Skip to main content

Fy anhwylder cymhleth a hynt y gwella

Diwrnod Ymwybyddiaeth o Anhwylder Straen ar ôl Trawma yw heddiw. Michael sy’n sôn am ei brofiad o’r anhwylder a sut mae’n ymdopi ag e.

Nodwch fod hunanladdiad wedi’i grybwyll yn y darn isod.

Dechreuodd y broblem yn 2015 pan oeddwn i’n cadw cyfrinach.

Er y byddwn i’n gwenu ymhlith pobl, roedd anobaith yn drwm arnaf i. Gan amlaf, byddwn i’n teimlo bod pawb arall yn fwy bodlon ei fyd o lawer na fi.

Roeddwn i o’r farn fy mod yn dda i ddim er na allwn i bennu beth yn union oedd yn bod arnaf i.

Roeddwn i’n teimlo’n wan o ganlyniad, ac yn dechrau hel meddyliau aflonyddus. Roedd rhai o’r meddyliau hynny’n frawychus iawn gan eu bod yn ymwneud ag erlid a dioddef. Ar ben hynny, byddai breuddwydion dro ar ôl tro am gael fy esgeuluso.

Roeddwn i’n drist iawn, yn ddryslyd ac wedi blino.

Yr adeg dyngedfennol

Un diwrnod, daeth awydd annisgwyl i neidio allan o ffenestr uchel, a phenderfynais yn syth fod rhaid dod o hyd i gymorth.

Arweiniodd peth ymchwil ar-lein at seicotherapi. Fe rois i falchder o’r neilltu a mynd at therapydd. Dyna oedd un o’r camau pwysicaf y gallwn i fod wedi’i gymryd.

Ar ôl ychydig o sesiynau therapi, sylweddolais fod ansicrwydd teimladol dwfn arnaf i o ganlyniad i fy magu.

Fe welais i fod angen ailasesu fy mherthynas â fy mam. Sylweddolais fy mod yn teimlo fy mod yn faich ar fy mam.

Achosodd hynny gywilydd mawr.

Mae cywilydd yn wahanol iawn i euogrwydd. “Rwyf i wedi gwneud rhywbeth drwg,” yw euogrwydd ond “Rwy’n ddrwg,” yw cywilydd.

Cywilydd oedd y teimlad hollbwysig.

Byddai fy mam yn troi ataf i am gefnogaeth pan oeddwn i’n ifanc, a byddai hynny’n achosi llawer o ddryswch a dweud y lleiaf.

Dechreuais i ddyfalu mai’r hyn oedd ym meddwl fy mam mewn gwirionedd oedd, “Rwyt ti’n dipyn o faich arnaf i, ond yn gefn imi, hefyd. Gallaf i ddodi fy mhryderon i gyd arnat ti achos na fyddi di byth yn fy ngadael i.”

Dysgais i mai ‘rhwydo mamol’ yw hynny.

Penderfynodd fy mam yn annisgwyl fod fy mrawd iau yn well na fi, fodd bynnag. Roedd fy mam wedi ymwrthod â fi.

Yn fy marn i, roedd hi wedi fy mychanu.

Roedd yr ymdeimlad o fradychu yn gryf, gan lynu wrthyf ers plentyndod ac arwain at sefyllfaoedd eithaf doniol wedyn.

Des i’n un hawdd ei frifo o ran teimladau.

Yn y sesiynau gyda’r therapydd, trafodon ni’r berthynas â’m tad hefyd – go brin y byddai hwnnw’n treulio amser gyda fi er y byddai’n barod iawn ei gymwynas gyda phobl eraill.

Byddwn i’n meddwl, “Mae’n amlwg nad ydw i’n ddigon teilwng i ennyn diddordeb fy nhad. Rhaid bod rhywbeth yn bod arnaf i ond rwy’n rhy dwp i weld beth yw e, er bod pawb arall yn gallu ei weld. Rwy’n teimlo’n fychan iawn.”

Serch hynny, roeddwn i’n edmygu fy nhad yn fawr ac roedd gwir angen ei edmygedd a’i sylw yntau arnaf i.

Byddwn i’n dychmygu straeon gwrol amdano gan wrthod wynebu’r ffaith ei fod yn fy anwybyddu:

Byddai fy mam yn peri ofn arnaf i ynghylch fy nhad hefyd, ac mae hynny wedi creu darlun cymysg a bygythiol ohono yn fy meddwl.

Yn aml, byddwn i’n sgrechian ac yn gwrthod bod yn y car gydag e.

Gan fod plentyn yn tueddu i weld pethau yng nghyd-destun ei fyd bach ei hun, fi oedd ar fai am y ffaith nad oedd fy rhieni yn fy hoffi, yn fy marn i.

Trin a thrafod fy nheimladau’n oedolyn

Pan ddechreuais therapi, roedd fel pe bai maen tramgwydd enfawr yn fy meddwl gan fy rhwystro rhag gwella. Roedd yn deimlad od iawn.

Yn ystod y therapi, trafodon ni sawl thema megis agwedd gadarnhaol, bod yn annibynnol, hunan-barch, ofn dirfodol, annilysrwydd, gwyrdroad rhywiol, esgeuluso, iselder a chywilydd.

Nod fy therapi oedd cloddio trwy amryw lefelau o deimladau nes cyrraedd y gwaelod ac adeiladu sylfaen newydd.

Trwy hynny, gallwn i weld y byddai’n bwysig cysylltu â’m teimladau, yn arbennig y plentyn oddi mewn.

Daeth therapi â’r holl emosiynau, teimladau ac atgofion o’r isymwybod i’r ymwybod fel y gallwn i eu hailasesu, eu hailddehongli, eu deall a’u had-drefnu mewn modd priodol a rhesymegol.

Dychmygais y byddwn i’n wynebu fy rhieni o ran eu hofni, gan ymarfer bod yn gadarn gyda nhw ar wedd plentyn ac oedolyn fel ei gilydd.

Roedd yn eithaf hawdd dychmygu eu hwynebu yn oedolyn ond yn anos dychmygu eu hwynebu yn rhith bachgen flynyddoedd yn ôl pan oeddwn i’n blentyn ofnus. Roedd yn anos o lawer, ond daeth tipyn o foddhad a rhyddid o’r broses.

Fel y gwelwch chi, mae’n ddefnyddiol iawn tynnu lluniau o’r hyn yr es i trwyddo a’r hyn rwy’n ei brofi o hyd.

Mae’n dda gyda fi ddweud fy mod yn prysur wella ac, felly, hoffwn i argymell pum cam i’ch helpu i drin a thrafod eich profiad chi. Dyma’r camau:

Dod o hyd i therapydd addas.
Cofnodi eich teimladau i gyd ar bapur.
Archwilio eich pryderon, eich ofnau, eich amheuon a’ch ansicrwydd yn fanwl.
Tynnu lluniau o’ch meddyliau i ddangos eich cynnydd yn eglur.
Hel yr holl wybodaeth honno nes eich bod yn teimlo’n dda amdanoch eich hun.

Darllen rhagor

Adnoddau

Darllen mwy

Michael

Cafodd Michael ddiagnosis o PTSD cymhleth yn 2015. Mae'n awdur annibynnol sy'n ysgrifennu o dan ffugenw, Luke Pemberton. Mae wedi ysgrifennu nifer o lyfrau hunangymorth, yn fwyaf diweddar yn cyhoeddi How to Feel More Beautiful Inside yn 2020.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd