Posted September 02nd 2021
Mae PÂR yn cynnal clinig ymchwil ar-lein ar gyfer ymchwilwyr sy’n ceisio safbwyntiau profiad byw ar gyfer eu cymwysiadau i’r cynllun Ymchwil er Budd i Gleifion a’r Cyhoedd (RfPPB) gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae Partneriaeth mewn Ymchwil (PÂR) yn grŵp cynnwys y cyhoedd, sy’n rhoi llais i bobl â phrofiad byw wrth lywio ymchwil iechyd meddwl mewn partneriaeth ag ymchwilwyr. Mae gan aelodau naill ai brofiad o gyflwr iechyd meddwl eu hunain neu maen nhw’n gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind sydd ag un.
Mae’r clinig yn rhad ac am ddim i ymchwilwyr sy’n ymgeisio am y cynllun RfPPB a chaiff ei gynnal ar: 5 Hydref 2021, 2pm – 4pm
Gwahoddir ymchwilwyr i gyflwyno syniadau ymchwil neu ddrafftio cynigion ymchwil i’r grŵp er mwyn derbyn persbectif profiad byw ar eu cynlluniau ymchwil.
Sut mae’r clinigau’n gweithio:
- Bydd angen i ymchwilwyr lenwi Ffurflen Gais Ymchwilydd erbyn 28 Medi 2021 i fynychu’r clinig a thrafod eu prosiect gan y grŵp.
- Byddwch yn benodol am unrhyw faterion rydych chi eisiau cyngor yn eu cylch.
- Bydd yn cael ei gadeirio naill ai gan un o’r arweinwyr PÂR lleyg neu’r arweinydd academaidd, ond ni fydd yn cael ei gofnodi. Mater i’r ymchwilwyr neu’r tîm ymchwil fydd cymryd y pethau sy’n ddefnyddiol yn eu barn hwy o’r cyfarfodydd.
- Bydd y sesiwn yn anffurfiol ac yn gefnogol.
Ebostiwch PAR@caerdydd.ac.uk i gofrestru ar gyfer y sesiwn.
Rhagor o wybodaeth
- PÂR – Partneriaeth mewn Ymchwil
- Blog NCMH| Anrhydedd am Gynnwys y Cyhoedd i NCMH-PÂR