Skip to main content

Seicosis ôl-enedigol ac anhwylder deubegynol: ymchwil yn dangos y gwahaniaeth am y tro cyntaf

Mae papur ymchwil newydd ar seicosis ôl-enedigol a'i gysylltiad ag anhwylder deubegynol, dan arweiniad ymchwilwyr yn yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol, wedi cadarnhau gwahaniaethau rhwng y ddau am y tro cyntaf. Mae'r Cynorthwy-ydd Ymchwil Jessica Yang yn dweud wrthym am yr effaith y bydd eu hymchwil, sydd wedi’i chyhoeddi yng nghyfnodolyn The Lancet Psychiatry, yn ei chael.

Ers dros 150 mlynedd mae seicosis ôl-enedigol wedi bod yn ddadleuol, ac mae hyn wedi rhwystro pobl sydd am wneud ymchwil yn y maes.

Mae’r diffyg cydnabyddiaeth swyddogol mewn llawlyfrau diagnostig wedi rhwystro ymchwil ac wedi achosi cryn ddryswch i glinigwyr a menywod, gyda chanlyniadau negyddol posibl.

Ein nod oedd archwilio a yw anhwylder deubegynol a seicosis ôl-enedigol yr un mor debyg o ran symptomau, prognosis a ffactorau risg ag yr ydym yn credu.

Cyflyrau tebyg, ond gwahanol

Mae rhai gwahaniaethau, gan gynnwys tystiolaeth bod menywod sy’n cael seicosis ôl-enedigol am y tro cyntaf yn llai tebygol o gael y cyflwr eto os ydynt yn cael triniaeth briodol.

Felly, roeddem am gymharu geneteg yr anhwylderau hyn er mwyn deall yn well y gwahaniaethau a’r elfennau tebyg.

Cymharwyd menywod â seicosis ôl-enedigol am y tro cyntaf, lle seicosis ôl-enedigol oedd eu profiad cyntaf o episod seiciatrig, a menywod ag anhwylder deubegynol yr oedd eu cyflwr wedi dychwelyd yn ystod y cyfnod ôl-enedigol, ynghyd â grŵp arall o fenywod fel grŵp rheoli.

Roedd yr astudiaeth yn y DU yn cynnwys 203 o fenywod â seicosis ôl-enedigol am y tro cyntaf, ynghyd â 1,225 o fenywod ag anhwylder deubegynol a oedd wedi rhoi genedigaeth, a grŵp rheoli o 2,809 o fenywod o’r boblogaeth gyffredinol nad oeddent yn profi’r cyflwr.

Edrychwyd yn benodol ar eu risg genetig ar gyfer sgitsoffrenia, iselder difrifol, ac anhwylder deubegynol.

Wrth edrych ar eu risg ar gyfer sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol, roedd gan fenywod ag anhwylder deubegynol a menywod â seicosis ôl-enedigol am y tro cyntaf lefelau tebyg, ac roedd hyn yn uwch na’r grŵp rheoli.

Ond pan oeddem yn edrych ar y risg ar gyfer iselder difrifol, roedd gan fenywod â seicosis ôl-enedigol am y tro cyntaf lefelau tebyg i’r grŵp rheoli, ond roeddent yn is na’r menywod ag anhwylder deubegynol.

Dangos gwahaniaethau am y tro cyntaf

Mae ein hymchwil yn awgrymu y gallai seicosis ôl-enedigol fod yn rhannol wahanol o safbwynt genetig i anhwylder deubegynol sy’n dychwelyd ar ôl genedigaeth, lle roedd y profiadau hyn gynt yn cael eu cymharu.

Yn y gorffennol, mae ymchwilwyr wedi dangos bod gwahaniaethau clinigol rhwng y ddau, ond dyma’r tro cyntaf i’r gwahaniaethau hyn gael eu cadarnhau.

Mae’n awgrymu bod mecanweithiau biolegol ar waith sy’n wahanol ond yn gorgyffwrdd, a bydd yn helpu o ran cydnabod seicosis ôl-enedigol fel anhwylder mewn llawlyfrau diagnostig.

A doctor checks on her patient

Ymchwil yn arwain at driniaeth well i fenywod

Gobeithiwn y bydd hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o seicosis ôl-enedigol ac yn helpu o ran ei gydnabod fel clefyd ynddo’i hun o fewn y sbectrwm anhwylder deubegynol.

Mewn ymchwil yn y dyfodol, rydym yn gobeithio ehangu’r gwaith a wnaed yn yr astudiaeth hon drwy gasglu sampl fwy o fenywod â seicosis ôl-enedigol, gan gasglu samplau yn fyd-eang, gan fod y sampl hon yn cynnwys pobl o dras Ewropeaidd yn unig.

Rydym hefyd yn gobeithio datblygu dulliau asesu ar gyfer seicosis ôl-enedigol y gellir eu defnyddio mewn gwahanol wledydd a diwylliannau, gyda chymorth gweithwyr gofal iechyd a menywod sydd â phrofiad go iawn o’r cyflwr.

Darllenwch y papur llawn: Postpartum psychosis and its association with bipolar disorder in the UK: a case-control study using polygenic risk scores

Adnoddau

Rhagor o wybodaeth

Jessica Yang

Mae Jessica yn Gynorthwy-ydd Ymchwil ar gyfer yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd