Skip to main content

Hoffech chi gynnwys y cyhoedd yn eich ymchwil iechyd meddwl?

Ydych chi'n llunio cais am gyllid ar gyfer prosiect ymchwil iechyd meddwl? Peidiwch â cholli'r cyfle i gynnwys pobl sydd â phrofiad byw yn eich prosiect.

Mae’r grŵp sy’n ymwneud â’r cyhoedd Partneriaeth mewn Ymchwil (PÂR) yn cynnal clinig ar-lein am ddim i ymchwilwyr sy’n chwilio am safbwyntiau profiad byw i’w ceisiadau i ymgymryd â phrosiectau ymchwil iechyd meddwl yng Nghymru.

Mae PÂR yn rhoi llais i bobl sydd â phrofiad byw wrth lunio ymchwil iechyd meddwl mewn partneriaeth ag ymchwilwyr.

Mae gan aelodau naill ai brofiad o gyflwr iechyd meddwl eu hunain neu maen nhw’n gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind sydd wedi.

Mae’r clinig yn rhad ac am ddim ac yn cael ei gynnal ddydd Mercher 14 Medi 2022, 1pm – 3pm.

woman smiling while using laptop at a table

Gwahoddir ymchwilwyr i gyflwyno syniadau ymchwil neu gynigion ymchwil drafft i’r grŵp er mwyn derbyn persbectif profiad byw ar eu cynlluniau ymchwil.

Sut mae’r clinigau’n gweithio:

  • Bydd angen i ymchwilwyr gwblhau Ffurflen Gais Ymchwilydd i fynychu’r clinig a chael trafod eu prosiect gan y grŵp.
  • Byddwch yn benodol am unrhyw faterion penodol rydych chi eisiau cyngor yn eu cylch.
  • Fe’i cadeirir naill ai gan un o arweinwyr y PÂR neu’r arweinydd academaidd, ond ni fydd yn cael ei funudu. Mater i’r ymchwilwyr neu’r tîm ymchwil fydd cymryd oddi ar y cyfarfodydd y pethau maen nhw’n eu gweld yn ddefnyddiol.
  • Bydd y sesiwn yn anffurfiol a chefnogol.

Mae’r sesiwn yn rhad ac am ddim ond mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig – cysylltwch â PAR@cardiff.ac.uk i gofrestru ar gyfer y sesiwn.

Catrin Hopkins

Catrin yw'r Swyddog Cyfathrebu ar gyfer yr NCMH a Canolfan CYF Prifysgol Caerdydd.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd