Skip to main content

Nid ydych chi ar eich pen eich hun yn teimlo’n unig

More people are struggling with loneliness than ever before. NCMH placement student Jennifer tells us more and what we can do when loneliness strikes.

Pan fydd pobl yn teimlo’n unig, maen nhw eisiau cysylltu ag eraill ond mae eu cyflwr meddwl yn eu hatal rhag gwneud hyn.

Bod ar eich pen eich hun yw pan fyddwch chi’n gorfforol ar eich pen eich hun, ond gallwch fod mewn ystafell wedi’ch amgylchynu gan bobl a theimlo’n unig o hyd.

Mae rhai pobl yn hoffi bod ar eu pennau eu hunain ond does neb yn hoffi bod yn unig.

Os yw eleni wedi dysgu un peth inni, pwysigrwydd y rhai hynny sy’n agos i ni yw hynny.

Oherwydd pan ydym wedi’n hatal rhag cael cyswllt â phobl, mae teimladau o unigrwydd yn uwch. Fodd bynnag, gall pobl deimlo fel hyn waeth beth yw’r flwyddyn, y tymor, y mis neu’r diwrnod.

Mae unigrwydd yn effeithio ar bawb ar ryw adeg yn eu bywyd ac yn effeithio ar bobl o bob oed – yn enwedig y rhai â phroblemau iechyd meddwl.

Mae pawb yn teimlo’n unig weithiau

Mae’n arferol – gallwch chi fod yn llonydd am eiliad a meddwl amdano’n sydyn, neu gallwch dreulio llawer o amser yn meddwl amdano.

Cymerwch gam yn ôl a gwneud y symudiad cyntaf a chodi’r ffôn, mynd ar-lein, cwrdd yn bersonol a siarad â rhywun.

Rhowch addewid i chi’ch hun y bydd yfory yn wahanol cyn belled â’ch bod chi’n gwneud rhywbeth i’w wneud yn wahanol – felly gwnewch rywbeth.

a young white blonde woman using a laptop while sat on a bed

Digalondid y gaeaf

Mae teimladau o unigrwydd yn aml yn gysylltiedig ag amser gaeaf. Yn y gaeaf, rydym yn cael llai o olau dydd felly rydym ni’n tueddu i dreulio mwy o amser y tu mewn, gartref, ac yn cymdeithasu llai.

Mae cysylltu â natur a’r haul wedi’i gysylltu ag iechyd meddwl gwell.

Dangoswyd bod iechyd meddwl yn gwaethygu yn y gaeaf pan fydd natur o’n cwmpas yn gaeafgysgu ar gyfer y gaeaf ac mae gennym lai o gyswllt â natur a llai o haul.

Hyd yn oed os ydych chi’n caru’r adeg hon o’r flwyddyn neu os nad yw tymor y gaeaf yn effeithio arnoch chi, nid yw’n golygu na allwch chi deimlo fel hyn.

Iechyd meddwl ac unigrwydd

Mae unigrwydd hefyd wedi’i gysylltu â thebygolrwydd uwch o gael problemau iechyd meddwl yn ogystal ag ysgogi’r problemau hyn.

Pan fydd gan unigolyn salwch iechyd meddwl, mae’n fwy tueddol o deimlo’n unig.

Fodd bynnag, nid yw’r ffaith eich bod yn teimlo’n unig yn golygu y bydd gennych broblem iechyd meddwl, ac os oes gennych broblemau iechyd meddwl nid yw’n golygu y byddwch yn unig. Ond mae cysylltiad agos rhwng y ddau.

Mae problemau iechyd meddwl ym mhobman o’n cwmpas gydag un o bob pedwar o bobl yn profi problemau iechyd meddwl bob blwyddyn, gyda rhai yn para am flynyddoedd ac eraill am gyfnod byr o amser yn unig (1).

a white man leaves a tiled underpass

At hynny, mae un o bob chwech o bobl yn adrodd bod ganddynt broblem iechyd meddwl gyffredin fel gorbryder ac iselder bob wythnos (2).

Gyda phroblemau iechyd meddwl ar gynnydd (mae problemau iechyd meddwl cyffredin wedi cynyddu 20% rhwng 1993 a 2014 (2)), mae hyn yn peri pryder.

Mae astudiaethau wedi canfod y gall y rhai â phroblemau iechyd meddwl fod â theimladau dwysach o unigrwydd o gymharu â’r rhai heb broblemau iechyd meddwl.

Rydym yn fwy agored i niwed pan fyddwn yn teimlo’n unig, a allai fod yn un o’r rhesymau dros hyn.

Sgitsoffrenia

Nodweddir sgitsoffrenia gan ei symptomau, a all gynnwys rhithwelediadau a rhithdybiau.

Gall hyn arwain at feddyliau ac ymddygiad paranoiaidd a all ynysu rhywun ymhellach oddi wrth y rhai o’i gwmpas – bydd hyn yn cynyddu teimladau o unigrwydd yn yr unigolyn yn ogystal â chynyddu teimladau o ddiymadferthedd.

Symptom arall o sgitsoffrenia yw encilio a thynnu yn ôl o sefyllfaoedd cymdeithasol, sy’n cynyddu’r siawns y bydd gan rywun deimladau o unigrwydd.

Gall pobl â sgitsoffrenia ddatgysylltu oddi wrth realiti, a all ei gwneud hi’n anodd cysylltu ag eraill, gan arwain at unigrwydd.

 

Anhwylder deubegynol

Fe’i nodweddir gan newid hwyliau o un set o eithafion (hwyliau uchel a gorfoledd) i’r eithafion eraill (hwyliau isel ac iselder).

Gall y newid hwn mewn emosiynau arwain at ddryswch i’r rhai o gwmpas pobl â’r anhwylder hwn.

Gall diffyg dealltwriaeth arwain at bellhau oddi wrth ffrindiau a theimladau o unigrwydd i’r unigolyn.

Wrth brofi hwyliau isel eithafol, gall arwain at symptomau iselder sydd hefyd yn gysylltiedig ag unigrwydd.

 

ASD (anhwylder sbectrwm awtistiaeth)

Nodweddir ASD gan broblemau cyfathrebu cymdeithasol o ran iaith y corff, cyswllt llygad a deall sgyrsiau nad ydynt yn llythrennol.

Yn aml, gall hyn arwain at broblemau yn amgylchedd academaidd ac amgylchedd cymdeithasol unigolyn oherwydd gall eraill ei fwlio am beidio â deall pethau mewn ffordd ddisgwyliedig.

Gall hyn wneud i rywun deimlo’n unig yn ogystal ag achosi trafferth wrth wneud ffrindiau.

a child sits on a stool next to some toys while an adults works at a laptop

Iechyd meddwl, unigrwydd a thyfu i fyny

Mae pob un ohonom yn wynebu gwahanol heriau a sefyllfaoedd a all effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles ar wahanol gyfnodau yn ein bywydau.

Gall llawer o’r ffactorau hyn gyfrannu at unigrwydd.

loneliness statistic from NOS

Pobl ifanc yn eu harddegau a myfyrwyr

Gall gadael cartref, amgylcheddau newydd, dechrau ysgol uwchradd, coleg neu brifysgol, ochr yn ochr â datblygu a darganfod eich hun, fod yn amser anhygoel ond heriol hefyd.

Gall bod i ffwrdd o’r hyn rydych chi’n ei wybod ac wynebu’r anhysbys wneud i chi deimlo’n ynysig ac ar wahân i eraill.

Efallai fod y bobl o’ch cwmpas yn yr un sefyllfa ond yn delio â phethau mewn ffordd wahanol i chi.

Nid chi yw’r unig un, er y gallai deimlo felly weithiau.

Mae myfyrwyr a phobl ifanc yn eu harddegau yn profi problemau iechyd meddwl a theimladau o unigrwydd fwy a mwy bob blwyddyn.

Gall gofynion gwaith a chymdeithasu mewn amgylchedd newydd arwain at encilio a rhoi wal i fyny – hyd yn oed os nad ydych chi’n gwybod ei bod yno – fel ffordd o amddiffyn ein hunain.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae mwy o unigolion rhwng 16 a 24 oed yn nodi eu bod yn unig na’r henoed.

Oedolion

Nid yw materion sy’n cyfrannu at unigrwydd yn dod i ben pan gyrhaeddwn oedolaeth ond gallant ymddangos mewn gwahanol ffyrdd.

Problemau gyda gwaith, bywyd y cartref, adleoli neu golli rhywun agos – mae yna lawer o ffactorau a all arwain at inni deimlo’n unig ond mae yna ffyrdd i’ch helpu chi i ddod o hyd i’ch hun eto a dod o hyd i ffordd o gwmpas unigrwydd.

Yn aml, gallwn ymgolli yn y tasgau beunyddiol ac yna, un diwrnod, byddwn yn teimlo ein bod ni’n cael ein tynnu oddi wrth bawb a phopeth, ond ceisiwch gofio nad yw’n deimlad parhaol – bydd yn diflannu ac efallai mai’r unig beth y mae angen i chi ei wneud yw cymryd y cam cyntaf hwnnw.

Pob dros 60 oed

Mae unigrwydd yn aml yn cael ei drafod yng nghyd-destun y rhai sydd dros 60 oed.

Wrth inni heneiddio, rydym yn fwy tebygol o brofi galar wrth golli rhywun agos, gweld ychydig o bobl yn dilyn ymddeol, ac yn llai tebygol o fyw bywyd mor egnïol ag y gallem fod wedi ei wneud unwaith.

Gall cymharu sut yr oedd bywyd ar un adeg ac yn awr arwain at deimladau negyddol fel unigrwydd.

Nid yw’r ffaith bod eich tystysgrif geni yn nodi eich bod wedi cyrraedd carreg filltir yn golygu eich bod yn llai gwerthfawr na neb arall.

Nid ydych chi’n faich ar deulu, ffrindiau ac unrhyw un a allai eich cefnogi. Mae gennych oes gyfan o wybodaeth i’w rhannu ac yn deilwng o help pan ofynnwch amdani.

Beth gallaf i ei wneud i roi’r gorau i deimlo fel hyn?

  • Siarad â rhywun

    Codwch y ffôn, gan anfon neges WhatsApp neu destun os oes angen i chi siarad.

    Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn caniatáu inni gyrraedd pobl yn haws nag erioed o’r blaen – gallwch anfon neges at ffrindiau, teulu neu ddieithriaid a fydd yn rhywun i wrando arnoch neu eich cyfeirio at y rhai sy’n mynd trwy rywbeth tebyg a all gynnig cefnogaeth.

    Gall cychwyn sgwrs syml wneud byd o wahaniaeth a gwrando ar rywun i ddangos eich bod yn poeni os yw’n teimlo’n unig.

    Gall cyfaddef nad ydych chi’n teimlo’n dda neu’n cael trafferthion fod yn iachusol ynddo’i hun.

    Dylech gydnabod nad hwn ydych chi na phwy rydych chi am fod, yna gwnewch rywbeth yn ei gylch.

    Nid oes raid i chi deimlo fel hyn; efallai y byddwch chi’n teimlo eich bod chi wedi teimlo fel hyn erioed ond gallwch chi newid hynny.

a person in a red shirt speaks to a man on a laptop screen

  • Trefnu rhywbeth i’w wneud

    Pan nad ydym yn gwneud unrhyw beth, gall teimladau o unigrwydd fod yn fwy amlwg na phan fyddwn yn brysur.

    Gwnewch rywbeth rydych chi’n ei fwynhau p’un a yw hynny’n mynd am dro y tu allan, ymarfer corff ysgafn, darllen, gwylio rhaglen neu ffilm ddoniol, gwrando ar gerddoriaeth, pobi cacen, darlunio, neu gwrdd â ffrindiau.

    Dewch o hyd i rywbeth sy’n gwneud ichi deimlo’n dda – ceisiwch drefnu o leiaf un peth bob dydd.

    Symudwch ar eich cyflymder eich hun ond ceisiwch wthio’ch hun ychydig yn fwy bob dydd.

  • Cadw mewn cysylltiad â’r bobl sy’n annwyl i chi

    Cofiwch y gallai eraill o’ch cwmpas fod yn teimlo’r un ffordd â chi.

    Siaradwch â’ch anwyliaid: ffoniwch nhw, gofynnwch sut ydyn nhw – nid fel man cychwyn y sgwrs ond ei ffocws.

    Mae sgyrsiau am sut rydyn ni’n teimlo yn ein gwneud ni’n gryf ac yn caniatáu i ni gysylltu a lleddfu teimladau o unigrwydd.

    Os ydych chi’n cael profiad gwael gyda rhywun ddim yn eich deall neu’n ceisio cael gwared arnoch yna ceisiwch rywle arall.

    Cyfaddef i chi’ch hun nad ydych chi’n iawn yw’r cam cyntaf i’ch galluogi i estyn allan at y rhai sy’n gefnogol a gweithio’ch ffordd drwyddo gyda nhw.

  • Paid â bod ofn gofyn am help 

    Os ydych chi’n teimlo nad oes unrhyw beth yn gweithio, peidiwch â bod â chywilydd gofyn am help.Mae pobl yn aml yn teimlo’r angen i gladdu eu teimladau, a all yn aml wneud pethau’n waeth ac effeithio ar iechyd meddwl pobl.

    Gall siarad â gweithiwr proffesiynol am eich teimladau roi cyfeiriad i chi a’ch helpu i ddod o hyd i ble i fynd nesaf i leddfu’r emosiynau negyddol hynny.

    Siaradwch â’ch meddyg teulu neu therapydd, sydd yno i’ch cefnogi a’ch helpu i deimlo’n well.

young woman sitting in a window holding a rabbit

Cofiwch

  • Nid chi yw’r unig un sy’n teimlo fel hyn. Rydych chi’n gryf a gallwch chi ddod drwy hyn.
  • Codwch y ffôn a chychwyn y sgwrs – er mwyn eraill ac er mwyn chi’ch hun
  • Gofynnwch am help os ydych chi’n teimlo’n unig. Mae pobl yno i’ch helpu chi ac i wrando pan fyddwch chi’n barod.

Rhagor o wybodaeth

Cysylltiadau defnyddiol

Cyfeiriadau

  1. McManus, S., Meltzer, H., Brugha, T. S., Bebbington, P. E., & Jenkins, R. (2009). Adult psychiatric morbidity in England, 2007: results of a household survey.
  2. McManus S, Bebbington P, Jenkins R, Brugha T. (eds.) (2016). Mental health and wellbeing in England: Adult psychiatric morbidity survey 2014.
Jennifer Lloyd

Mae Jennifer yn fyfyriwr seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd ac ar leoliad gyda'r Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd