Cymorth digidol i bobl ifanc gyda’u hwyliau a’u lles
Cefndir
Mae llawer o bobl ifanc yn cael problemau gyda’u hwyliau, a dyw’r rhan fwyaf ohonyn nhw ddim yn cael unrhyw help.
Rydym ni nawr yn edrych ar ffyrdd gwahanol i helpu pobl ifanc ar-lein gyda’u hiechyd, eu hwyliau a’u lles.
Rydym ni wedi datblygu rhaglen ar-lein/ap gyda phobl ifanc a theuluoedd/gofalwyr i gefnogi eu hwyliau a’u lles.
Os hoffech gymryd rhan yn yr astudiaeth hon, llenwch y ffurflen sydd i’w gweld ar waelod y dudalen.
Pam ydym ni’n cynnal yr ymchwil hon?
Mae gennym ddiddordeb mewn gweld sut y gallai pobl ifanc a rhieni/gofalwyr ddefnyddio’r rhaglen ar-lein/ap, o’i gymharu â defnyddio pecyn gwybodaeth digidol ar gyfer hwyliau a lles, ynghyd ag unrhyw gymorth arall maen nhw’n ei gael (e.e. cwnsela mewn ysgolion).
Mae’n bwysig cael adborth er mwyn i ni wybod sut i wella a phrofi’r rhaglen hon ymhellach.
Os gwelir ei bod yn effeithiol, gallai’r rhaglen fod ar gael am ddim yn y dyfodol.
Pwy all gymryd rhan?
- Pobl ifanc:
-
- sydd rhwng 13 a 19 oed
- sydd wedi cael problemau gyda’u hwyliau a’u lles (e.e. teimlo’n isel eu hwyliau)
- sydd â chyswllt rheolaidd a’r rhyngrwyd.
Does dim ots a ydyn nhw’n cael cymorth arall (e.e. cwnsela yn yr ysgol neu gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed cynradd).
Gallant gymryd rhan os ydynt o dan CAMHS uwchradd. Fodd bynnag rydym ni’n edrych am bobl ifanc nad ydyn nhw’n derbyn therapy ar gyfer hwyliau isel/iselder dan ofal gwasanaethau uwchradd CAMHS ar y pryd, ac nad oes ganddyn nhw broblemau iechyd meddwl difrifol (ar wahân i iselder a gorbryder) lle gall cymorth arall fod yn fwy addas.
Mae’r astudiaeth yn agored i bobl ifanc sy’n byw yng Nghymru neu’r Alban.
2 Eu rhieni a’u gofalwyr
Beth mae’n ei olygu?
Dyma beth fydd yn digwydd os ydych chi’n hapus i gymryd rhan:
Dechrau’r prosiect:
- Cwblhau ffurflen ar-lein, siarad gyda ni am y prosiect a chydsynio i gymryd rhan
- Cwblhau holiadur ar-lein am eich hwyliau a’ch lles, sy’n cymryd tua 25-30 munud
- Derbyn dolen at raglen ar-lein/ap neu becyn gwybodaeth digidol
Dau fis ar ôl dechrau:
- Cwblhau’r un holiadur ar-lein
- Os defnyddioch chi’r rhaglen, ateb cwestiynau ychwanegol am eich adborth, sy’n cymryd tua 10-15 munud
Bydd gan ddwy ran o dair o bobl ifanc fynediad at y rhaglen ar-lein a bydd traean yn derbyn y pecyn gwybodaeth. Bydd cyfrifiadur yn penderfynu ym mha grŵp fyddwch chi.
Gallwch ddefnyddio’r rhaglen neu’r pecyn mor aml ag ydych chi’n ei ddymuno – ar eich pen eich hun neu gyda rhywun arall fel cwnselydd, rhiant/gofalwr neu ffrind.
Ar ôl tua dau fis, os ydych chi’n defnyddio’r rhaglen, efallai y byddwn yn gofyn a hoffech chi gyfarfod â ni am o ddeutu 30-60 munud i drafod eich adborth, drwy fideo-gynadledda (e.e. Zoom, Skype neu MS Teams), dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.
Os defnyddioch chi’r rhaglen, byddwn ni’n monitro ar-lein sut rydych chi’n ei defnyddio, fel pa mor aml rydych chi’n mewngofnodi, ond nid beth ydych chi’n ei gofnodi, fel sut rydych chi’n teimlo – am 6 mis o ddechrau’r prosiect.
Byddwn yn anfon talebau rhodd (gift vouchers) atoch i ddiolch am gymryd rhan ac am eich amser.
Sylwer
Mae recriwtio ar gyfer yr Astudiaeth Cefnogaeth Ddigidol bellach wedi cau. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi helpu gyda’r prosiect hwn. Gall y rhai sy’n dal i gymryd rhan barhau i gael gafael ar yr adnoddau sydd ar gael dros y misoedd nesaf.