Skip to main content

Astudiaeth Newydd: Merched yn Tyfu i Fyny ag ADHD

Nod yr astudiaeth hon gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yw nodi ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag ADHD sy'n fwy cyffredin ymhlith merched a menywod ifanc er mwyn llywio datblygiad adnodd asesu ADHD newydd, cynhwysol o ran rhywedd ar gyfer plant ysgol gynradd.

Mae Anhwylder Gorfywiogrwydd Diffyg Sylw, a elwir hefyd yn ADHD, yn gyflwr niwroddatblygiadol sy’n effeithio ar tua 1 o bob 20 o bobl ifanc. Mae prif symptomau ADHD yn cynnwys lefelau ansylw sy’n amhriodol o ran oedran, gorfywiogrwydd a byrbwylltra sy’n ymyrryd â gweithredu bob dydd.

Mae merched a menywod ifanc yn aml yn colli allan ar gymorth cynnar ar gyfer diagnosis ADHD, a allai yn ei dro arwain at ddatblygu afiechyd meddwl.

Mae hyn oherwydd bod merched a menywod ifanc yn llai tebygol o gael diagnosis, a allai fod oherwydd gwahaniaeth yn y symptomau a welir rhwng y rhywiau. O ganlyniad, nid yw llawer yn cael diagnosis tan eu bod yn oedolion.

Mae angen deall profiadau a chyflwyniad ADHD yn well ymhlith merched a menywod ifanc.

Bydd hyn yn caniatáu i ADHD gael ei adnabod mewn merched a menywod ifanc yn gynharach gan arwain at fynediad cyflymach at gymorth.

Mae angen cefnogaeth gynharach, gan gynnwys cydnabod ADHD ymhlith merched a menywod ifanc, a mynediad at driniaeth, i wella iechyd meddwl a lles pobl ifanc ag ADHD.

“Mae’n bwysig i ymchwilwyr glywed yn uniongyrchol gan unigolion sydd â phrofiadau byw o ADHD, yn ogystal â rhieni a gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi pobl ifanc sydd wedi cael diagnosis o ADHD, er mwyn deall yn well sut y gallwn weithio tuag at wella gwasanaethau ADHD i bobl ifanc,” meddai Arweinydd y Prosiect, Dr Joanna Martin.

Nod yr astudiaeth hon, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yw ymchwilio i’r cyflwyniad a’r ADHD mewn merched a menywod ifanc.

Mae rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth ar gael ar ein tudalen astudio

Sylwer: Gan ein bod wedi cael cymaint o ymatebion, rydym wedi cau’r astudiaeth hon ar gyfer pobl ifanc. Os ydych yn rhiant/gofalwr neu’n weithiwr gofal iechyd/addysg proffesiynol, hoffem glywed gennych o hyd. Diolch am gefnogi ymchwil NCMH.

Pwy a all gymryd rhan?

  • Oedolion ifanc 18-25 oed sy’n uniaethu â bod yn fenyw, yn anneuaidd neu’n drawsryweddol, ac sydd â diagnosis o ADHD neu ADD (anhwylder diffyg sylw)
  • Rhieni/gofalwyr merched 5-18 oed sydd wedi cael diagnosis o ADHD neu ADD gan feddyg neu weithiwr iechyd proffesiynol arall
  • Gweithwyr addysg neu ofal iechyd proffesiynol sydd â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc, yn enwedig merched, ag ADHD
  • Rhaid eich bod yn byw yng Nghymru neu’r DU ehangach

Beth y mae’n ei olygu?

Os ydych yn gymwys i gymryd rhan:

  • Bydd oedolion ifanc yn cymryd rhan mewn cyfweliad un-i-un a fydd yn para rhwng 30 a 60 munud
  • Bydd rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol yn cymryd rhan mewn grwpiau ffocws gyda rhieni/gofalwyr neu weithwyr proffesiynol eraill yn yr un maes gwaith (yn y drefn honno), a fydd yn para 90 munud
  • Bydd y cyfweliadau a’r grwpiau ffocws yn cynnwys cwestiynau a thrafodaeth am y modd y mae ADHD yn ymgyflwyno mewn merched, a phrofiadau bywyd o dyfu i fyny ag ADHD.

Adnoddau

NCMH |Cyflyrau iechyd meddwl- ADHD

Tamara Williams
Mae Tamara Williams yn Gynorthwyydd Ymchwil sy'n gweithio yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer
Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd