Posted August 08th 2019
Mae sgitsoffrenia’n ddiagnosis dadleuol ac yn aml yn ysgogi teimladau cryfion ar draws amryw alwedigaethau a rhanddeiliaid ym maes iechyd meddwl. Mae rhai’n dadlau nad yw bellach yn ddefnyddiol fel diagnosis unigol, ac yn lle hynny, dylid ystyried bod y cyflwr ym mhen eithafol ‘sbectrwm anhwylder seicosis’.
Er mwyn datod y materion hyn, mae’n bleser gennym groesawu Nathan Filer, fydd yn sgwrsio â’r Athro James Walters, sy’n ddirprwy gyfarwyddwr yn NCMH ac yn athro seiciatreg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ymunwch â ni yn Bigmoose Coffee Co. yng nghanol dinas Caerdydd. Mae tocynnau’n rhad ac am ddim, ond mae lleoedd yn gyfyngedig – cofrestrwch ar Eventbrite.
Mae tocynnau’n rhad ac am ddim ac yn cynnwys:
- Mynediad i’r digwyddiad
- Copi o lyfr diweddaraf Nathan, The Heartland: Finding and Losing Schizophrenia
- Lluniaeth ysgafn
Ynghylch ein siaradwyr
Nathan Filer
Mae Nathan yn awdur, yn newyddiadurwr ac yn ddarlithydd. Disgrifiwyd ei lyfr ffeithiol o fri, ‘The Heartland: Finding and Losing Schizophrenia’, fel ‘llyfr sydd wedi’i ysgrifennu’n gain ac yn llawn trugaredd a ffraethineb’ (The Times) ac fel ‘naratif deallus a chyfareddol o sgitsoffrenia (The Guardian).
nathanfiler.co.uk
Yr athro James Walters
Mae James yn ddirprwy gyfarwyddwr yn NCMH ac yn seiciatrydd ymgynghorol er anrhydedd yng Ngwasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar eneteg mewn seicosis a sgitsoffrenia.
Dewch i gael gwybod rhagor am ymchwil James