Posted October 20th 2021
Rydw i wastad wedi teimlo fy mod i rywsut yn wahanol i bobl eraill.
Yn fy arddegau roeddwn i’n aml yn teimlo’n flinedig ac wedi fy natgysylltu oddi wrth bobl eraill, ac yn teimlo fy mod i’n colli allan ar ryw gyfrinach mewn bywyd bod pobl eraill yn ei fwynhau.
Doeddwn i byth yn meddwl bod gen i broblem iechyd meddwl, dim ond fy mod i rywsut ddim cystal â phobl eraill mewn llawer o ffyrdd.
Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd bod â diddordeb mewn fawr ddim, a threuliais i lawer o flynyddoedd yn fy arddegau a phan oeddwn i’n oedolyn yn yfed ac yn gwneud cyffuriau yn hytrach na datblygu hobïau a sgiliau bywyd.
Yna, tua 2010 dechreuais deimlo pethau’n newid, a dechreuais fynd yn ôl ac ymlaen rhwng teimlo’n isel iawn a theimlo’n frwdfrydig iawn, weithiau o fewn yr un wythnos.
Sylweddolodd fy mhartner fod rhywbeth o’i le, ac yn y diwedd yn 2015 penderfynais fynd i weld seicolegydd. Cefais ddiagnosis o Anhwylder Deubegynol II, ac yn sydyn roedd fy mywyd fel pe bai’n gwneud synnwyr.
Es i ati’n syth i wneud cymaint o ymchwil â phosibl er mwyn gweithio allan sut i’w gadw dan reolaeth.
Gwneud newidiadau parhaol
Y gwir amdani yw bod gwneud newidiadau parhaol i’n bywydau yn anodd. P’un a ydym yn ceisio dechrau ymarfer corff neu roi’r gorau i fyrbrydau, rhoi’r gorau i yfed neu gyffuriau, gwario llai o arian neu dreulio llai o amser ar ein dyfeisiau, mae angen aberthu rhywbeth.
Yr hyn rydyn ni’n ei aberthu yw’r teimlad o fod yn gyfforddus, o ganlyniad i ddefnyddio mwy o egni, cael llai o amser rhydd, neu orfod rhoi’r gorau i rywbeth arall er mwyn teimlo’n well a gwella yn y pen draw.
Fodd bynnag, gall y manteision fod yn bellgyrhaeddol a gallant ein helpu i wneud gwelliannau hirdymor i’n hiechyd meddwl.
Pryd mae newid yn digwydd?
Yn aml, mae’r newidiadau mwyaf yn digwydd pan fydd y teimlad anghyfforddus o aros yr un peth yn dod yn fwy na’r teimlad anghyfforddus o newid pethau.
Pan gefais ddiagnosis o Anhwylder Deubegynol II yn 2015, ymchwiliais i’r hyn y dylwn fod yn ei wneud i helpu fy hun, ac un o’r pethau hynny oedd ymarfer corff.
Dechreuais nofio dair gwaith yr wythnos a sylwais fy mod i’n teimlo gryn dipyn llai o iselder ar ôl ychydig wythnosau.
Weithiau, am ryw reswm neu’i gilydd, roeddwn i’n mynd wythnos neu ddwy heb wneud ymarfer corff, ac yn llithro yn ôl yn gyflym i hwyliau isel.
Sylweddolais y byddai’n llai anodd parhau i wneud ymarfer corff na stopio a dechrau a gorfod parhau i ddringo allan o’r twll du hwnnw o iselder.
Cymerodd tua blwyddyn i mi ddatblygu trefn reolaidd o wneud ymarfer corff, ond erbyn hyn mae’n gryf ac anaml y byddaf yn colli fy sesiynau.
Pum egwyddor ar gyfer gwneud newidiadau parhaol
1. Mae angen rheswm da dros eisiau newid: Yn aml, nid yw rheswm syml fel eisiau colli pwysau neu eisiau rhoi’r gorau i yfed alcohol yn ysgogiad digon cryf i newid. Mae angen nod sy’n seiliedig ar werthoedd i’n cadw ni ar y trywydd iawn.
