Posted July 27th 2021
Efallai y bydd darllenwyr fy mlog blaenorol yn cofio fy mod yn ceisio cadw at fyw ‘Cydbwysedd Bywyd Cyfan’ mewn naw maes allweddol, sef:
- Gyrfa
- Cyfraniad (anrheg)
- Cyfrifoldebau domestig
- Teulu
- Ffrindiau
- Iechyd
- Hobïau
- Datblygiad personol
- Perthnasoedd
Yn ystod fy mhwl diweddaraf o iechyd meddwl, enciliais o bob maes a finnau mewn cyflwr dideimlad, y mae’n rhaid bod hyn yn gyfarwydd i lawer o bobl.
Fodd bynnag, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf bu cyfnodau allweddol sydd wedi fy helpu i adennill fy nghydbwysedd, gan ddechrau gyda dechreuad y pandemig.
Pwynt allweddol 1: Mawrth 2020 – Cyfrifoldebau Domestig
Rwy’n gwybod bod y cyfnod clo COVID-19 wedi bod yn brofiad erchyll, ynysig ac o bosibl yn frawychus i lawer o bobl â phroblemau iechyd meddwl. I mi, fodd bynnag, roedd yn rhyddhad. O’r diwedd, roeddwn i’n teimlo nad fi oedd yr unig ddyn o oedran gweithio oedd gartref trwy’r dydd.
Roedd symudiadau pawb bellach yn cael eu cyfyngu, a gwnaeth hynny ddileu’r pwysau arnaf i orfod mentro allan.
Trodd COVID-19 yn destun trafodaeth gyffredinol gyda chymdogion ac unrhyw un arall y siaradais â hwy.
Roedd fy nhad hefyd yn y categori ‘mewn perygl’ ac roedd hynny’n golygu bod yn rhaid i mi ‘gymryd yr awenau’ a chymryd mwy o’i gyfrifoldebau, gan roi teimlad o hunan-werth imi eto.#
Pwynt allweddol 2: Mehefin 2020 – Ffrindiau
Isod roedd amlinelliad y nodyn a anfonais trwy e-bost at ffrindiau, doeddwn i ddim wedi cyfathrebu gyda’r mwyafrif ohonynt ers wyth mlynedd hir.
Dechreuais gyda fy ffrindiau anwylaf a oedd wedi cysylltu â mi yn fy absenoldeb – heb unrhyw ymateb gennyf – a’r rhai roeddwn i’n eu hadnabod yr oedd risg isel y bydden nhw’n ymwrthod a’m cysylltiad. Darllenodd yr e-bost:
Sut rydych chi?
Mae’n oesoedd ers i ni siarad ddiwethaf, gobeithio bod popeth yn mynd yn dda i chi.
Mae’n ddrwg gen i nad ydw i wedi bod mewn cysylltiad. Rydw i wedi bod yn bwriadu anfon neges atoch chi, ond roedd presenoldeb y ‘Ci Du’ yn golygu nad oeddwn i’n gallu gwneud hynny. Gobeithio y gallwch chi faddau i mi.
Beth rydych chi wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar? Rwy’n cofio ichi <insert> ers i ni siarad ddiwethaf, rwyf wedi <insert>.
Byddwn i wrth fy modd pe byddech yn gallu anfon neges ataf i, ond os na allwch, dwi’n deall.
Gobeithio clywed gennych yn fuan, fy annwyl ffrind.
Er mawr ryddhad i mi daethon nhw i gyd yn ôl ataf gyda nodiadau llawn caredigrwydd, cefnogaeth ac ystyriaeth a cheisiodd llawer ohonynt fy nghaniatâd i “adael i hwn a hwn wybod” fy mod wedi cysylltu â hwy. Roeddwn yn hynod hapus iddyn nhw wneud hynny.
Dros y tair wythnos nesaf a finnau wedi adennill fy hyder, ysgrifennais at y cylch ehangach o ffrindiau oedd gennyf i, unwaith eto, a chefais ymateb gan bawb bron.
Pwynt allweddol 3: Mehefin 2020 – Teulu
Mae fy nheulu agosaf bob amser wedi bod yn hynod gefnogol yn ystod cyfnodau da ac anodd fy mywyd yn oedolyn.
Fodd bynnag, y tro hwn ysgrifennais gynllun gweithredu i’m harbed rhag egluro fy nghyflwr iddynt. Gyda hynny wedi’i wneud bydden nhw nawr yn deall ac yn gwybod beth i’w wneud pe bydden nhw’n dyst wrth i mi lithro i iselder ysbryd neu i fania.
Ceisiais hefyd eu “had-dalu” gyda chefnogaeth a help mewn unrhyw ffordd y gallwn i. Yn yr achos hwn, gyda chymorth fy nghefndryd, fe wnes i ymchwilio i’n hachau a’u cwblhau, gan ein tynnu’n agosach fel grŵp wrth i ni wneud darganfyddiadau ar hyd y ffordd.
Pwynt allweddol 4: Mehefin 2020 – Iechyd a diagnosis
Mewn apwyntiad ffôn gyda fy meddyg teulu a finnau’n teimlo’n obeithiol, roeddwn i’n gallu egluro sut roeddwn i’n teimlo a dangos fy symptomau deubegynol a sut rydw i wedi bod yn y gorffennol. Gynt, dim ond pan oeddwn i’n isel y byddwn i’n ceisio cymorth meddygol, felly roeddwn i’n cael fy nhrin fel ‘person isel ei ysbryd’.
Cymerodd fy meddyg fi o ddifrif y tro hwn a chyfeiriodd fi at arbenigwr i gynorthwyo gyda diagnosis posibl o anhwylder deubegynol. Rhoddodd hynny lawer o egni imi! O’r diwedd, roeddwn i wedi dangos fy hunan go iawn heb guddio dim.
Gyda’r rhyddhad hwnnw cefais ffocws newydd.
Dechreuais jyglo llawer o brosiectau ym mhob rhan o fy mywyd. Fe wnes i lenwi llawer o gyfnodolion, dechrau rhoi trefn ar fy eiddo oedd yn cael eu storio, cymryd cyfrifoldebau gofalu ychwanegol arnaf i a dechrau ailasesu fy nghyflwr a’r symptomau iechyd meddwl oedd gennym yn y gorffennol.
Roedd fy mrwdfrydedd newydd sbon yn caniatáu llawer o hunan-ddadansoddi ac yn cyfeirio o’r newydd at y deunydd cymorth a gefais. Roeddwn i eisiau ymchwilio i anhwylder deubegynol a dysgu popeth y gallwn i amdano i baratoi ar gyfer fy apwyntiad ffôn oedd ar ddod.
Pwynt allweddol 5: Mehefin 2020 – Asesiad annibynnol
Cyrhaeddodd yr apwyntiad ffôn ac roedd yn ymddangos yn gadarnhaol. Roeddwn i’n teimlo fy mod i’n gallu dangos i mi dreulio oes ar y sbectrwm deubegynol.
Fodd bynnag, bythefnos yn ddiweddarach, cefais lythyr arwynebol yn nodi nad oedd tystiolaeth o anhwylder deubegynol ac fe’m hanfonwyd yn ôl at fy meddyg teulu.
Cymerodd fy hyder newydd sbon yn erbyn y diffyg dealltwriaeth hon ac roeddwn i’n teimlo fy mod i’n gallu herio’r sylwadau.
Ysgrifennais i yn ôl, ar ôl dangos y drafft i’m chwaer ar y dechrau i deilwra fy mrwdfrydedd. Ni chefais hyd yn oed y cwrteisi o lythyr yn cydnabod fy llythyr i.
Roedd fy nghyflwr hynod emosiynol eisiau parhau i ymladd ond sbardunwyd fy ymennydd rhesymegol a cheisiais ymgynghoriad preifat gydag arbenigwr. Wele, cadarnhaodd o fewn un sesiwn, yr hyn yr oeddwn i’n ei wybod drwy’r amser, fy mod i, wedi arddangos holl symptomau anhwylder deubegynol II.
Am ryddhad enfawr. Fe roddodd reswm dros fy 39 mlynedd o loes a chamddiagnosis, gan ganiatáu imi atodi label i’m cyflwr o’r diwedd.
Cynghorodd y seiciatrydd fy meddyg teulu i weithredu ac am y tro cyntaf yn fy mywyd rhagnodwyd meddyginiaeth briodol imi.
Pwynt allweddol 6: Mehefin 2020 – Cyfrannu at gymdeithas – gweminar NCMH
Gyda fy ymwybyddiaeth newydd, dechreuais i ymchwilio ymhellach i anhwylder deubegynol. Ymunais â gwefannau grwpiau cymorth amrywiol a sefydlais weminar a fydd yn cael ei letya gan NCMH a Bipolar UK.
Eto, roedd hwn yn bwynt allweddol.
Ystafell yn llawn pobl a oedd yn deall fy nghyflwr, a oedd yn cynnig cyngor ymarferol, cynllunio gweithredu a chefnogaeth barhaus. O hynny ymlaen roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau cefnogi’r sefydliadau unrhyw ffordd y gallwn.
Ers hynny, rydw i wedi ysgrifennu blogiau, wedi bod yn rhan o grwpiau ymchwil ac wedi mynychu mwy o weminarau. Mae hyn wedi fy arwain at rolau gwirfoddoli i’r elusen iechyd meddwl Mind.
Pwynt allweddol 7: Gorffennaf 2020 – Ffrindiau
Yn ystod wythnos boeth o haf, cyfarfûm â dau ffrind annwyl am y tro cyntaf ers wyth mlynedd.
Wedi meddwl amdano, roedd rhywfaint o fania yn fy ngyrru ar y ddau achlysur.
Achoswyd y gorfoledd hwnnw yn rhannol gan fy mod yn ôl ymhlith fy ffrindiau. Roedd cyfarfod â nhw wedi rhoi hwb i’m teimladau o hunan-werth ac roeddwn i’n teimlo’n dda.
Pwynt allweddol 8: Gorffennaf 2020 – Gyrfa
Roeddwn mewn sefyllfa ffodus bod polisi Yswiriant Iechyd Parhaol gyda fy nghyflogwr wedi darparu 75% o fy nghyflog i mi tra oeddwn yn absennol o’r gwaith ers mis Ebrill 2012.
Roeddwn i’n teimlo i mi gael fy anghofio gan nad oedd gen i fawr o gyswllt â’m cwmni yn y cyfamser. Efallai eu bod wedi teimlo trwy fy nghefnogi’n ariannol eu bod wedi cyflawni eu rhwymedigaethau.
Byddai wedi bod yn well gennyf gael rhywfaint o gefnogaeth emosiynol ac ymarferol, a oedd yn anffodus yn brin. Gyda chefnogaeth ffrind annwyl sy’n rhedeg ei gwmni ymgynghorol Adnoddau Dynol ei hun, penderfynais gysylltu â nhw.
Yn eironig, cyn imi allu anfon fy llythyr, cyrhaeddodd un gan fy nghyflogwr, yn ymddiheuro am yr absenoldeb, ac eisiau dod yn ôl i gysylltiad.
Daeth y ddeialog honno i ben pan wnes i ymddiswyddo ym mis Mawrth 2021 a fy rhyddhau o’r siawns y byddai’n rhaid imi ddychwelyd i fy ngyrfa pwysedd uchel, a brofodd i fod yn bwynt tyngedfennol wrth adennill fy Nghydbwysedd Bywyd Cyfan.
Pwynt allweddol 9: Awst 2020 – Gwelliant Parhaus
O’r diwedd, roedd y gwaith yn mynd i gyfeiriad newydd.
Rwy’n dal i fethu cofio lle y’i gwelais ef yn cael ei hysbysebu, ond fe wnes i gofrestru ar gyfer cymhwyster hyfforddi bywyd ar-lein, rhywbeth rydw i eisiau ei wneud erioed.
Neidiais i mewn iddo heb fawr o ddiwydrwydd dyladwy a mabwysiadu dull “dyma fi”, a theimlo braidd yn drahaus yn sesiynau rhagarweiniol Zoom.
Roedd fy mrwdfrydedd eisiau i mi ddod yn ffrind gyda phob un o’r 24 o gynrychiolwyr ac fe osododd yr her imi fod yr un cyntaf o’r grŵp i gymhwyso.
Roedd fy ngor-gyffro yn beth cadarnhaol a cheisiais wneud argraff ar unwaith a dangos bod gen i lawer o brofiad perthnasol.
Mwynheais y chwe mis nesaf o hunan-ddarganfod yn fawr. Fe greodd yrfa hollol newydd i mi. Fe wnaeth hefyd fy ngalluogi i gwrdd â phobl o bob cefndir ac, yn bwysicach fyth, teimlo fy mod i’n “rhoi rhywbeth yn ôl” i’r gymdeithas.
Ers hynny, rydw i wedi cymhwyso i ddarparu sawl offeryn proffilio personoliaeth. Erbyn hyn, rwy’n darparu sesiynau unigol a gwasanaethau hyfforddiant grŵp, mentora busnes a hwyluso, gan ddarparu gwelliant parhaus i eraill yn ogystal ag i mi.
Pwynt allweddol 10: Awst 2020 – Hobïau
Yn araf y dechreuais ddod yn gyfarwydd gyda fy hunan-werth a hobïau newydd, gan gredu nawr fy mod yn haeddu eu gwneud eto. Roeddwn yn ôl yn dechrau teimlo’n iawn!
Gan deimlo’n bositif, fe wnes i wasanaethu a dechrau reidio fy meiciau, a hyd yn oed prynu beic ymarfer corff i helpu gyda’r hyfforddiant.
Dechreuais gerdded 10,000 o gamau y dydd, ac ymunais â grŵp crwydro. Ces i fy nghasgliad o gerddoriaeth o’r storfa a dechreuais chwilio trwy siopau elusennol i gael llyfrau i gymryd lle’r rhai yr oeddwn wedi’u rhoi i ffwrdd wrth adael fy nghartref.
Roedd hyn i gyd yn gymorth i adfer fy synnwyr o hunaniaeth. Roeddwn i’n teimlo fel fi fy hun eto.
Pwynt allweddol 11: Medi 2020 – Perthnasoedd
Heb gymryd unrhyw beth yn ganiataol, trefnais i gwrdd â fy nghyd-hyfforddai hyfforddiant wyneb yn wyneb am y tro cyntaf.
Fe wnaethom adeiladu perthynas ar unwaith a gwnaeth hi fi’n ddigon cyfforddus i drafod materion iechyd meddwl gyda hi. Roeddwn i’n gwybod fy mod i wedi dod o hyd i ysbryd o’r un anian ac mae hi wedi dod yn un o fy ffrindiau anwylaf, agosaf.
Fe ddysgodd i mi sut i garu eto, gan ddechrau gyda mi fy hun.
Mae COVID-19 wedi cyfyngu ar ein cyfarfodydd dilynol ond rydyn ni’n siarad yn ddyddiol, ac rydw i mor hapus i’w chael hi yn fy mywyd.
Peidiwch â digalonni
Cymerodd ychydig o fyfyrio i’w rhoi at ei gilydd, ond roedd yr un pwynt allweddol ar ddeg hynny yn bwysig i fy nhaith bersonol i adfer naw maes fy ‘Nghydbwysedd Bywyd Cyfan’ ar ôl cael diagnosis o anhwylder deubegynol II.
Rwy’n gobeithio y gallai hyn mewn rhyw ffordd fod o gymorth i chi ar eich taith eich hun a hoffwn ddymuno pob lwc i chi.
Adnoddau
- NMCMH | Rhaglen Addysg Deubegynol Cymru (BEPC)
- Gweminarau NCMH a Bipolar UK | recordiadau o Bitesize BEPC
- Taflen NCMH | Anhwylder deubegynol
Darllen rhagor
- Blog NCMH | Climbing mountains: diagnosed with bipolar disorder at 57
- Cyflyrau NCMH rydyn ni’n eu hastudio | Anhwylder Deubegynol ac Anhwylderau Hwyliau a Beichiogrwydd
- Deubegwn DU | Graddfa hwyliau deubegynol