Skip to main content

10 peth efallai nad oeddech chi’n eu gwybod am PTSD

Mae llawer o bobl yn meddwl am PTSD fel rhywbeth sy'n effeithio ar y rhai sydd wedi cael profiadau trawmatig wrth wasanaethu yn y lluoedd arfog, ond gall effeithio ar unrhyw un sydd wedi profi sefyllfa drawmatig.

Anhwylder Straen wedi Trawma (PTSD) yw’r enw a roddir i set o symptomau y mae rhai pobl yn eu datblygu ar ôl profi digwyddiadau trawmatig mawr. Gall y digwyddiad trawmatig fod yn sefyllfa unigol neu’n rhywbeth ddigwyddodd dros fisoedd neu flynyddoedd lawer.

Gellir achosi’r cyflwr gan ddigwyddiadau fel damweiniau traffig difrifol, treisio neu gam-drin rhywiol, trais domestig, ymosodiad corfforol, profiad trawmatig wrth roi genedigaeth, tystio i farwolaeth dreisgar, neu bron unrhyw sefyllfa arall sy’n eithriadol o fygythiol neu drychinebus ac sy’n debygol o achosi trallod i unrhyw un, fwy neu lai.

Symptomau PTSD

Mae pobl sy’n byw gyda PTSD yn aml yn profi atgofion gofidus ymwthiol o’r digwyddiad dro ar ôl tro.

Gall fod teimlad hefyd o ail-fyw (neu ‘ail-brofi’) y digwyddiad drwy ‘fflachiadau’ neu ‘hunllefau’, sy’n gallu achos llawer iawn o drallod a dryswch.  Gall fod adweithiau corfforol hefyd fel ysgwyd a chwysu.

Yn fwy diweddar, mae PTSD cymhleth hefyd wedi’i nodi, a all gynnwys symptomau tebyg i PTSD, ond gyda symptomau ychwanegol fel anhawster rheoli eich emosiynau, teimladau cyson o anobaith, symptomau datgysylltiol fel dadbersonoli, a llawer mwy.

10 peth efallai nad oeddech chi’n eu gwybod am PTSD

  1. Mae PTSD yn effeithio ar ddwy filiwn o bobl yn y Deyrnas Unedig.
  2. Dim ond un o bob pedwar o’r rhai sy’n byw gyda PTSD sy’n cael triniaeth.
  3. Mae £400,000 yn cael ei wario ar ymchwil ar PTSD bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig.
  4. Gall ymarfer corff helpu i reoli PTSD.
  5. Mae gan bobl drothwyon gwahanol ar gyfer trawma.
  6. Gall plant ddatblygu PTSD hefyd.
  7. Mae rhai astudiaethau’n dangos bod rhoi cyfle i bobl siarad am eu profiadau yn fuan iawn ar ôl digwyddiad trychinebus yn gallu lleihau rhai o symptomau PTSD.
  8. Mae menywod yn wynebu risg uwch o ddatblygu PTSD.
  9. I rai pobl, efallai mai therapi fydd y cyfan sydd ei angen o ran triniaeth.
  10. Hyd yn oed pan na fyddant mewn perygl mwyach, bydd rhai pobl sydd â PTSD yn rhyddhau hormonau o’r enw cortisol ac adrenalin yn barhaus – yr ymateb ‘brwydro, rhedeg i ffwrdd neu rewi’.

Cael cymorth

Os credwch y gallech chi fod yn dioddef o PTSD, dylech weld eich meddyg teulu yn gyntaf, a fydd yn cynnal asesiad cychwynnol.

Yn dibynnu ar ganlyniad hynny, bydd eich meddyg teulu yn penderfynu a oes angen atgyfeiriad arnoch at weithiwr iechyd meddwl gofal sylfaenol, eich Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol lleol neu wasanaeth arall, yn ôl eich anghenion.

Os cewch eich cyfeirio at eich Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol lleol, byddwch yn derbyn asesiad pellach, manylach, ac yna efallai y cewch eich cyfeirio ymlaen at wasanaeth straen trawmatig arbenigol neu byddwch chi’n derbyn help oddi mewn i’r tîm.

Triniaeth ar gyfer PTSD

Bernir mai therapïau seicolegol yw’r triniaethau mwyaf effeithiol ar gyfer PTSD.

Yn benodol, ceir tystiolaeth dda bod dau fath o driniaethau seicolegol sy’n canolbwyntio ar y digwyddiad trawmatig o’r enw Therapi Gwybyddol Ymddygiadol gyda Ffocws ar Drawma (TFCBT) a Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiad y Llygaid (EMDR) yn effeithiol.

Dangoswyd bod y ddwy dechneg yn lleihau’r symptomau a’r trallod a brofir gan ddioddefwyr PTSD.

Mae treialon ymchwil Prifysgol Caerdydd i driniaethau newydd sy’n defnyddio’r ddwy dechneg hyn wedi bod yn llwyddiannus yn ystod y blynyddoedd diwethaf:

  • Edrychodd treial RAPID ar greu offeryn tywys hunangymorth newydd, gan ddefnyddio rhaglen ar-lein o’r enw Gwanwyn.
  • Mae 3MDR neu Dadsensiteiddio ac Atgyfnerthu’r Cof mewn modd Modiwlaidd, gyda chymorth Symudiad, yn driniaeth newydd, a ddatblygwyd yn wreiddiol yn yr Iseldiroedd, sy’n cyfuno Defnydd o Realiti Rhithwir ac EMDR, ac yn ychwanegu symud trwy gerdded ar felin draed.

Weithiau defnyddir triniaethau eraill fel meddyginiaeth a thechnegau rheoli straen i drin PTSD a gallant fod o gymorth, er na ddangoswyd bod y rhain mor effeithiol.

Mae amrywiaeth o opsiynau triniaeth ar gyfer PTSD, ac er y gall meddyginiaeth fod o gymorth mawr, nid dyna’r unig opsiwn.  Yn aml, gall siarad â rhywun proffesiynol fod yn ffordd fwyaf effeithiol o weithio trwy’r trawma a dysgu sut i reoli’r symptomau.

Maddeuwch i chi’ch hunan

Rhowch amser a lle i chi’ch hun i gydnabod yr hyn yr ydych wedi bod drwyddo a’r ffaith eich bod yn cael adweithiau emosiynol cryf iddo.

Dylech osgoi defnyddio alcohol a chyffuriau i wneud i chi deimlo’n well. Er y gallai’r rhain wneud i chi deimlo’n well yn y tymor byr, gallant achosi problemau difrifol i chi a’ch anwyliaid. Gallant hefyd waethygu symptomau ac ymyrryd â thriniaeth.

Cadwch at batrymau arferol gymaint â phosibl. Os ydych chi’n cael trafferth cysgu, ceisiwch gadw at amser rheolaidd pan fyddwch chi’n deffro ac yn codi a chofiwch osgoi diodydd sy’n cynnwys caffein ar ôl 4pm.

Awgrymiadau i ofalwyr

  • Ceisiwch fod yn amyneddgar a dangos dealltwriaeth at yr unigolyn sydd â PTSD.
  • Peidiwch â rhoi pwysau ar y sawl sydd â PTSD i siarad am eu profiad, ond rhowch amser a lle iddyn nhw siarad amdano os byddan nhw’n dymuno gwneud hynny.
  • Os nad ydynt wedi gwneud hynny, ceisiwch eu hannog i geisio cymorth proffesiynol. Lle da i ddechrau yw trafod pethau gyda’ch meddyg teulu.

Adnoddau

Darllen pellach

Mike Owen

Mike yw Swyddog Cyfathrebu NCMH a'r Is-adran Meddygaeth Seicolegol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd