Skip to main content

Naw ffordd o helpu gydag unigrwydd adeg y Nadolig

Mae Ellie, myfyriwr seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, yn rhannu ffyrdd o helpu gydag unigrwydd adeg y Nadolig.

Mae pawb yn teimlo’n Nadoligaidd adeg y Nadolig… On’d ydyn nhw?

Y Nadolig yw’r adeg o’r flwyddyn lle mae teulu a ffrindiau’n dod at ei gilydd i ymlacio, lledaenu llawenydd, a mwynhau ychydig gormod o fwyd ac alcohol efallai.

Ond i rai unigolion, pobl sydd â llai o deulu a ffrindiau ac sy’n cael trafferth gyda salwch meddwl, mae gas ganddyn nhw fisoedd y gaeaf – gan gynnwys y Nadolig.

Gall y Nadolig hefyd deimlo fel adeg lle mae llawer o bwysau i fwynhau amser gyda’ch teulu, wrth i’r cyfryngau fynd ymlaen ac ymlaen am y “Nadolig perffaith” delfrydol, ond nid yw’r un teulu yn berffaith!

Am adeg o’r flwyddyn sydd i fod yn llon, mae’r Nadolig yn gallu teimlo’n llethol iawn.

Effaith COVID-19 ar unigrwydd

Fe wnaeth cyfyngiadau COVID-19 waethygu teimladau rhai pobl o unigrwydd yn 2020. Roedd y Nadolig y llynedd yn arbennig o anodd gan fod llawer o bobl nad oedd modd iddyn nhw weld unrhyw un o’u teulu oherwydd y cyfyngiadau, ac am eu bod eisiau cadw aelodau bregus o’u teulu’n ddiogel.

Ar ôl Nadolig rhyfedd a braidd yn unig yn 2020, gallwn groesi ein bysedd am un gwell eleni.

Yn 2018, cyn y pandemig, canfu Age UK fod dros 530,000 o bobl dros 65 oed yn disgwyl teimlo’n unig adeg y Nadolig, ac roedd llawer heb weld na siarad ag unrhyw deulu neu ffrindiau ers dros fis.

Roedd pedwar o bob pump o bobl heb gysylltu â rhywun am help.

Woman touching a Christmas tree

Awgrymiadau ar gyfer cadw mewn cysylltiad adeg y Nadolig

Mae amgylchiadau pob unigolyn yn wahanol ac ni fydd pawb yn gallu defnyddio’r awgrymiadau hyn, ond rwy’n annog pobl i roi cynnig arnyn nhw yn dibynnu ar eu sefyllfa unigol.

1 Cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd

Mae’n hanfodol cadw mewn cysylltiad ag anwyliaid lle bo hynny’n bosibl.

Mae’r rhyngrwyd yn wych ar gyfer hyn, yn enwedig pan nad yw gweld eich teulu wyneb yn wyneb yn opsiwn.

Ffonio pobl yw’r peth gorau os na allwch eu gweld wyneb yn wyneb, ac mae’n gymharol hawdd galw rhywun ar y ffôn neu drwy fideo.

Mae modd gwneud hyn drwy lawer o wahanol blatfformau gan gynnwys Zoom, Google Meets, FaceTime, WhatsApp, Facebook Messenger a Microsoft Teams.

Beth bynnag yw eich dewis, gall galwad fideo wneud byd o wahaniaeth.

Two people looking at a tablet device and smiling

2 Dewch i adnabod eich cymdogion

Mae dod i adnabod pobl newydd yn gallu bod yn frawychus ar y dechrau ond mae’n rhaid i gyfeillgarwch mawr ddechrau yn rhywle…

Os ydych chi’n byw drws nesaf i rywun, beth am ofyn a ydyn nhw eisiau cwrdd? Beth yw’r peth gwaethaf a allai ddigwydd?

3 Gwirfoddolwch

Mae cymryd rhan yn y gymuned yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a rhoi cynnig ar ddiddordebau newydd.

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o deimlo’n dda am eich hun gan eich bod chi’n helpu pobl eraill yn ogystal â’r gymuned.

Os yw hyn yn apelio atoch chi ac os oes gennych chi’r amser, gall teipio ‘gwaith gwirfoddoli’ i mewn i’ch peiriant chwilio ddangos nifer o gyfleoedd yn eich cymuned leol – ewch amdani!

A woman comforts an older woman

4 Ymunwch â chlwb neu cymerwch ran mewn chwaraeon

Dydych chi byth yn rhy hen i ymuno â chlwb neu dîm chwaraeon, a gall hyn fod yn fuddiol iawn.

P’un a yw’r clwb yn un ar-lein neu’n un wyneb yn wyneb, mae hynny’n dal i roi cyfle i ryngweithio ag eraill tra’n gwneud rhywbeth newydd rydych chi’n ei fwynhau.

Mae cymryd rhan mewn chwaraeon o ryw fath yn ffordd wych o gadw’n iach.

O brofiad personol, roedd nofio ac ioga wedi helpu fy iechyd meddwl ac wedi fy helpu i gadw at drefn ddyddiol.

Gallech ddewis unrhyw fath o chwaraeon: o gerdded neu ioga i chwarae pêl-droed mewn tîm.

Mae cadw’n heini mor fuddiol. Rydyn ni’n gwybod ei fod yn rhyddhau endorffinau sy’n codi ein hwyliau a’i fod yn gallu helpu gydag iselder.

5 Cyflogwch ofalwr

Os ydych chi’n poeni bod rhywun oedrannus yn eich teulu yn rhy unig, efallai y gallech gyflogi gofalwr ar ei gyfer. Gallai hyn helpu i wella ei iechyd meddwl a’i helpu i fod yn fwy cymdeithasol.

Bydd gofalwr hefyd yn gofalu amdano ac yn sicrhau bod ei iechyd corfforol a’i lendid yn dda.

6 Gwnewch yn siŵr eich bod yn dal i fynd allan, hyd yn oed ar eich pen eich hun

Mae bob amser yn bwysig mynd allan, y peth gwaethaf y gallwch ei wneud yw cau eich hun i ffwrdd yn eich tŷ.

Fodd bynnag, nid yw mynd allan yn golygu bod angen i chi wneud taith ddeng milltir bob dydd. Mae taith gerdded fach yn ddigon i gael awyr iach a newid golygfa.

Gallech hefyd fynd allan am bryd o fwyd neu i’r sinema, a does dim ots a ydych chi’n gwneud hyn ar eich pen eich hun neu gydag eraill.

Christmas-shaped biscuits with Christmas decorations

7 Cofiwch goginio!

Bwyd yw un o’r pethau gorau am y Nadolig, yn fy marn i, ac os ydych chi ar eich pen eich hun, nid yw hynny’n golygu na allwch chi gael bwyd anhygoel.

Coginiwch wledd Nadoligaidd i’ch hun, a’i goginio yn y ffordd sy’n well gennych chi. Defnyddiwch eich hoff gynhwysion er mwyn gallu pobi a choginio eich hoff bethau.

Gall coginio a phobi fod yn weithgareddau sy’n tynnu eich sylw, a gall hyn helpu gyda straen. Yn ogystal ag edrych yn dda, mae hefyd yn arogli’n anhygoel!

8 Mwynhewch y cyfle i dreulio ychydig o amser yn eich cwmni eich hun

Weithiau nid oes modd osgoi bod ar eich pen eich hun adeg y Nadolig. Os yw hyn yn wir i chi, ceisiwch fwynhau’r profiad.

Gallwch gynllunio’r diwrnodau o’ch blaen a’u llenwi gyda’ch hoff weithgareddau, fel gwylio eich hoff ffilmiau Nadolig neu ddawnsio i gerddoriaeth Nadoligaidd.

Gallwch hefyd goginio a bwyta beth bynnag rydych chi’n ei hoffi heb boeni am ffraeo gydag unrhyw un arall dros y losin olaf neu dros ba sioe deledu i’w gwylio.

9 Siaradwch â rhywun

Ni ddylai unrhyw un orfod wynebu problemau ar ei ben ei hun. Os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl, siaradwch â rhywun am sut rydych chi’n teimlo.

Siaradwch â’ch meddyg teulu os oes modd, ond os nad yw hynny’n bosibl, mae elusennau’n bodoli sy’n cynnig cymorth:

Mae’n bwysig cofio nad oes unrhyw beth o’i le ar fod ar eich pen eich hun adeg y Nadolig, nid yw hynny’n adlewyrchu unrhyw beth negyddol amdanoch chi fel person.

Ac er bod llawer o bobl yn teimlo’n unig adeg y Nadolig, mae’r teimlad hwn yn gallu parhau drwy gydol y flwyddyn. Fodd bynnag, mae’r Nadolig hefyd yn adeg wych o’r flwyddyn i gysylltu ag eraill a’r gymuned gyfan.

Gobeithio y cewch chi i gyd Nadolig Llawen!

Darllen rhagor

Ellie Daniel

Mae Ellie yn fyfyriwr seicoleg ym mhrifysgol Caerdydd ac ar hyn o bryd mae ar leoliad gyda NCMH.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd