Posted November 07th 2022
Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) yn arwain prosiect ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd wedi ffurfio partneriaethau â phum prifysgol arall: Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Caerwysg, Coleg y Brenin Llundain, Prifysgol Newcastle a Phrifysgol Southampton.
Y nod yw deall a hyrwyddo iechyd meddwl a lles myfyrwyr yn y brifysgol. Nod tîm y prosiect yw cynnwys dros 5,000 o fyfyrwyr yn yr archwiliad manwl hwn o les myfyrwyr.
Mae Sidsel Koop a Sam Ball, myfyrwyr Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, yn gweithio ar y prosiect yn rhan o’u lleoliad gwaith yn y NCMH.
“I fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, dyma eich cyfle i ddweud eich dweud”, meddai Sidsel. “Bydd y wybodaeth sy’n cael ei chasglu’n ein helpu i ddeall pa drafferthion a phroblemau y mae myfyrwyr yn eu cael,” ychwanegodd Sam.
Y gobaith yw y bydd canfyddiadau’r arolwg yn helpu i lywio a gwella gwasanaethau ac adnoddau, er mwyn iddynt weithio i bob myfyriwr.
Gwahoddir pob myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd i gymryd rhan yn yr arolwg.
Dylai unrhyw fyfyrwyr y mae angen cymorth arnynt fynd i studentconnect.cardiff.ac.uk yn y lle cyntaf.