Skip to main content

Anhwylder Deubegynol

Beth yw anhwylder deubegynol?

Mae anhwylder deubegynol yn salwch cymhleth sy’n gallu amrywio’n fawr o ran natur a difrifoldeb rhwng gwahanol bobl. Mae pobl sydd ag anhwylder deubegynol yn cael problemau gyda’u hwyliau, gan brofi uchafbwyntiau ac iselbwyntiau eithafol.

Os oes gennych anhwylder deubegynol, byddwch yn cael cyfnodau, neu ‘byliau’, o deimlo’n dda, a elwir yn fania neu hypomania ac, fel arfer, gyfnodau o iselder. Efallai y byddwch hefyd yn cael problemau gyda meddwl ac ymdeimlad, a all gynnwys symptomau seicosis. Gall hyn gynnwys meddwl pethau nad ydynt yn wir (rhithdybiaethau) a gweld neu glywed pethau nad ydynt yno mewn gwirionedd (rhithwelediadau).

Mae ymchwil yn dangos bod anhwylder deubegynol yn rhedeg mewn teuluoedd, a gall genynnau effeithio ar debygolrwydd rhywun o ddatblygu’r salwch. Gwyddom hefyd fod systemau’r ymennydd sy’n helpu i reoli ein hwyliau yn gweithio’n wahanol mewn pobl sydd ag anhwylder deubegynol.

Gall ffactorau megis straen bywyd, diffyg cwsg a chyffuriau hamdden achosi newid mewn hwyliau. Gall anhwylder deubegynol beri cryn straen, ond mae llawer o bethau y  gallwch eu gwneud i aros mor iach â phosibl. Mae hyn yn cynnwys newid ffordd o fyw, meddyginiaeth a thriniaethau siarad.

Cael help

Os ydych yn meddwl bod gennych anhwylder deubegynol, dylech fynd i weld eich meddyg teulu yn gyntaf a fydd yn cynnal asesiad cychwynnol.

Yn dibynnu ar beth a ddaw o hynny, bydd eich meddyg teulu yn penderfynu p’un a oes angen eich cyfeirio at weithiwr gofal iechyd meddwl sylfaenol, eich Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC) neu wasanaeth arall, yn dibynnu ar eich anghenion.

Os cewch eich cyfeirio at eich TIMC lleol, byddwch yn cael asesiad arall, mwy manwl, a bydd yn gweithio gyda chi i gynllunio’r triniaethau cywir ar eich cyfer.

Triniaeth ar gyfer anhwylder deubegynol

Mae meddyginiaeth yn rhan hanfodol o gadw’n iach i lawer o bobl sydd ag anhwylder deubegynol.

Mae nifer fawr o feddyginiaethau a all helpu.  Mae rhai’n gweithio drwy atal yr hwyliau da neu ddrwg eithafol sy’n cael eu hachosi gan y cyflwr; gelwir y rhain yn sadwyr hwyliau, ac yn aml mae angen eu cymryd yn ddyddiol am gyfnodau hir. Gall meddyginiaethau eraill gael eu defnyddio wedyn i drin pyliau o hwyliau da neu ddrwg pan fyddant yn digwydd.

Mae meddyginiaethau gwahanol yn addas i bobl wahanol, a gall dod o hyd i’r feddyginiaeth orau i unigolyn gymryd amser a threialon gyda meddyginiaethau a dosau gwahanol. Gallwch gael mwy o wybodaeth am feddyginiaeth iechyd meddwl yn www.ncmh.info/medication, yn cynnwys sut mae gwahanol gyffuriau’n gweithio, eu sgîl effeithiau posibl a’r ffordd maent yn rhyngweithio â chyffuriau eraill, bwyd a diod.

Gall triniaethau siarad megis seico-addysg fod o gymorth hefyd. Mae’r driniaeth hon yn helpu pobl i ddeall eu salwch, dysgu i adnabod arwyddion cynnar unrhyw byliau o hwyliau da a drwg a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i aros mor iach â phosibl.

Mae Rhaglen Addysg Deubegynol Cymru, neu BEPCymru, yn un enghraifft. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y cwrs hwn yn www.ncmh.info/bepcymru. Cyfuniad o feddyginiaeth a seico-addysg sy’n fwyaf effeithiol fel arfer.


Cofrestrwch nawr er mwyn gwneud gwahaniaeth
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd