Posted November 18th 2022
Daw’r astudiaeth hon yn rhan o werthusiad diweddaraf y rhaglen, dan arweiniad Dr Rhys Bevan Jones ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae’r angen am offeryn digidol sy’n seiliedig ar dystiolaeth wedi dod yn amlwg o’r corff cynyddol o ymchwil sy’n cyfeirio at gyfraddau uchel o hwyliau isel ac iselder yn ystod cyfnod y glasoed, gan nad yw llawer o bobl ifanc yn cyrchu neu’n derbyn unrhyw gymorth ffurfiol i helpu i reoli’r anawsterau hyn.
Cafodd y rhaglen newydd hon, MoodHwb, ei datblygu gyda phobl ifanc, teuluoedd, gofalwyr ac ymarferwyr o feysydd iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol ac elusennau.
Roedd cydweithio o’r fath yn bwysig i sicrhau bod dyluniad a chynnwys MoodHwb yn berthnasol ac yn hygyrch i’r bobl a fyddai’n elwa o’i defnyddio.
Ceir rhagor o fanylion am ei datblygiad yn y papur hwn.
Yn dilyn hyn, cynhaliwyd gwerthusiad cynnar o MoodHwb. Roedd y canfyddiadau cyffredinol yn ffafriol ac yn cynnwys adborth ar sut y gellid gwella’r rhaglen.
Bydd yr astudiaeth bresennol yn caniatáu i’r rhaglen gael ei datblygu ymhellach ac yn cynnig rhagor o dystiolaeth ar ba mor ddichonol a derbyniol yw’r rhaglen a’i heffaith bosibl ar hwyliau a lles pobl ifanc.
Dechreuais weithio ar y prosiect hwn ym mis Gorffennaf yn gynorthwy-ydd ymchwil. Ochr yn ochr â hyn, rwy’n ymarferydd lles seicolegol mewn ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr. Mae hyn yn golygu fy mod yn asesu ac yn trin pobl dros un ar bymtheg oed i helpu i reoli eu hanawsterau iechyd meddwl gan ddefnyddio technegau sy’n seiliedig ar therapi ymddygiad gwybyddol.
Rwy’n sylwi’n aml ar y rhwystrau y gall pobl ifanc eu hwynebu wrth ymgysylltu â chymorth iechyd meddwl – boed yn rhestrau aros hir, anhawster mynegi neu ddeall emosiynau, methu â gwybod ble i fynd am help, neu gael eich dychryn gan y posibilrwydd o gael cymorth un i un gyda gweithiwr proffesiynol.
Rwy’n credu’n gryf y bydd gan dechnolegau digidol rôl enfawr wrth chwalu rhai o’r rhwystrau hyn, ac rwy’n gyffrous iawn i fod yn rhan o’r ymchwil hon!
Cymryd rhan
Agorodd yr astudiaeth ym mis Hydref 2022 dan arweiniad Dr Rhys Bevan Jones.
Beth mae’n ei olygu?
Dyma beth fydd yn digwydd os ydych chi’n hapus i gymryd rhan:
Dechrau’r prosiect:
- Cwblhau ffurflen ar-lein, siarad gyda ni am y prosiect a chydsynio i gymryd rhan
- Cwblhau holiadur ar-lein am eich hwyliau a’ch lles, sy’n cymryd tua 25-30 munud
- Derbyn dolen at raglen ar-lein/ap neu becyn gwybodaeth digidol
Dau fis ar ôl dechrau:
- Cwblhau’r un holiadur ar-lein
- Os defnyddioch chi’r rhaglen, ateb cwestiynau ychwanegol am eich adborth, sy’n cymryd tua 10-15 munud
Bydd gan ddwy ran o dair o bobl ifanc fynediad at y rhaglen ar-lein a bydd traean yn derbyn y pecyn gwybodaeth. Bydd cyfrifiadur yn penderfynu ym mha grŵp fyddwch chi.
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio pobl ifanc sydd:
- yn byw yng Nghymru neu’r Alban
- rhwng 13 a 19 oed ac sy’n cael problemau mewn perthynas â’u hwyliau neu eu lles (fel teimlo’n isel),
- a’u rhieni neu ofalwyr.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen astudio.
Adnoddau
YouTube Cyflwyniad Astudio: