Posted October 23rd 2024
Mae anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) yn gyflwr niwroddatblygiadol sy’n effeithio ar 1 o bob 20 o bobl ifanc ac 1 o bob 25 o oedolion.
Mae’n hysbys nad yw rhai pobl ag ADHD yn cael diagnosis nes eu bod yn oedolion. Mae hyn i’w weld hyd yn oed yn amlach ymhlith merched, menywod ifanc a phobl a bennwyd yn fenywaidd adeg eu geni (AFAB). Ar ben hynny, mae ymchwil yn awgrymu bod merched a menywod ar gyfartaledd yn cael diagnosis o ADHD yn hwyrach na bechgyn a dynion. Ond pam felly?
Mae sawl rheswm posibl pam mae merched a menywod ifanc yn wynebu oedi neu’n methu â chael diagnosis.
- Cuddio a gwrthbwyso
- Diagnosis amgen
- Canfyddiadau o ADHD a disgwyliadau o ran rhywedd
- Sut y mynegir symptomau ADHD
1. Cuddio a gwrthbwyso
Gallai rhai pobl ifanc gael diagnosis hwyrach o ADHD am eu bod naill ai’n cuddio’r cyflwr neu’n ei wrthbwyso. Gellir diffinio cuddio fel y weithred ymwybodol neu anymwybodol o atal symptomau ADHD er mwyn ymddangos yn fwy niwronodweddiadol. Gellir diffinio gwrthbwyso fel defnyddio strategaethau gweithredol i oresgyn symptomau ADHD. Gall unigolion guddio neu wrthbwyso er mwyn ceisio bod yr un fath â phawb arall, osgoi mynd i drafferthion, neu gelu unrhyw anawsterau. Mae ymchwil ansoddol am oedolion wedi nodi/awgrymu y gall dynion a menywod ag ADHD guddio’r anawsterau sy’n deillio o’r cyflwr. Dyma rai enghreifftiau o hyn:
- Gwneud rhestrau er mwyn eu helpu i beidio ag anghofio
- Atal yr awydd i fod yn aflonydd neu symud
- Cymryd camau gormodol a diangen wrth reoli amser a threfnu, a chyrraedd digwyddiadau yn gynnar iawn neu or-baratoi
- Aros yn dawel er mwyn osgoi dweud pethau’n fyrbwyll
Prin yw’r ymchwil sy’n edrych ar guddio a gwrthbwyso, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, ac i ba raddau mae’r rhain yn cyfrannu at yr oedi o ran rhoi diagnosis i unigolion sydd ag ADHD, a sut mae hyn yn wahanol ymhlith dynion a menywod. Er hynny, mae arbenigwyr wedi awgrymu y gallai menywod ag ADHD fod yn datblygu strategaethau gwell ar gyfer ymdopi neu guddio o gymharu â dynion ag ADHD. Os bydd astudiaethau ymchwil yn y dyfodol yn ategu hyn, gallai fod yn rheswm sy’n cyfrannu at fethu â rhoi diagnosis ymhlith menywod neu oedi.
2. Diagnosis amgen
Fe awgrymodd ymchwil ddiweddar a edrychodd ar gofnodion gofal iechyd yng Nghymru y gallai cysgodi diagnosis fod yn rhannol gyfrifol am y ffaith fod menywod yn cael cydnabyddiaeth a thriniaeth hwyrach ar gyfer ADHD. Mae hyn yn digwydd pan mae symptomau un cyflwr (e.e. ADHD) yn cael eu priodoli i gyflwr arall (e.e. gorbryder). Gall y rhain fod yn gyflyrau iechyd meddwl eraill neu hyd yn oed fod yn achosion o gamddiagnosis cychwynnol.
Yn yr astudiaeth hon, roedd menywod ag ADHD yn fwy tebygol o gael diagnosis o gyflyrau fel iselder neu orbryder, cyn cael diagnosis o ADHD, o’u cymharu â dynion ag ADHD. Gallai diagnosis o’r fath arwain at gysgodi diagnostig ac oedi cyn cydnabod ADHD.
3. Canfyddiadau o ADHD a disgwyliadau o ran rhywedd
Mae llawer o ganfyddiadau a stereoteipiau yn gysylltiedig ag ADHD yn aml gan ei fod yn cael ei ystyried yn gyflwr sy’n fwy cyffredin ymhlith bechgyn a dynion. O’r herwydd, mae disgwyliadau o ran rhywedd yn gysylltiedig ag ADHD yn aml.
