Posted March 02nd 2023
Mae’r gronfa wedi cael ei dyfarnu i 22 o brosiectau sy’n ceisio datblygu triniaethau a thechnoleg newydd i gefnogi gofal iechyd cyn-filwyr.
“Rydym yn falch iawn o dderbyn cyllid gan y Swyddfa Materion Cyn-filwyr i addasu ‘Spring’, ein triniaeth dan arweiniad effeithiol ar y rhyngrwyd ar gyfer PTSD, i helpu cyn-filwyr,” meddai’r Athro Jonathan Bisson.
Mae Grŵp Ymchwil Straen Trawmatig Prifysgol Caerdydd (CUTSRG) a gynhelir gan yr NCMH wedi gwneud ymchwil yn y gorffennol a oedd yn dangos effeithiolrwydd therapi ar-lein vs. wyneb yn wyneb i drin anhwylder straen wedi trawma.
Fel rhan o’r ymchwil hon, datblygodd y grŵp ‘Spring’, sef Therapi Ymddygiad Gwybyddol dan arweiniad ac ar y rhyngrwyd gyda rhaglen Trauma Focus (CBT-TF) gydag arweiniad gan weithiwr proffesiynol hyfforddedig.
Bydd y cyllid hwn sydd newydd ei ddyfarnu yn caniatáu i’r grŵp addasu ‘Spring’ ymhellach yn rhaglen bwrpasol i drin cyn-filwyr â PTSD.
Darllenwch fwy am y Gronfa Arloesi Iechyd.