Gwerthoedd craidd yw gwerthoedd sy’n sail i’n gweithredoedd a’n hymddygiadau. Bod eisiau gweithredu ar ein gorau, neu fod yn iachach neu’n gryfach, yn enghraifft.
Fy rheswm dros ganolbwyntio ar ymarfer corff neu fynd i’r gwely yn gynharach yn y nos yw fy mod i am fod y person gorau y gallaf i’m teulu.
Os ydw i’n crwydro o’r nod, dydw i ddim yn mynd i allu rhoi’r fersiwn orau o fy hun i fy nheulu. Rydw i hefyd yn parhau i ganolbwyntio ar fy iechyd meddwl er mwyn gallu byw bywyd hapusach a mwy boddhaol.
2. Meddyliwch am y tymor hir: Mae gwella eich hun yn cymryd amser.
Dychmygwch eich hun mewn un flwyddyn, yna dwy flynedd, ac yna mewn pum mlynedd. Meddyliwch faint yn iachach, yn hapusach ac yn fwy llwyddiannus y byddwch chi ar bob cam os byddwch chi’n llwyddo i newid.
Meddyliwch am ba mor hir y gallech barhau i fyw a sut y bydd y newidiadau hyn yn gwella eich bywyd am weddill eich oes. Bydd y teimlad anghyfforddus yn y tymor byr o ganlyniad i newid bron bob amser yn werth chweil yn y tymor hir.
Pan rwy’n colli diddordeb neu’n teimlo bod y newid yn digwydd yn rhy araf, yn aml rwy’n dychmygu fy hun yn y dyfodol ac mae’n fy helpu i fynd yn ôl ar y trywydd iawn.
Ewch un cam ar y tro. Mae mynd ati o ddifri i sefydlu trefn newydd yn bwysicach na gweld canlyniadau ar unwaith. Yn aml, dim ond ar ôl wythnosau neu fisoedd o wneud gweithgaredd yn rheolaidd y byddwch chi’n dechrau sylwi’r canlyniadau.
3. Canolbwyntiwch ar y presennol: Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ein dysgu i fyw yn y presennol.
Os ydyn ni’n byw yn ein pennau drwy’r dydd neu’n gwneud pethau heb feddwl, mae’n haws gwneud pethau gan ein bod ni wedi dod i arfer â’u gwneud, fel agor yr oergell pan fyddwn ni wedi diflasu, neu sgrolio drwy dudalen ar ôl tudalen ar y cyfryngau cymdeithasol.
Pan fyddwn ni’n gallu dechrau dal ein hunain yn gwneud rhywbeth rydyn ni wedi ymrwymo i beidio â’i wneud, gallwn ni ddechrau gweld y patrwm.
Ar ôl ychydig o ymarfer gallwn ddechrau meddwl yn fwy gofalus pan fydd y syniad o wneud rhywbeth yn dal i fod yn ein pen, ac yna gwneud penderfyniad ymwybodol ynghylch a ddylwn ni barhau â’r ymddygiad ai peidio. Os gallwn gofio defnyddio ein prif reswm dros newid ar yr adegau hyn, gallwn atal ein hunain
Er enghraifft, mae treulio gormod o amser ar y cyfryngau cymdeithasol yn golygu bod gen i lai o amser i’w dreulio gyda fy nheulu. Bob tro rydyn ni’n llwyddo i atal ein hunain, rydyn ni’n cryfhau’r llwybrau niwral yn ein hymennydd, sy’n gallu arwain at newid parhaol.
4. Derbyn ein hunain: Mae cywilydd yn air sy’n cael ei ddefnyddio llawer y dyddiau yma, ac am reswm da – mae’n ein dal ni yn ôl.
Cywilydd yw’r emosiwn negyddol rydyn ni’n ei deimlo pan fyddwn ni’n gwneud rhywbeth sy’n ‘wael’. Gallwn deimlo cywilydd oherwydd ein bod ni’n teimlo ein bod ni wedi methu mewn rhyw ffordd neu oherwydd bod pobl eraill yn ein beirniadu, boed hynny’n wir neu beidio.
Er enghraifft, os oes gen i’r nod o roi’r gorau i gyffuriau hamdden ac rwy’n methu, mae’n amlwg y byddwn i’n teimlo cywilydd. Gall y cywilydd hwnnw wneud i mi fod yn fwy caeth iddyn nhw, ac arwain at gylch dieflig nad yw byth yn dod i ben.
Ffordd fwy cadarnhaol o feddwl yw derbyn eich hun. Does dim un ohonom yn berffaith, chithau na finnau. Mae gan bob un ohonom elfennau o’n hunain y mae angen i ni weithio arnyn nhw. Mae’n rhaid derbyn mai dim ond bod dynol ydych chi.
Dywedwch wrth eich hun fod beth bynnag rydych chi’n ei brofi ar hyn o bryd yn iawn. Byddwch yn ymwybodol ohono ond peidiwch byth â cheryddu eich hun am eich ymddygiadau, ymrwymwch i wneud y gorau y gallwch chi.
Yn araf deg, bydd eich meddylfryd a’ch perthynas â’ch problem yn newid i fod yn fwy cadarnhaol, ac mae hyn yn arwain at addasu eich ymddygiad yn y tymor hir.
5. Pan fyddwch yn methu, dyfal donc: Bob tro y byddwch yn mynd oddi ar y trywydd iawn, gofynnwch i’ch hun pam rydych chi am wella, a dychmygwch eich hun mewn dwy flynedd os byddwch yn parhau i wella.
Yna, rhowch gynnig arall. Does dim ots os byddwch yn ailddechrau gant o weithiau, byddwch chi’n llwyddo yn y pen draw.
Roedd yn rhaid i mi roi sawl cynnig ar gadw at amserlen ymarfer corff reolaidd. Roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi fy llethu a’m digalonni wrth feddwl am orfod llusgo fy hun allan o’r gwely mewn hwyliau isel, ond roeddwn i’n dal i feddwl faint yn well fyddai fy mywyd a faint yn hapusach fyddai fy nheulu pe bawn i ar fy ngorau.
Bob tro es i yn ôl ar y ceffyl roedd hi’n haws, gan wybod y byddai’r canlyniad yn werth chweil.
Mae’n amser i wneud eich gwaith cartref
Pa resymau sydd gennych chi dros wneud newidiadau i’ch bywyd? Ysgrifennwch eich rhesymau i lawr a’u rhoi ar eich wal neu rywle lle gallwch atgoffa eich hun yn aml.
Yna, dewiswch un o’r rheini ac ysgrifennwch sut y gallwch ddechrau gwneud newidiadau heddiw.
Ysgrifennwch eich rheswm dros fod eisiau ei gyflawni a sut y byddwch yn gwneud hynny. Yna, ewch ati i’w wneud. Dechreuwch yn fach a gweithiwch eich ffordd i fyny. Dychmygwch eich hun yn y blynyddoedd i ddod os byddwch yn llwyddo i wella hyd yn oed dim ond 20%.
Mae gwneud newidiadau cadarnhaol yn fuddsoddiad yn eich iechyd meddwl hirdymor. Gall fod yn anodd dechrau ac adeiladu momentwm, ond yn y dyfodol byddwch chi’n caru eich hun am fod wedi newid.
Adnoddau
- NCMH | Rhaglen Addysg Deubegynol Cymru (BEPC)
- Taflen NCMH | Bipolar disorder
- Taflen NCMH | Bipolar disorder, pregnancy and childbirth
Darllen rhagor
- Astudio NCMH | Amodau rydym yn eu hastudio: anhwylder deubegynol
- NCMH blog | Cyfarwyddwr NCMH yn westai ar bodlediad newydd Bipolar UK
- NCMH blog | Anhwylder deubegynol: 11 o bwyntiau allweddol a ddaeth â chydbwysedd i’m bywyd yn ystod y pandemigBipolar disorder: 11 pivotal moments that brought balance to my life during the pandemic