Mae ymchwil wedi canfod y gallai hysbyswyr gwybodus (er enghraifft, rhieni, athrawon) fod yn fwy tebygol o anwybyddu ADHD ymhlith merched a menywod. Oherwydd hynny, maent yn llai tebygol o’u cyfeirio i gael diagnosis o ADHD. Mewn un astudiaeth a edrychodd ar achosion o rieni ac athrawon yn darllen disgrifiadau cryno o ymddygiad plant, a rhywedd y plentyn oedd yr unig wahaniaeth rhyngddynt, gwelwyd eu bod yn llai tebygol o ddweud y byddent yn cyfeirio merched i gael asesiad ADHD na bechgyn.
Mae hyn yn awgrymu y gall canfyddiadau’r rhai sy’n cynorthwyo pobl ifanc ddylanwadu ar bwy sy’n cael eu cyfeirio i gael asesiad ADHD. Gallai hefyd esbonio pam y gallai merched a menywod ifanc fethu â chael diagnosis, neu gael diagnosis hwyr, o ADHD.
4. Sut y mynegir symptomau ADHD
Mae ymchwil yn awgrymu y gallai fod gwahaniaethau yn seiliedig ar rywedd o ran sut mae symptomau ADHD yn cael eu cyflwyno. Mae tri is-deip o ADHD: gorfywiogrwydd/byrbwylledd, diffyg canolbwyntio a math cyfunol.
Mae menywod yn fwy tebygol o gyflwyno is-deip diffyg canolbwyntio, gan gynnwys symptomau anghofusrwydd a diffyg sylw. Nid yw’r rhain mor amlwg ac maent yn tarfu llai o gymharu â symptomau gorfywiogrwydd-byrbwylledd.
Felly, gall menywod sydd â’r is-deip diffyg canolbwyntio fod yn llai gweladwy a mor hawdd eu hadnabod o’u cymharu â’r rhai sydd ag is-deipiau eraill o ADHD. O ganlyniad i hynny, nid ydynt yn cael eu cyfeirio ar gyfer ADHD nac yn cael triniaeth ar ei gyfer.
Yn gyffredinol, mae amrywiaeth o resymau pam y gall rhywun gael diagnosis o ADHD yn hwyrach na phobl eraill. Mae diagnosis amserol o ADHD yn bwysig gan ei fod yn helpu’r unigolyn i ddeall ei ymennydd yn well. Mae hefyd yn ei alluogi i gael triniaeth a chymorth addysgol neu yn y gweithle.
Ein hymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd
Yn rhan o’n prosiect ymchwil, sy’n cael ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, rydym yn astudio pam y gallai pobl fethu â chael diagnosis o ADHD, neu gael un yn hwyrach, a beth ellir ei wneud i wella hyn.
Rydym yn edrych ar pam mae rhai pobl yn cael diagnosis yn gynharach a pham mae gan rai pobl symptomau ADHD, ond heb gael diagnosis ohono. Rydym yn gwneud hyn drwy ddefnyddio setiau data mawr yn y DU a Sweden. Drwy siarad â menywod ac unigolion anneuaidd, rydym hefyd yn defnyddio dulliau ansoddol i edrych ar sut mae symptomau ADHD yn dod i’r amlwg ymhlith menywod.
Mae ymchwil i’r pwnc hwn yn bwysig oherwydd bydd yn codi ymwybyddiaeth o ddiagnosis annigonol o ADHD, a’r camddiagnosis posibl ohono, ymhlith merched a menywod. Gyda lwc, bydd yr ymchwil hon yn ein galluogi i ddatblygu offer sgrinio sy’n fwy effeithiol wrth adnabod symptomau sy’n nodweddiadol o ADHD ymhlith menywod. Bydd hefyd yn galluogi diagnosis cynharach o ADHD ac yn rhoi cymorth i’r rhai a allai elwa ohono.
Read more
- Cyflyrau iechyd meddwl: ADHD
- NCMH Blog | Taflu goleuni ar symptomau ADHD mewn merched a menywod
- NCMH Blog a podlediad | Ymchwilio i ADHD sy’n effeithio ar ferched, menywod ifanc, a phobl anneuaidd
Gwylio
Gwyliwch yr animeiddiad hwn a ddatblygwyd gennym gyda phobl ifanc ag ADHD a’u teuluoedd, ymchwilwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol.