Skip to main content

Prifysgol Caerdydd yn ymuno ag ymdrech ymchwil fyd-eang i ddysgu mwy am seicosis ôl-enedigol

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithio gyda'r Consortiwm Seicosis Ôl-enedigol Rhyngwladol i ddysgu mwy am y cyflwr.

Yn hanesyddol, mae ymchwil i iechyd meddwl mamau wedi’i chynnal mewn gwledydd incwm uchel yn y Gorllewin sy’n rhywbeth y mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn ceisio’i herio gyda chymorth y Consortiwm Seicosis Ôl-enedigol Rhyngwladol.

Ers blynyddoedd rydym ni wedi dibynnu ar ymchwil o nifer fach iawn o wledydd y Gorllewin yn bennaf.

Mae hyn yn codi llawer o ystyriaethau, gan gynnwys diffyg amrywiaeth sy’n golygu nad yw’n glir a yw canlyniadau’r ymchwil yn berthnasol i bawb yn y byd.

Hyd yn oed mewn achosion lle mae ymchwil iechyd meddwl wedi’i chynnal mewn amrywiaeth o wledydd, nid yw bob amser yn glir a yw’r cyflwr ei hun yn gyson ar draws y lleoedd hyn.

Er enghraifft, mae ymchwil flaenorol a arweiniwyd gan yr Athro Arianna Di Florio ar iselder ôl-enedigol wedi dangos y gall menywod adrodd ar eu symptomau mewn ffyrdd ychydig yn wahanol, hyd yn oed rhwng Ewrop ac America, yr ystyrir yn aml eu bod yn debyg.

Felly ni allwn fod yn siŵr fod ein hymchwil yn ddibynadwy os nad ydym ni’n gwybod a yw’r cyflwr rydym ni’n ei astudio’r un fath ar draws gwledydd.

Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer cyflwr fel seicosis ôl-enedigol na fu digon o ymchwil arno yn hanesyddol, er mai dyma’r salwch meddwl mamol mwyaf difrifol y gwyddom amdano.

Mae gwaith diweddar dan arweiniad ymchwilwyr yn yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ceisio mynd i’r afael â’r materion hyn drwy weithio gyda chydweithwyr yn y Sefydliad Cenedlaethol Iechyd Meddwl a Niwrowyddorau yn Bengaluru, India a Phrifysgol Gwyddorau Iechyd Kamuzu yn Blantyre, Malawi.

Gyda’n gilydd, buom yn siarad â menywod â phrofiad personol o seicosis ôl-enedigol, eu teuluoedd, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweithio’n agos yn y maes hwn.

Gofynnwyd iddyn nhw am y symptomau roedden nhw’n eu cysylltu â seicosis ôl-enedigol, ei ddatblygiad nodweddiadol, a’r labeli y bydden nhw’n eu defnyddio i ddisgrifio eu hepisod.

Beth ddysgon ni?

Gwelsom fod yna lawer o debygrwydd yn y ffordd mae seicosis ôl-enedigol yn cyflwyno ar draws y tair gwlad. Mae’n ymddangos bod pobl yn dangos symptomau tebyg, yn canfod bod triniaethau tebyg yn ddefnyddiol, ac yn adrodd am ganlyniadau tebyg yn sgil episod.

Buom yn cydweithio i ddeall y cyflwr o safbwynt yr arbenigwyr a datblygu rhestr o flaenoriaethau ymchwil ar gyfer y dyfodol a fydd o fudd i bobl ar draws y tair gwlad.

Bydd y gwaith hwn yn ein helpu i barhau gyda’n hymchwil i’r maes yn hyderus fod yr hyn rydym ni’n ei wneud yn cael ei lywio gan gleifion ac yn werth chweil.

Mae hefyd yn bwysig bod dealltwriaeth o’r cyflwr rydym ni’n ei astudio yn ddigon cyson ar draws diwylliannau i gynnal ymchwil drawsddiwylliannol.

Cymryd rhan mewn ymchwil

Gyda chyfraniad gan ein rhanddeiliaid, rydym ni hefyd wedi datblygu offeryn asesu ymchwil seicosis ôl-enedigol sydd bellach yn cael ei ddefnyddio i’n helpu i gynnal mwy fyth o ymchwil i seicosis ôl-enedigol.

Caiff yr astudiaeth hon, a gynhelir gyda chymorth y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl, ei defnyddio i helpu i ddeall ffactorau risg genetig ac amgylcheddol seicosis ôl-enedigol yn well.

Cymerwch ran yn yr ymchwil hwn ar wefan NCMH.

Darllenwch y papur llawn, ‘Postpartum psychosis: a public involvement perspective across three continents’.

Jessica Yang

Mae Jessica yn Gynorthwy-ydd Ymchwil ar gyfer yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd