Skip to main content

Mae mwy na hanner y Tadau newydd mewn astudiaeth bêl-droed yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw gefnogaeth i’w hiechyd meddwl

Crëwyd Dads and Football, prosiect dwy flynedd a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome, mewn partneriaeth â Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ac NCMH, i gefnogi tadau newydd mewn ymateb i ddiffyg cymorth iechyd meddwl a gofnodwyd yn wyneb yr heriau a ddaw gyda thadolaeth.

Gwnaeth y prosiect gysylltu tadau newydd a darpar dadau drwy bêl-droed gyda’r nod o ddeall mwy am yr hyn yr oedd dod yn dad yn ei olygu iddynt.

Y cynllun gwreiddiol oedd dod â thadau at ei gilydd drwy eu cariad at y gêm gyda gemau pump bob ochr.

Fodd bynnag, symudwyd y cynlluniau hynny ar-lein yn sgil y pandemig COVID-19.

A football on grass

Cefnogaeth gan glwb pêl-droed lleol

Gwnaeth chwaraewr canol cae Caerdydd, Will Vaulks, a oedd ar fin dod yn dad, gwrdd ag eraill dros Zoom i sgwrsio am sut y mae’r newid hwn yn effeithio ar bobl.

Meddai Will:

Dwi wedi dysgu llawer o gymryd rhan yn y prosiect.  Roedd yn bleser siarad â phawb am eu profiadau fel tadau, roedd yn ddefnyddiol iawn i fi er mwyn paratoi.

Meddai Jenny Burns, Cyfarwyddwr Cyswllt Cymru yn y Sefydliad Iechyd Meddwl, “Ychydig iawn o ymchwil sydd wedi’i wneud ar iechyd meddwl amenedigol tadau ac, yn fwy cyffredinol, y newid mawr a ddaw gyda thadolaeth. Adlewyrchir hyn yn y diffyg cymorth sydd ar gael iddynt ar hyn o bryd.

“Mae canfyddiadau Dads and Football yn dangos faint o gymorth sydd ei eisiau a’i angen ar dadau newydd.

“Datgelodd ein harolwg ar-lein fod 56% o dadau yn dweud y byddai grwpiau lle gall dynion gwrdd a rhannu profiadau yn ddefnyddiol ac nad oedden nhw’n bodoli ar hyn o bryd.

“Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl am i Lywodraeth Cymru gydnabod y bwlch hwn a chynnwys sgrinio iechyd meddwl amenedigol a chymorth i’r ddau riant fel rhan o asesiadau bydwreigiaeth yn ei strategaeth iechyd meddwl arfaethedig.”

Dim ond y dechrau o ran cefnogi tadau newydd

Mynegodd cyfanswm o 91 o dadau eu barn drwy arolwg ar-lein hefyd.

Canfu’r arolwg fod 70% o dadau eisiau mwy o wybodaeth am beth i’w ddisgwyl wrth ddod yn dad.

Ymunodd y Sefydliad â Sefydliad y Tadau i greu ‘Becoming Dad’, canllaw yn cynnwys llawer o awgrymiadau a chyngor ymarferol.

Dywedodd Dr Jeremy Davies o Sefydliad y Tadau, awdur Becoming Dad:

Am lawer rhy hir, mae tadau wedi bod yn ddim ond troednodyn mewn gwasanaethau amenedigol, er gwaethaf tystiolaeth gref o’u heffaith enfawr ar ganlyniadau i fabanod a mamau.

“Mae gan ddynion lawer i’w wneud a meddwl amdano fel tadau newydd, ac mae angen mwy o gefnogaeth arnyn nhw. Rydym yn falch iawn o fod wedi ysgrifennu Becoming Dad i’w helpu ar eu ffordd.”

A dad holding his child

Cyflawni canlyniadau gwell i’r teulu cyfan

Dywedodd Mark, Hyrwyddwr Ymchwil NCMH, sy’n ymgyrchu dros les meddyliol tadau newydd, am ei gyfraniad, “Fel y gwyddom, mae tadau sydd â lles emosiynol da yn fwy tebygol o chwarae, darllen a dawnsio gyda’u plentyn.

“Mae’r Prosiect Dads and Football wedi cynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth tadau ac wedi helpu tadau i fynd drwy’r broses o ddod yn dad gyda’i gilydd.

Mae hefyd wedi rhoi lle a llais i dadau siarad yn agored am eu hiechyd meddwl mewn amgylchedd diogel, sydd wedi bod o fudd i’w teuluoedd, y gweithle a chymdeithas yn gyffredinol.

“Roeddwn yn falch o gymryd rhan o ddechrau’r prosiect ar y pwyllgor cynghori, a gweld llwyddiant y canlyniadau i dadau.

“Mae’r prosiect wedi helpu i greu canlyniadau llawer gwell i’r teulu cyfan a datblygiad y plentyn.”

Adnoddau

Darllen rhagor

Mike Owen

Mike yw Swyddog Cyfathrebu NCMH a'r Is-adran Meddygaeth Seicolegol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd