Skip to main content

Tîm addysg iechyd meddwl NCMH wedi’i enwebu ar gyfer gwobr cynaliadwyedd

Mae ymchwilwyr a staff yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) ymhlith yr enwebeion i ennill Tîm Seiciatrig y Flwyddyn yng Ngwobrau RCPsych 2021.

Yn y categori Ymrwymiad Eithriadol i Gynaliadwyedd/Gofal Gwyrdd, mae gwaith tîm addysg iechyd meddwl NCMH wrth addasu i bandemig COVID-19 wedi cael ei gydnabod gan y gwobrau blynyddol nodedig.

Wrth ‘Addasu Rhaglen Addysg Ddeubegynol Cymru (BEPC) i ymateb i heriau Pandemig COVID-19’, cynhaliodd y tîm sesiynau BEPC ar-lein, gan barhau i gefnogi’r rhai oedd yn cael diagnosis o anhwylder deubegynol yn ystod y cyfnod clo, yn ogystal â lleihau eu hôl troed carbon yn sylweddol.

Roedd y newid hefyd yn golygu bod pobl ledled y DU yn cael mynediad at y sesiynau hyn am y tro cyntaf.

Ymdrech gydweithredol

Bu’r tîm yng Nghaerdydd yn gweithio mewn partneriaeth ag elusen Bipolar UK hefyd i gynnal sesiynau ar-lein i roi blas i bobl o’r cwrs llawn ac i godi ymwybyddiaeth o adnoddau i bobl ag anhwylder deubegynol yn ystod y pandemig.

Mae’r wobr yn cydnabod gwaith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n dangos dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng iechyd a’r amgylchedd, gyda’r nod o wella cynaliadwyedd gofal iechyd meddwl.

Dyma a ddywedodd cyfarwyddwr y NCMH, yr Athro Ian Jones, “Drwy fod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr hon, rydyn ni wrth ein boddau bod holl waith tîm BEPC wedi cael ei gydnabod.

Mae pobl ag anhwylder deubegynol wedi gorfod ymdopi â heriau enfawr yn ystod y pandemig. Rydyn ni wedi gweithio gyda’r rheiny sydd â phrofiad go iawn yn ogystal â Bipolar UK i addasu ein rhaglen seicoaddysgu er mwyn ei chyflwyno’n rhithwir ac mae hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn. P’un a fyddwn ni’n ennill neu beidio, mae cael ein rhoi ar y rhestr fer yn beth gwych.

A hand holding a small plant

Mae pandemig y coronafeirws wedi gwneud pethau’n anoddach i’r rhai sy’n byw gydag anhwylder deubegynol, gan gynnwys methu â chael gafael ar gymorth.

Mae’r pandemig a’i effaith ar addysg

Yn ôl yr adborth, roedd 81.3% o’r rhai a gymerodd ran yn gweld ei bod hi’n anoddach rheoli eu cyflwr yn ystod pandemig COVID-19.

Mae’r prosiect wedi’i anelu at bobl sydd wedi cael diagnosis o anhwylder deubegynol. Drwy ddysgu am yr anhwylder a thrafod pwysigrwydd ffordd o fyw a thechnegau hunanreoli, nod y cwrs a gweminarau BEPC yw helpu pobl i reoli eu anhwylder yn well a lleihau’r tebygolrwydd y byddant yn mynd yn sâl. Mae’r cwrs hefyd yn cynnig gwybodaeth i anwyliaid allu helpu a chefnogi’r rhai sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan anhwylder deubegynol.

Cynhelir seremoni wobrwyo rithwir y flwyddyn hon ar 11 Tachwedd.

Mae pob un ohonom yn NCMH yn dymuno pob lwc i’r tîm!

Darllen rhagor

Mike Owen

Mike yw Swyddog Cyfathrebu NCMH a'r Is-adran Meddygaeth Seicolegol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd