Posted June 07th 2023
Ddydd Mawrth 6 Mehefin, daeth aelodau o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH), Bipolar UK a’r cyhoedd at ei gilydd i lansio Comisiwn Cymru ar yr Anhwylder Deubegynol; gan roi sylw i nod Cymru i fod y wlad fwyaf cyfeillgar yn y byd o ran yr anhwylder deubegynol.
Mae hanner can mil o bobl yng Nghymru yn byw gyda’r anhwylder deubegynol (BD) ac mae’r comisiwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella bywydau’r rhai sy’n byw gyda BD drwy leihau oedi wrth roi diagnosis, a thrwy ofal arbenigol, datblygu safonau a chynnig seicoaddysg i bawb sydd â’r anhwylder deubegynol.
Yr amser aros cyfartalog ar gyfer cael diagnosis yng Nghymru yw 12 mlynedd ac mae’r comisiwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru leihau’r oedi hwn i bum mlynedd. Dywedodd Simon Kitchen, Prif Swyddog Gweithredol Bipolar UK, “Mae pum mlynedd yn dal i fod yn gyfnod aros dirdynnol o boenus i lawer, ond mae’n realistig o ystyried cyflwr presennol y gwasanaethau iechyd.”
Gobaith i unigolion â’r anhwylder deubegynol
Yn y lansiad, clywsom gan amrywiaeth o bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan yr anhwylder deubegynol, yn ogystal â’r rhai sydd ynghlwm â hwyluso o ran yr anhwylder neu’n derbyn cymorth ar ei gyfer. Esboniodd ymchwilydd NCMH a’r hwylusydd seicoaddysg, John Tredgett, fod NCMH yn cynnig rhaglen seicoaddysg 11 wythnos arobryn sy’n anelu at wella ansawdd bywyd pobl â’r anhwylder deubegynol.
Mae Rhaglen Addysg Cymru ar Anhwylder Deubegynol (BEPC) yn galluogi unigolion i reoli eu cyflwr yn well trwy ddeall y symptomau, adnabod sbardunau a monitro eu hwyliau i’w helpu i fod mor iach â phosibl.
Disgrifiodd Helen Matthews ei phrofiad o fod yn Swyddog Cefnogi Cymheiriaid, Bipolar UK, sydd hefyd yn pwysleisio hunanreolaeth lle gall partneriaid cymorth ac unigolion sydd â’r anhwylder deubegynol gael cymorth gan unigolyn arall sydd â phrofiad bywyd o’r anhwylder. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar sut i gefnogi anwyliaid yn ogystal â strategaethau ymdopi i gadw’n iach.
Sut y gall cyfrannu at ymchwil ar anhwylder deubegynol wneud gwahaniaeth go iawn
Mae’r Athro Ian Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn gofyn i’r rhai sydd â phrofiad bywyd o anhwylder deubegynol gymryd rhan mewn ymchwil fel y gallwn ddeall yr anhwylder, ei achosion, y sbardunau a’r ffordd orau o’i reoli.