥檙 NCMH yn rhan o鈥檙 isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd