Posted February 21st 2022
Wedi’i alw’n “gwrs sy’n ysbrydoli” ac yn “agoriad llygad” gan bobl sydd wedi cymryd rhan yn y gorffennol, mae’r ysgol yn gwrs blynyddol sy’n cael ei drefnu gan Ganolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig (MRC CNGG), ac fe’i hariennir gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH).
Bydd y digwyddiad 4 diwrnod hwn, yn cael ei gynnal o ddydd Llun 4 Gorffennaf 2022 hyd ddydd Iau 7 Gorffennaf 2022. Fe’i cynhelir mewn fformat hybrid; ar y campws yn Adeilad Hadyn Ellis, ac ar-lein.
Esboniodd yr Athro George Kirov, sy’n cydlynu’r cwrs, “Rydym wedi teimlo erioed, ein bod ni’n profi cryn anrhydedd, o gael cwmni pobl sydd wedi teithio o bob cwr o’r byd, yn ein hysgol haf. Eleni gallwn fod gyda’n gilydd eto ar y campws, ac, am y tro cyntaf, gall pobl ymuno â ni ar-lein hefyd.
“Yn ystod y cwrs, ceir areithiau gan rai o’r ymchwilwyr mwyaf blaenllaw ym meysydd seiciatreg a niwrowyddorau, gan gynnwys yr Athro Syr Mike Owen, yr Athro James Walters a’r Athro Jeremy Hall.
“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu hyd yn oed rhagor o bobl i’r ysgol eleni oherwydd ei ffurf ar-lein ac all-lein.
Mae wir yn gyfle gwych na ddylech chi ei golli.”
Ydw i’n gymwys i wneud cais?
Mae’r cwrs yn agored i:
- hyfforddeion clinigol (Hyfforddiant Sylfaen/Craidd/Arbenigol)
- gwyddonwyr anghlinigol (MSc, PhD, Post Doc)
Mae’n gyfle gwych i’r rhai sydd â diddordeb mewn symud i faes genomeg a geneteg niwroseiciatrig neu’r rhai sydd am gael cyflwyniad i ymchwil i anhwylderau’r ymennydd.
Noder: ni dderbynnir ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi bod ar y cwrs. Er bod cynnwys y cwrs yn cael ei ddiweddaru yn gyson, cyflwyniad ydyw, o hyd, i ymchwil i anhwylder yr ymennydd.
Ymunwch â ni i ddysgu ynghylch, ac i drafod, ymchwil i anhwylderau’r ymennydd
Yn ogystal ag areithiau, ceir hefyd yn ystod y cwrs, gyflwyniadau ac arddangosiadau ynghylch amrywiaeth o bynciau seiciatreg, niwroleg a niwrowyddorau. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Niwroddelweddu
- Epidemioleg seiciatrig
- Geneteg ac epigeneteg
- Arddangosiadau dilyniannu trosiant uchel
- Trin bôn-gelloedd
- Asesu ffenotypig
- Moeseg mewn ymchwil enetig
Mae gweithdai yn cael eu cynnal hefyd, sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor ar yrfaoedd gwyddonol a chymrodoriaethau academaidd.
Faint mae’n ei gostio?
Mae’r ysgol haf yn rhad ac am ddim, p’un ai ydych yn bwriadu dod i’r campws, neu ymuno ar-lein yn unig.
Gweld y rhaglen a gwneud cais heddiw
Rydym nawr yn derbyn ceisiadau ar gyfer Ysgol Haf y Cyngor Ymchwil Feddygol: Ymchwil i Anhwylderau’r Ymennydd. Gallwch wneud cais tan 4 Mehefin 2022.
I wneud cais, e-bostiwch eich CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu eich profiad a’ch diddordeb at: cnggsummerschool@caerdydd.ac.uk.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig