Skip to main content

Seicosis ôl-enedigol: o ymchwil i adferiad

Yn rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Mamau, cynhaliodd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) weminar ar seicosis ôl-enedigol (PP), sef salwch meddwl yn dilyn rhoi genedigaeth gyda symptomau sy’n amrywio o rithwelediadau a rhithdybiau i mania, iselder neu ddryswch.

Cynhaliwyd y gweminar ddydd Iau 4 Mai mewn partneriaeth ag Action on Postpartum Psychosis (APP) a chlywodd y sawl oedd yn bresennol gan ymchwilwyr a lleisiau arbenigol â phrofiad byw o’r anhwylder gan gynnwys yr awdur a llysgennad APP, Laura Dockrill.

Disgrifiodd Dockrill ei phrofiad o PP fel un ‘mwyaf trawmatig’ ei bywyd: “Deffrais ar fy Sul y Mamau cyntaf mewn ward seiciatrig… wedi fy ngwahanu oddi wrth fy maban newydd-anedig heb unrhyw syniad sut na pham y cyrhaeddais yno,” meddai.

Pwysigrwydd ymchwil ar seicosis ôl-enedigol

Esboniodd yr Athro Ian Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, fod genedigaeth yn sbardun pwerus ar gyfer salwch meddwl:

Mae menywod 25 gwaith yn fwy tebygol o gael eu derbyn i’r ysbyty oherwydd salwch meddwl yn ystod y mis cyntaf hwnnw yn dilyn rhoi genedigaeth nag mewn unrhyw bwynt arall yn ystod eu bywydau.”

Mae llawer o ffactorau a allai gyfrannu at risg uwch o seicosis ôl-enedigol gan gynnwys ffactorau genetig, diagnosis o anhwylder deubegynol neu aflonyddwch o ran cwsg sy’n digwydd wrth ofalu am fabi newydd-anedig.

Y gobaith yw y bydd rhagor o ymchwil i’r salwch meddwl ‘pwysig ond sydd heb ei astudio’n ddigonol’ hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau menywod a’u teuluoedd.

Gweithio i wella bywydau menywod a’u teuluoedd

Esboniodd Dr Sally Wilson sut mae NCMH ac APP yn ceisio pontio bylchau o ran ymchwil. Mae hyn wedi cynnwys canolbwyntio’n benodol ar ffactorau risg gan gynnwys cwsg a geneteg, yn ogystal ag arolygon i gasglu profiad o lygad y ffynnon o ofal ac adferiad o ran PP.

Mae arolygon a gynhaliwyd gan APP yn dangos bod boddhad cyffredinol o ran gofal ar gyfer seicosis ôl-enedigol wedi cynyddu. Fodd bynnag, nododd fod rhagor o waith i’w wneud: “Rydym yn dal i weld adferiad arafach a chyfradd boddhad is ymhlith y rhai sy’n cael eu derbyn i unedau seiciatrig cyffredinol [yn hytrach nag unedau arbenigol] a’r rhai sydd wedi’u gwahanu oddi wrth eu babanod.”

Myfyriodd Dr Jo Hodgekins ar y gwasanaethau cyfredol sydd ar gael i fenywod â PP, “Mae llwybrau gofal presennol o fewn gwasanaethau iechyd meddwl y GIG a allai gynnig cymorth i fenywod a theuluoedd, ond mae angen i ni ddeall y materion sy’n gysylltiedig â’r broses adfer yn well, felly hefyd o ran sut y gallwn deilwra ymyriadau a phwy sydd yn y sefyllfa orau i’w cyflawni.”

Gwyliwch y weminar:

Cymryd rhan mewn ymchwil ar seicosis ôl-enedigol

Mae NCMH eisiau deall rhagor am achosion a sbardunau salwch meddwl difrifol yn ystod beichiogrwydd ac yn dilyn rhoi genedigaeth. Rhagor o wybodaeth am yr ymchwil hon, gan gynnwys gwybodaeth am sut i gymryd rhan.

Julia Pearce

Mae Julia yn Swyddog Cyfathrebu yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddoniaeth Glinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd