Skip to main content

Sut yr arweiniodd chwalfa fel oedolyn at ddiagnosis o ADHD

Cafodd Mark ddiagnosis o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) yn dilyn moment allweddol yn ei fywyd fel oedolyn. Dywed wrthym am ei ddiagnosis a pham ei fod yn bwysig.

Y trobwynt i fi oedd pan gefais i chwalfa, yn anffodus. Ar y pwynt hwnnw roeddwn i eisoes gyda’r timau iechyd meddwl cymunedol gan fod gen i ddiagnosis o orbryder ac iselder.

Ond hyd yn oed ar ôl y diagnosis hwnnw roeddwn i’n gwybod nad oedd popeth yn 100% gyda fi.

Roeddwn i’n ei gysylltu â’r cyfnod pan ddioddefodd fy ngwraig drawma geni difrifol ac iselder ôl-enedigol. Fel tad, cafodd hynny effaith ar fy iechyd meddwl innau.

A doctor talking to her patient

Cael cymorth proffesiynol

Arweiniodd hynny at siarad gyda seiciatrydd, a dywedais bopeth wrthi am fy mywyd.

Yna cefais brawf am ADHD a dywedodd hi “Oes Mark, mae ADHD arnat ti.”

Ac o’n i fel, “ADHD? O… Ond pobl ifanc…”

Cefais gyfnod o wadu a meddwl pethau fel “Pam na chafodd hyn ei weld yn yr ysgol? Fyddai fy mywyd wedi bod ychydig yn wahanol?”

Mae fel pe baech chi’n mynd drwy drawsnewidiad ac rydych chi’n teimlo’n ddig, gan feddwl pob math o bethau.

Ond yn y pen draw rydych chi’n dod drwyddi a meddwl “Wel oni bai am ADHD fyddwn i ddim yn gwneud beth rwy’n ei wneud nawr. Fyddwn i ddim wedi gwneud yr holl bethau rwy wedi’u gwneud.”

Rydych chi’n ailfeddwl ac yn ail-fframio yn eich meddwl, “Wel mae ‘na bethau cadarnhaol am ADHD nawr fy mod i’n gwybod amdano.”

Roedd diagnosis yn foment o ddealltwriaeth

Roedd yn rhyddhad mawr i mi fy mod yn gallu ei ddeall, felly dechreuais fy addysgu fy hun amdano, a rhoddodd lawer o hyder i mi ddweud, “Wel wrth gwrs, dyna pam roeddwn i’n ymddwyn yn y ffyrdd yna.”

Roedd gwybod bod gen i ADHD ac yna fynd ati i weithio gyda phobl oedd yn fy helpu, fel Zoe Piper, yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

A packed crowd of people

Ymchwil ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Mae ymchwil iechyd meddwl mor bwysig nid yn unig i’r genhedlaeth hon, ond i genedlaethau’r dyfodol, er mwyn i ni allu trin anhwylderau.

Mae ymchwil yn werthfawr ar lefel polisi hefyd, er mwyn i ni gael y dystiolaeth pam fod angen i ni roi mesurau ar waith yn gynnar.

Mae’n bwysig ein bod yn parhau â’r ymchwil hon ar gyfer y dyfodol.

Cael cymorth

Felly fy nghyngor i chi neu i rywun rydych chi’n ei adnabod sy’n amau bod ganddyn nhw ADHD yw cysylltu â’r Sefydliad ADHD a all eich cyfeirio at y lle iawn, ac i siarad â’ch meddyg.

ADHD Q&A: What advice would you give to someone who suspects that they may have ADHD? – YouTube

📺 Gwyliwch y sesiwn holi ac ateb ADHD lawn gyda Mark ar ein sianel YouTube

Adnoddau

Darllen rhagor

Mark

Mae Mark yn brif siaradwr, yn awdur cyhoeddedig ac yn ymgyrchydd rhyngwladol dros bob rhiant newydd a'i iechyd meddwl.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd