Posted November 20th 2021
Gwnaeth y prosiect gysylltu tadau newydd a darpar dadau drwy bêl-droed gyda’r nod o ddeall mwy am yr hyn yr oedd dod yn dad yn ei olygu iddynt.
Y cynllun gwreiddiol oedd dod â thadau at ei gilydd drwy eu cariad at y gêm gyda gemau pump bob ochr.
Fodd bynnag, symudwyd y cynlluniau hynny ar-lein yn sgil y pandemig COVID-19.
Cefnogaeth gan glwb pêl-droed lleol
Gwnaeth chwaraewr canol cae Caerdydd, Will Vaulks, a oedd ar fin dod yn dad, gwrdd ag eraill dros Zoom i sgwrsio am sut y mae’r newid hwn yn effeithio ar bobl.
Meddai Will:
Dwi wedi dysgu llawer o gymryd rhan yn y prosiect. Roedd yn bleser siarad â phawb am eu profiadau fel tadau, roedd yn ddefnyddiol iawn i fi er mwyn paratoi.
Meddai Jenny Burns, Cyfarwyddwr Cyswllt Cymru yn y Sefydliad Iechyd Meddwl, “Ychydig iawn o ymchwil sydd wedi’i wneud ar iechyd meddwl amenedigol tadau ac, yn fwy cyffredinol, y newid mawr a ddaw gyda thadolaeth. Adlewyrchir hyn yn y diffyg cymorth sydd ar gael iddynt ar hyn o bryd.
“Mae canfyddiadau Dads and Football yn dangos faint o gymorth sydd ei eisiau a’i angen ar dadau newydd.
“Datgelodd ein harolwg ar-lein fod 56% o dadau yn dweud y byddai grwpiau lle gall dynion gwrdd a rhannu profiadau yn ddefnyddiol ac nad oedden nhw’n bodoli ar hyn o bryd.
“Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl am i Lywodraeth Cymru gydnabod y bwlch hwn a chynnwys sgrinio iechyd meddwl amenedigol a chymorth i’r ddau riant fel rhan o asesiadau bydwreigiaeth yn ei strategaeth iechyd meddwl arfaethedig.”
Dim ond y dechrau o ran cefnogi tadau newydd
Mynegodd cyfanswm o 91 o dadau eu barn drwy arolwg ar-lein hefyd.
Canfu’r arolwg fod 70% o dadau eisiau mwy o wybodaeth am beth i’w ddisgwyl wrth ddod yn dad.
Ymunodd y Sefydliad â Sefydliad y Tadau i greu ‘Becoming Dad’, canllaw yn cynnwys llawer o awgrymiadau a chyngor ymarferol.
Dywedodd Dr Jeremy Davies o Sefydliad y Tadau, awdur Becoming Dad:
Am lawer rhy hir, mae tadau wedi bod yn ddim ond troednodyn mewn gwasanaethau amenedigol, er gwaethaf tystiolaeth gref o’u heffaith enfawr ar ganlyniadau i fabanod a mamau.
“Mae gan ddynion lawer i’w wneud a meddwl amdano fel tadau newydd, ac mae angen mwy o gefnogaeth arnyn nhw. Rydym yn falch iawn o fod wedi ysgrifennu Becoming Dad i’w helpu ar eu ffordd.”
Cyflawni canlyniadau gwell i’r teulu cyfan
Dywedodd Mark, Hyrwyddwr Ymchwil NCMH, sy’n ymgyrchu dros les meddyliol tadau newydd, am ei gyfraniad, “Fel y gwyddom, mae tadau sydd â lles emosiynol da yn fwy tebygol o chwarae, darllen a dawnsio gyda’u plentyn.
“Mae’r Prosiect Dads and Football wedi cynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth tadau ac wedi helpu tadau i fynd drwy’r broses o ddod yn dad gyda’i gilydd.
Mae hefyd wedi rhoi lle a llais i dadau siarad yn agored am eu hiechyd meddwl mewn amgylchedd diogel, sydd wedi bod o fudd i’w teuluoedd, y gweithle a chymdeithas yn gyffredinol.
“Roeddwn yn falch o gymryd rhan o ddechrau’r prosiect ar y pwyllgor cynghori, a gweld llwyddiant y canlyniadau i dadau.
“Mae’r prosiect wedi helpu i greu canlyniadau llawer gwell i’r teulu cyfan a datblygiad y plentyn.”
Adnoddau
- Mental Health Foundation | Becoming Dad
Darllen rhagor
- Mental Health Foundation | Dads and football project