Skip to main content

Beth allwn ei wneud i atal unigrwydd?

Mae Dave, Hyrwyddwr Ymchwil y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH), yn rhannu ei argymhellion personol ar gyfer atal unigrwydd, yn enwedig yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud.

Mae’r llywodraeth yn dweud wrthym i aros gartref a dim ond mynd allan am fwyd, am resymau iechyd neu am waith hanfodol, i aros dau fetr i ffwrdd oddi wrth bobl eraill, ac i olchi ein dwylo cyn gynted ag y byddwn yn cyrraedd adref.

Mae llawer ohonom ni’n teimlo’n unig.

Fodd bynnag, mae pawb yn teimlo’n unig o bryd i’w gilydd ac ni ddylai’r teimladau tymor byr hyn niweidio ein hiechyd meddwl.

Fodd bynnag, po hiraf y bydd y pandemig yn parhau, po fwyaf y daw’r teimladau hyn yn rhai tymor hir.

Gall unigrwydd tymor hir fod yn gysylltiedig â risg uwch o rai problemau iechyd meddwl, gan gynnwys iselder, gorbryder a straen di-fudd.

Gall fod yn anodd iawn rheoli unigrwydd tymor hir ar iechyd meddwl.

Mae’n gyfnod heriol ac weithiau anodd, ond bydd yn mynd heibio.

Mae hynny’n golygu bod angen i ni addasu i’r ffordd rydyn ni’n cysylltu â phobl a dod o hyd i ffyrdd newydd o gadw mewn cysylltiad yn ystod yr amser hwn.

Yr adeg hon, yn fwy nag erioed, yw’r amser i gynnal y rhwydweithiau cymdeithasol cryf hynny er mwyn lleihau’r risg i’n hiechyd meddwl.

Bydd llawer o weithgaredd, partïon a dathliadau a rennir yn y dyfodol.

Am y tro, gadewch i ni fod mor garedig â phosib i ni’n hunain ac i eraill.

Fel y mwyafrif o bobl, mae fy mywyd a mecanweithiau ymdopi yn cael eu herio mewn ffyrdd nad wyf erioed wedi’u profi o’r blaen.

Ar adegau, rwyf wedi cael trafferth meddwl am y misoedd i ddod heb gyswllt wyneb yn wyneb â theulu a ffrindiau sy’n rhan o fy rhwydwaith cymorth.

Rwy’n mynd ati o hyd i ddweud wrthyf fy hun, er fy mod yn profi teimladau anodd, mae’n iawn teimlo fel hyn.

 

Awgrymiadau i helpu

Er bod yn rhaid i ni i gyd ddod o hyd i’n mecanweithiau ymdopi unigol ein hunain, hoffwn rannu gyda chi ychydig o bethau yr wyf wedi bod yn ceisio eu gwneud i frwydro yn erbyn fy unigrwydd fy hun:

  • Cadw mewn cysylltiad â ffrindiau ac anwyliaid trwy alwadau fideo, Whatsapp neu alwadau ffôn rheolaidd.
  • Ceisio cadw at arferion lle bo hynny’n bosibl; er enghraifft, rwy’n ceisio mynd i’r archfarchnad yr un bore bob wythnos.
  • Cynnal a chadw pethau yn y dyddiadur. Rhennais weithgareddau rhwng tasgau personol, angenrheidiol ac arferol.

  • Cynllunio a gosod nodau ar gyfer 2021. I mi, rwy’n anelu at sefydlu fy musnes hyfforddi bywyd fy hun.
  • Rwy’n hoffi cynllunio digwyddiadau yn y dyfodol yn fy nghalendr, sy’n rhoi rhywbeth i mi edrych ymlaen ato ac sy’n fy helpu yn yr ymdrech i gyflawni nodau personol, proses sydd wedi cael ei helpu gyda chymorth ffrind da sy’n hyfforddwr bywyd.
  • Cadw cysylltiad â’ch meddyg teulu – mae gen i sesiwn dal i fyny ar gyfer llesiant bob mis.
  • Ceisio cadw’ch ymennydd yn egnïol.

Rwyf wedi bod yn ymchwilio i gwisiau ar-lein ac yn eu chwarae gyda ffrindiau mewn meysydd sydd o ddiddordeb i’r ddwy ochr. Hyd yn hyn, rydym wedi ymdrin â hanes yr 20fed ganrif, cerddoriaeth Bob Dylan a helbulon Tottenham Hotspur FC.

  • Dal ati i geisio symud bob dydd.
    Rwyf wedi cadw fy nhrefn ymarfer corff fy hun ac mae’r cyfyngiadau symud wedi rhoi cyfle i mi ganolbwyntio o ddifrif ar fy angerdd am feicio a thennis.
  • Rwyf wedi gwneud cerddoriaeth yn rhan o fy mywyd bob dydd. Rwyf hyd yn oed yn ailddarganfod fy hen chwaraewr C60, sy’n ddeugain oed. Casetiau – gofiwch nhw?

colourful cassette tapes in four rows

  • Archwilio hen hobïau; rwyf wedi ailfywiogi fy nghariad at gelf a braslunio.
  • Herio eich hun os ydych chi’n teimlo fel gwneud hynny. Rwyf wedi dechrau profi fy nghorff anhyblyg trwy ddosbarthiadau ioga ar-lein.
  • Rhoi cynnig ar dasgau pleserus nad ydych efallai wedi cael amser ar eu cyfer o’r blaen. Rwyf wedi dechrau dogfennu fy nghoeden deulu, sydd hefyd wedi rhoi cyfle i mi gysylltu â’r teulu i ofyn am atgofion ac unrhyw gofnodion ffotograffig posib.
  • Mae cadw dyddiadur yn ddefnyddiol iawn i mi; rwy’n logio dyfyniadau ysbrydoledig dyddiol a phethau yr wyf yn ddiolchgar amdanynt.
  • Dod i adnabod eich cymdogion o bellter dau fetr. Rwyf wedi mwynhau mynd gyda chymydog ar deithiau cerdded beunyddiol a rhyngweithio â dieithriaid, megis pan roddais gyfarwyddiadau i deulu coll wrth gerdded.

    Gall gwên neu ‘fore da’ wneud byd o wahaniaeth i ddiwrnod rhywun.

2 women walk wearing masks and holding a takeaway coffee

  • Dod o hyd i grwpiau cymorth i drafod sut rydych chi’n teimlo – er enghraifft, grŵp cefnogaeth gan gymheiriaid ar-lein sy’n cael ei gynnal yn wythnosol gan yr elusen Mind.
  • Rwyf wedi dechrau gwirfoddoli ac wedi gwneud cais i ddod yn Llysgennad Deubegynol y DU.
  • Yn olaf, ceisio cynnal gweithredoedd caredig ar hap. Efallai cysylltu â rhywun rydych chi’n ei adnabod sy’n byw ar ei ben ei hun; gallai neges neu alwad ffôn fod yn help enfawr i rywun nad yw wedi clywed gan unrhyw un ers tro.

Rwy’n gobeithio bod yr awgrymiadau hyn wedi bod yn ddefnyddiol a chofiwch estyn am help os ydych chi’n cael trafferth.

Rhagor o wybodaeth

 

Cefnogaeth

Dave

Mae Dave wedi byw profiad o anhwylder deubegynol ond ni chafodd ddiagnosis tan ddiwedd ei pymthegau. Mae'n eiriolwr brwd dros godi ymwybyddiaeth o salwch meddwl a sut i ofalu am eich iechyd meddwl, ac mae'n Hyrwyddwr Ymchwil NCMH.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd