Skip to main content

Ymchwilwyr o’r Ganolfan Genedlaethol Iechyd y Meddwl (NCMH) yn dangos y gorau o’u hoffer digidol mewn digwyddiad Llywodraeth Cymru ym Mrwsel.

Yn dilyn arddangosfa lwyddiannus yn Lancaster House llynedd, gwahoddwyd ymchwilwyr NCMH Dr Amy Lynham a Dr Catrin Lewis gan Rwydwaith Arloesi Cymru (WIN) acAddysg Uwch Cymru Brwsel (WHEB) i ddangos yr offer cymorth iechyd meddwl digidol y maent wedi bod yn eu datblygu mewn digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth Cymru ym Mrwsel.

Roedd yr arddangosfa yn dathlu cryfder ac ehangder ymchwil ac arloesi (R&I) sy’n digwydd ar draws sawl prifysgol yng Nghymru, ac yn rhan o ymrwymiad parhaus i arloesi a chydweithio yn Ewrop drwy raglen  Horizon .

Yn bresennol roedd Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford a dynnodd sylw at ymroddiad Cymru i hyrwyddo mentrau ymchwil arloesol sydd o fudd i’r economi a’r gymdeithas:

“Un o rinweddau mwyaf nodweddiadol ein prifysgolion yw pa mor dda y maent yn gwneud ymchwil yr ystyrir ei bod yn cael effaith ragorol yn rhyngwladol.”

Roedd Dr Amy Lynham yn arddangos platfform digidol sy’n cael ei ddefnyddio gan glinigwyr i brofi cof a swyddogaeth wybyddol mewn cleifion â seicosis.

Dywedodd Dr Lynham: “Nododd y digwyddiad hwn y DU yn ail-ymuno â rhaglen ymchwil ac arloesi’r UE sef Horizon Europe. Roedd wir yn bleser cael ein gwahodd gan Rwydwaith Arloesi Cymru i arddangos ein gwaith eto.

“Roedd yn gyfle gwych i ymgysylltu ag uwch arweinwyr o bob cwr o’r byd, gan gynnwys staff o’r Comisiwn Ewropeaidd ac asiantaethau ariannu cenedlaethol i ddangos Asesiad Gwybyddol Ar-lein Caerdydd (CONCA) mewn amser real!”

I ddarllen rhagor am CONCA.

Gwahoddwyd Dr Catrin Lewis, gyda’i chanolbwynt ymchwil ar Anhwylder Straen Wedi Trawma i (PTSD) i ddangos  Spring   sef rhaglen hunangymorth digidol arloesol i drin PTSD a PTSD cymhleth.

Dywedodd Dr Lewis: “Roedd wir yn bleser cael cymryd rhan yn yr arddangosfa fawreddog hon ym Mrwsel. Roedd yn gyfle gwych i ddangos ‘’Spring’ yn ogystal â llwyddiant y rhaglen hyd yn hyn ac i rannu ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol gydag arweinwyr ymchwil o bob rhan o Ewrop.”

Mae rhaglen ‘Spring’ a’i datblygwyd gan Grŵp Ymchwil Straen Trawmatig Prifysgol Caerdydd eisoes wedi profi mor effeithiol â therapi ymddygiad gwybyddol wyneb yn wyneb gyda ffocws trawma (CBT-TF) yn eu treial diweddaraf, RAPID.

Wrth fyfyrio ar y diwrnod, nododd y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford:

“Nawr ein bod yn gwbl gysylltiedig â rhaglen Horizon Europe, mae gennym gyfle sylweddol i gryfhau partneriaethau rhyngwladol, denu doniau byd-eang a gwneud gwaith gwyddonol ac arloesol sydd ar flaen y gad, a all sicrhau manteision amlwg i gymdeithas yng Nghymru a thu hwnt.”

Dysgwch fwy am ymrwymiad Cymru i arloesi a chydweithio ledled Ewrop.

Darllenwch ragor

Ellie Short

Ellie yw Swyddog Cyfathrebu NCMH a Chanolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd