Skip to main content

Mae’n bryd siarad am leihau’r stigma sy’n gysylltiedig ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD)

Mae anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) yn gyflwr sy’n effeithio ar oddeutu un o bob 20 plentyn yn y DU, ac mae’n datblygu ar ddechrau plentyndod yn aml.

Mae’r cyflwr hwn fel arfer yn cynnwys anawsterau diffyg canolbwyntio, gorfywiogrwydd a byrbwylltra, megis anawsterau gydag eistedd yn llonydd, methu cadw’ch sylw ar rywbeth ac ymyrryd ag eraill yn aml.

Mae cyflyrau niwroddatblygiadol yn effeithio ar oddeutu un o bob deg plentyn, ac ADHD yw’r mwyaf cyffredin o’r rhain, ond eto dyma un o’r rhai mwyaf nad yw’r cyhoedd yn ei ddeall.

Yn aml gall hyn arwain at gam-labelu plant sy’n dioddef fel plant ‘drwg’ neu ‘drafferthus’, ac mewn llawer o achosion, maen nhw’n colli cyfle i gael cefnogaeth a thriniaeth briodol.

Mae anawsterau ADHD hefyd yn aml yn parhau wrth fod yn oedolyn, a all achosi trafferth gyda pherthnasoedd a chyflogaeth.

Mae yna lawer o gamdybiaethau am ADHD, sydd â’r potensial i greu goblygiadau negyddol i iechyd meddwl llawer o blant a phobl ifanc.

Bellach mae’n bwysicach nag erioed codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr hwn, cael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig ag ADHD a rhoi’r gofal a’r gefnogaeth amserol sydd eu hangen ar blant a phobl ifanc.

Rhai camdybiaethau anghywir cyffredin am ADHD

Mae llawer o’r symptomau sy’n gysylltiedig ag ADHD yn ei gwneud hi’n anodd iawn i blant roi sylw i dasg a’i chwblhau.

Yn ogystal â hyn, gall bod yn aflonydd, yn ddiamynedd neu’n fyrbwyll arwain at ymddygiadau sy’n tynnu sylw ac sy’n tarfu ar ddosbarthiadau.

Gall hyn arwain at gael adborth negyddol cyson gan athrawon, rhieni a chyfoedion, a all arwain at hunan-barch isel a chredoau pesimistaidd am eu gallu i gyflawni.

Felly, mae’n hanfodol ein bod ni, fel cymdeithas, yn deall yn well beth yw ystyr dioddef o ADHD, a chwalu rhai o’r camdybiaethau sydd gan bobl am y cyflwr hwn.

Felly, beth yw’r camdybiaethau hyn?

  • Camdybiaeth 1: Ni all plant ag ADHD fyth ganolbwyntio

    Er bod plant ag ADHD yn aml yn ei chael hi’n anodd canolbwyntio, maent weithiau’n gallu ‘gor-ganolbwyntio’, sy’n fath dwys o ganolbwyntio.

    Efallai y bydd hyn hyd yn oed yn ei gwneud hi’n anoddach iddyn nhw dynnu eu hunain oddi wrth dasg sy’n eu cyfareddu!

  • Camdybiaeth 2: Mae pob plentyn ag ADHD yn orfywiog

    Symptomau gorfywiogrwydd yw rhai o’r symptomau mwyaf amlwg mewn plant ag ADHD, ond ni fydd gan bob plentyn y symptomau hyn.

    Mewn gwirionedd, nodweddir is-deip o ADHD o’r enw ADD (anhwylder diffyg canolbwyntio) gan anawsterau o ran rheoleiddio sylw ac ychydig o anawsterau o ran gorfywiogrwydd a byrbwylltra.

  • Camdybiaeth 3: Mae ADHD yn cael ei achosi gan ddull magu plant gwael

    Yn eithaf aml, mae rhieni’n cael y bai gan eraill am ymddygiad eu plentyn oherwydd rhagdybiaethau, megis diffyg disgyblaeth i’r plentyn am ei weithredoedd.

    Nid yw hyn yn wir gan fod ADHD yn gyflwr meddygol sy’n seiliedig ar yr ymennydd, lle mae plant yn ei chael hi’n anodd rheoli ymddygiad byrbwyll neu reoleiddio eu sylw; mewn gwirionedd, gallai cosbi plentyn â’r symptomau hyn yn gyson arwain at fwy o broblemau yn y dyfodol.

    Ceir llawer o dystiolaeth hefyd fod ADHD yn rhedeg mewn teuluoedd a bod gan ffactorau genetig ran bwysig iawn wrth achosi ADHD.
    a young child sits on adult's shoulder against white backdrop

  • Camdybiaeth 4: Nid yw pobl ag ADHD ‘yn ymdrechu’n ddigon caled’

    Gall llawer o bobl sy’n gweld plant yn ymddwyn mewn ffyrdd sy’n gysylltiedig ag ADHD dybio nad yw’r plant hyn ‘yn ymdrechu’n ddigon caled’ i ymddwyn a chanolbwyntio.

    Mae hyn yn aml yn heriol iawn i’r unigolion hyn oherwydd gallant gyfleu eu symptomau drwy ymddygiadau sy’n gysylltiedig â diffyg diddordeb, diffyg cymhelliant ac anhrefn.

    Y gwir yw bod y rhan fwyaf o’r plant hyn wir eisiau gweithio a chwblhau tasgau cystal ag eraill, ond gall hyd yn oed tasgau syml fod yn her llawer anoddach iddynt.

  • Camdybiaeth 5: Nid yw merched yn dioddef o ADHD

    Mae’n fwy cyffredin i fechgyn gael diagnosis o ADHD o’u cymharu â merched, ond mae rhai pobl o’r farn mai bechgyn yn unig sy’n dangos y cyflwr hwn, ac nid yw hyn yn wir.

    Credir ei bod hi’n anoddach adnabod ADHD ymhlith merched, yn rhannol oherwydd y gall eu hymddygiad fel plant fod yn llai gorfywiog ac yn llai tebygol o fod yn gysylltiedig ag ymddygiad aflonyddgar, sy’n golygu na fydd neb efallai’n sylwi ar eu symptomau ADHD eraill.

    At hynny, gall y symptomau a ddefnyddir i roi diagnosis o ADHD fod yn haws eu hadnabod mewn bechgyn na merched.

    Am y rhesymau hyn, mae tueddiad i gydnabod ADHD merched yn hwyrach nag ADHD bechgyn neu, mewn rhai achosion, heb ei gydnabod o gwbl.

  • Camdybiaeth 6: Yn y pen draw, mae pob plentyn yn tyfu allan o ADHD

    Er ei bod yn wir y gall symptomau ADHD newid dros amser neu hyd yn oed leihau yn ystod llencyndod neu oedolaeth, nid yw llawer o bobl yn tyfu allan ohono.

    Yn y rhan fwyaf o achosion, mae plant ag ADHD yn tyfu’n oedolion ag ADHD a gall eu hanawsterau fod gyda nhw am weddill eu hoes.

    Yn ogystal, efallai na fydd llawer o blant ag ADHD yn cael diagnosis tan yn nes ymlaen mewn bywyd – mae hyn yn amlach pan mai’r prif symptom sydd gan y plentyn neu’r person ifanc yw ei fod yn bell ei feddwl.

    Er gwaethaf hyn, mae yna lawer o ffyrdd y gall plant a phobl ifanc weithio o amgylch eu hanawsterau a chanolbwyntio ar eu cryfderau.

  • Camdybiaeth 7: Mae ADHD yn gyflwr y rhoddir diagnosis ‘yn rhy aml’ ohono

    Mae rhai pobl o’r farn bod ADHD yn gyflwr y rhoddir diagnosis yn rhy aml ohono a’i fod yn cael ei or-drin gan fod nifer y bobl sy’n cael diagnosis ohono wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

    Fodd bynnag, mae tystiolaeth newydd i awgrymu bod mwy o ymwybyddiaeth o’r cyflwr bellach, ac felly mae’n cael ei gydnabod yn well ymhlith plant.

    Mae hyn yn golygu bod mwy o blant bellach yn cael eu nodi a’u cydnabod ond nid yw nifer gwirioneddol y plant ag ADHD wedi cynyddu.

Effaith bosibl ADHD ar iechyd meddwl

Yn ôl gwaith ymchwil, mae ADHD yn aml yn gysylltiedig ag iechyd a lles gwannach i’r unigolyn a’i deulu.

a group of children and adults take part in a movement class

Gellir cysylltu’r lleihad hwn o ran lles â ffactorau megis:

  • Hunan-barch isel
  • Gorbryder neu iselder
  • Camddefnyddio sylweddau
  • Anhawster wrth ffurfio perthnasoedd
  • Problemau cysgu
  • Dioddef bwlio

Gall y ffactorau hyn effeithio ar ddatblygiad unrhyw berson ifanc, ond i rywun ag ADHD sydd eisoes yn profi ei anawsterau personol ei hun fel cwblhau tasgau bob dydd, gall hyn fod yn niweidiol iawn i’w iechyd meddwl a gall effeithiau barhau wrth fod yn oedolyn.

Yn ffodus, mae yna bethau y gall rhieni, athrawon ac aelodau’r cyhoedd eu gwneud i helpu i sicrhau bod unrhyw berson ifanc ag ADHD yn cael ei gefnogi drwy ei heriau ac i helpu i roi hwb i’w hunan-barch a’i hyder.

Sut gallwn ni helpu?

  • Atgyfnerthu

    Gellir canmol plant ag ADHD yn llai aml os yw eu hymddygiad yn heriol, ond mae’n hanfodol eu bod yn cael gwobrau, boed hynny ar lafar neu fel arall.

    Gall hyn godi eu hunan-barch a’u helpu i ddatblygu delwedd fwy cadarnhaol ohonynt eu hunain a’u potensial.

  • Cynnal agwedd gadarnhaol

    Maintaining optimism is key for a child’s belief that they can succeed and overcome the challenges that they face.

    If a child sees that you believe in them, they are more likely to think that they are capable of achieving.

    Highlighting the child’s strengths and reminding them of their talents is a great method of encouragement.

  • Codi ymwybyddiaeth o ADHD

    Mae’n bwysig iawn bod mwy o bobl yn ymwybodol o beth yw ADHD.

    Felly, y gorau yr ydym yn deall ADHD, y mwyaf o bobl ifanc a’u teuluoedd y gellir eu cefnogi a pho fwyaf y gellir lleihau’n sylweddol y stigma sy’n gysylltiedig â’r cyflwr hwn.

Niwroamrywiaeth ac ADHD

Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd ymgyrch niwroamrywiaeth gynyddol sy’n ceisio newid sut rydym ni’n meddwl am ADHD a chyflyrau eraill fel anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth.

Yn hytrach na meddwl am y cyflyrau hyn mewn termau meddygol, mae niwroamrywiaeth yn ymwneud ag amrywiad mewn ymddygiadau dynol a’r ymennydd dynol.

Felly, mae angen ystyried priodoleddau cadarnhaol ADHD hefyd oherwydd gallant arwain at lwyddiant mawr a boddhad mewn bywyd o dan yr amgylchiadau cywir.

Mae gan lawer o unigolion ag ADHD y gallu i fod yn greadigol iawn ac mae astudiaethau wedi dangos eu bod yn tueddu i fod yn feddylwyr ‘y tu allan i’r bocs’.

a box of bright coloured crayons sits in front of children colouring

Wrth weithio yn unol â’u galluoedd a’u diddordebau, a gyda chefnogaeth eu cyflogwr, gallant dynnu ar eu sgiliau fel gor-ganolbwyntio er mwyn creu syniadau a gwaith sydd wedi bod o fudd mawr i sefydliadau gwaith, gan eu gwneud yn ased gwych i dîm.

Mae gan blant ag ADHD mewn amgylcheddau ysgol hefyd y gallu i gyflawni’n uchel iawn wrth weithio yn unol â hynny gyda galluoedd a diddordebau a gyda’r gefnogaeth gywir gan athrawon a chyfoedion.

Gwaith pawb yw sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei adael ar ôl.

Mae angen derbyn, cynnwys a chredu mewn pob plentyn a pherson ifanc waeth beth fo’u hanghenion niwroamrywiol a datblygiadol.

Margaret J. Wheatley – “Nid oes pŵer i newid yn fwy na chymuned yn darganfod yr hyn y mae’n poeni amdano.”

Cymryd rhan mewn ymchwil

Rydym yn gweithio i ddeall yn well pam mae rhai pobl ifanc yn profi anawsterau niwroddatblygiadol fel ADHD neu awtistiaeth, a phroblemau iechyd meddwl fel iselder neu orbryder.

Er mwyn ein helpu gyda’r gwaith pwysig hwn, mae angen gwirfoddolwyr arnom i rannu eu profiadau trwy gymryd rhan yn ein hymchwil.

Os ydych yn rhiant neu ofalwr plentyn ag ADHD a byddai gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am ein hastudiaeth sydd ar ddod, gallwch gofrestru eich diddordeb yma a byddwn yn cysylltu â chi.

Rhagor o wybodaeth

Jasmine Trotman

Mae Jasmine yn fyfyriwr seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd ac ar hyn o bryd mae'n fyfyriwr lleoliad gyda NCMH.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd