Help gyda’n ADHD mewn ymchwil merched ifanc
Cefndir
Mae merched a menywod ifanc yn llai tebygol o gael diagnosis o anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) na bechgyn a dynion ifanc, a phan fydd yna ddiagnosis, mae yna oedi yn aml cyn iddynt ei gael. Gall yr oedi hwn cyn cael diagnosis olygu bod merched a menywod ifanc yn colli allan ar gymorth cynnar ar gyfer eu diagnosis, a allai effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant. O’r herwydd, mae gennym ddiddordeb ym mhrofiadau ac ymgyflwyniad ADHD ymhlith merched a menywod ifanc.
Pam yr ydym yn cynnal yr ymchwil hon?
Rydym am nodi ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag ADHD mewn pobl ifanc rhywedd-amrywiol er mwyn helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu offeryn asesu ADHD newydd a fydd yn gynhwysol o ran rhywedd ar gyfer plant ysgolion cynradd.
Pwy a all gymryd rhan?
- Oedolion ifanc 18-25 oed sy’n uniaethu â bod yn fenyw, yn anneuaidd neu’n drawsryweddol, ac sydd â diagnosis o ADHD neu ADD (anhwylder diffyg sylw)
- Rhieni/gofalwyr merched 5-18 oed sydd wedi cael diagnosis o ADHD neu ADD gan feddyg neu weithiwr iechyd proffesiynol arall
- Gweithwyr addysg neu ofal iechyd proffesiynol sydd â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc, yn enwedig merched, ag ADHD
- Rhaid eich bod yn byw yng Nghymru neu’r DU ehangach
Beth y mae’n ei olygu?
Os ydych yn gymwys i gymryd rhan:
- Bydd oedolion ifanc yn cymryd rhan mewn cyfweliad un-i-un a fydd yn para rhwng 30 a 60 munud
- Bydd rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol yn cymryd rhan mewn grwpiau ffocws gyda rhieni/gofalwyr neu weithwyr proffesiynol eraill yn yr un maes gwaith (yn y drefn honno), a fydd yn para 90 munud
- Bydd y cyfweliadau a’r grwpiau ffocws yn cynnwys cwestiynau a thrafodaeth am y modd y mae ADHD yn ymgyflwyno mewn merched, a phrofiadau bywyd o dyfu i fyny ag ADHD.
Gallwch gymryd rhan ar-lein (e.e. Zoom) neu wyneb yn wyneb (ym Mhrifysgol Caerdydd). Mae gan oedolion ifanc hefyd yr opsiwn i gymryd rhan dros y ffôn. Os byddwch yn cymryd rhan, byddwch yn cael taleb rhodd Love2Shop gwerth £25. Mae talebau ychwanegol ar gael i dalu am gostau teithio a gofal plant (os bydd hynny’n berthnasol).
Mae cymryd rhan yn wirfoddol: chi sydd i benderfynu a ydych am gofrestru.