Rhaglen Addysg Deubegynol Cymru (BEPC)
Cwrs seicoaddysg yw Rhaglen Addysg Anhwylder Deubegynol Cymru (BEPC), a’i nod yw gwella ansawdd bywyd pobl ag anhwylder deubegynol.
Mae’r cwrs yn galluogi unigolion i reoli eu cyflwr yn well drwy ddeall symptomau anhwylder deubegynol, nodi eu sbardunau a monitro eu hwyliau er mwyn eu helpu i aros mor iach â phosibl.
Cynhelir 10 sesiwn ar ffurf grŵp â rhwng 8 a 12 o aelodau. Mae’r sesiynau hyn yn gyfuniad o gyflwyniadau, trafodaethau grŵp anffurfiol ac ymarferion byr. Ymhlith y modiwlau mae:
- Beth yw anhwylder deubegynol?
- Beth sy’n achosi anhwylder deubegynol?
- Y defnydd o feddyginiaeth i drin anhwylder deubegynol
- Dulliau seicolegol o drin anhwylder deubegynol
- Materion yn ymwneud â ffordd o fyw ac anhwylder deubegynol
- Monitro a nodi sbardunau
- Arwyddion rhybuddio cynnar
Bydd perthnasau a ffrindiau agos aelodau’r grŵp hefyd yn cael dewis dod i sesiwn ychwanegol lle gallant ddysgu mwy am anhwylder deubegynol a chwrdd â phobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.