Posted September 17th 2021
Roeddwn i’n arfer gweithio mewn swydd reoli yn Llundain ac nid oedd gen i erioed broblem iechyd meddwl cyn hynny. Roeddwn i wrth fy modd gyda fy swydd ac yn cymudo i’r ddinas bob dydd, a phe bawn i’n gallu dod o hyd i sedd ar y tiwb, byddwn i wrth fy modd yno yng nghwmni llyfr da.
Ac yna, pan roeddwn i ar fy ffordd adref o’r gwaith un diwrnod, cefais ddamwain.
Roedd y ddamwain yn frawychus yn ei symlrwydd. Cymerodd flwyddyn a hanner imi ddysgu cerdded unwaith eto a chefais PTSD difrifol iawn yn sgîl hynny. Syrthiodd fy mywyd yn ddarnau.
Roedd fy nheulu yn anghyfarwydd â’r symptomau, ac wrth imi ddeffro gyda’r nos, pan fyddwn i’n gweiddi oherwydd ôl-fflach, roedd fy ngŵr yn meddwl mai’r cyfan oedd arna i oedd fy mod i wedi cael hunllef gan fy sicrhau nad oedd ‘dim byd yno’.
Deng mlynedd o therapi
Diolch byth, sylweddolodd ffisiotherapydd fy mod i’n dioddef o drawma a galwodd fy meddyg, gan ofyn imi gael fy atgyfeirio at y gwasanaethau iechyd meddwl.
Ers hynny rwy wedi bod mewn therapi ers deng mlynedd mwy neu lai a dw i ddim yn mynd i esgus ei bod wedi bod yn rhwydd. Fodd bynnag, wynebu’r trawma a dysgu rheoli symptomau PTSD yw’r ffordd ymlaen yn bendant.
Heddiw, er bod angen cymorth o hyd i fynd allan a bydda i’n cwympo’n ddarnau weithiau, rydw i mewn lle gwell.
Mae bod o amgylch natur yn iachâd
Un peth sydd wedi fy helpu’n fawr yw gwylio byd natur o’m cwmpas. Rwy’n ffodus fy mod wedi symud i ran dawel a gwledig o Gymru. Serch hynny, hyd yn oed yn y ddinas gallwch chi ddod o hyd i lawer o fywyd gwyllt os ydych chi’n chwilio amdano ac yn fodlon edrych yn astud ar yr hyn sydd yn y cyffiniau.
Pan ddechreuais i ymdrochi ym myd natur, dyma fi’n dechrau tynnu lluniau yn fy ngardd, mewn ffordd syml iawn ac yn gyflym ar fy ffôn symudol. A buan y sylweddolais i fod y cyfan yn tynnu fy sylw oddi wrth y gorbryder a oedd yn fy llethu.
Rhoddais borthwyr adar yn yr ardd gan annog cymaint o fywyd gwyllt ag y gallwn i ymddangos yno, plannu coed a chadw’r gwair heb ei dorri trwy gydol y gwanwyn a’r haf.
Y llynedd, dechreuais i gadw dyddiadur am yr adar a’r bywyd gwyllt arall y bydda i’n ei weld yn fy ngardd ymhlith y bryniau ar hyd gorlifdir afon Wysg.
Byddai’r titw Tomos las, y robin goch a cnocell y coed i enwi rhai yn unig, yn creu cartref yn ein gardd. Er mwyn manteisio ar hyn i’r eithaf, aethon ni ati i gofnodi’r planhigion a’r pryfed.
Cofnodi’r arsylwadau ar bapur
I goroni’r cyfan, llyfr oedd cynnwys y deunydd hwn i gyd!
Dyddiadur yw fy llyfr sy’n cofnodi blwyddyn yn byw ar orlifdir afon Wysg yn gwylio’r bywyd gwyllt yn fy ngardd. Mae hefyd yn trafod taith fy nghyflwr gyda PTSD.
Rwy’n gobeithio y bydd fy mlog a fy llyfr yn rhoi gobaith i bobl eraill, a thrwy gynorthwyo’r ymchwil y mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) yn ei gwneud, y gall pob un ohonyn ni helpu ein gilydd i ddarganfod rhagor a rheoli ein hiechyd meddwl.
Byddwn i’n annog pawb sy’n teimlo y gallan nhw wneud hynny i gymryd rhan yn yr ymchwil hon sy’n cael ei chynnal bob amser mewn modd ystyriol iawn. Ac i gadw llygad am y bywyd gwyllt rhyfeddol o’ch cwmpas!
Adnoddau
- Taflen NCMH | Post-Traumatic Stress Disorder
- Podlediad NCMH |Pennod 2: Post-Traumatic Stress Disorder
Darllen rhagor
- Blog NCMH | Fy anhwylder cymhleth a hynt y gwella
- Blog NCMH | PTSD Cymhleth: Roeddwn i’n meddwl mod i’n achos colledig
- Blog NCMH | 10 peth efallai nad oeddech chi’n eu gwybod am PTSD
- Cyflyrau rydyn ni’n eu hastudio yn NCMH | Post-Traumatic Stress Disorder (PTSD)